Para 4.5
Ni ellid dweud yr un peth am deyrnasiad ei fab. Cafodd y llanc o frenin, Edward VI (1547-1553), ei wthio gan ei gynghorwyr ymhell ac yn gyflym ar hyd y ffordd at wladwriaeth Brotestannaidd. Roedd tri phrif duedd yn y newid. Yn gyntaf, cafwyd rhagor o gyrchoedd ar eiddo'r eglwys, fel siantrïau a cholegau, a waddolwyd i gynnig gweddïau dros y meirw, a chipiwyd offer ac addurniadau eglwysi dan faner diwygio. Yn ail, cafodd llawer o nodweddion arferion crefyddol canoloesol a oedd yn annwyl gan y bobl eu diddymu; dinistriwyd delweddau, lluniau a chroglofftydd; cafwyd gwared ar ddiwrnodau saint a seremonïau traddodiadol; a disodlwyd allorau gan fyrddau. Yn drydydd, ac yn fwyaf arwyddocaol, cafodd y Llyfr Gweddi Gyffredin Protestannaidd Cyntaf (a’r Ail) Saesneg eu hiaith eu cyflwyno yn 1549 a 1552 ar draul y llyfrau gwasanaeth Catholig, Lladin eu hiaith. Parodd hyn anhawster mawr yng Nghymru, lle nad oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn deall Saesneg. Cafodd yr holl newidiadau hyn dderbyniad gwael iawn yng Nghymru. Roeddent wedi cael eu cyflwyno yn llawer rhy sydyn i boblogaeth a oedd i raddau helaeth yn amharod ar eu cyfer, ac a oedd yn eu gweld yn estron ac annealladwy. Mae rhywfaint o farddoniaeth y cyfnod yn dangos pa mor chwerw oedd y gwrthwynebiad (4J) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
