Para 4.9

Ar ôl i Elisabeth olynu Mari yn Nhachwedd 1558, un o'i gweithredoedd polisi cyntaf yng ngwanwyn 1559 oedd sefydlu Eglwys Anglicanaidd ofalus a chymedrol yn seiliedig ar Ail Lyfr Gweddi’r cyfnod Edwardaidd a gyhoeddwyd ym 1552. Fel y bu, sicrhaodd y setliad hwn lwyddiant y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei dderbyn yng Nghymru heb wrthwynebiad, ond heb unrhyw frwdfrydedd chwaith. Yn rhannol, digwyddodd hyn o barch i'r Eglwys 'a sefydlwyd yn ôl y gyfraith', yn rhannol gan fod pobl yn ansicr beth allai ddigwydd yn y dyfodol pe bai Elisabeth yn priodi neu’n marw, yn rhannol oherwydd y dryswch a achoswyd gan y newidiadau cyflym blaenorol, yn rhannol drwy bwyll, ac yn rhannol gan nad oedd eu hymrwymiad i grefydd mor ddwys fel ei fod yn ysgogi dynion i roi eu hunain mewn perygl. Drwy gydol teyrnasiad Elisabeth (1558-1603), parhaodd cryn dipyn o ddifaterwch, ansicrwydd a chyfaddawdu anesmwyth. Roedd teyrngarwch màs digon anadweithiol y boblogaeth yn destun brwydr gan ddau leiafrif - un yn Gatholig, y llall yn Brotestannaidd - y ddwy ochr yn groyw, ymroddedig a phenderfynol. Roedd ganddynt lawer yn gyffredin. Roedd y ddau yn ddiffuant o wladgarol ac yn drwm dan ddylanwad dysg y Dadeni. Roedd y naill a’r llall yn ymrwymedig i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ymdrech i godi lefel y gred a phuro addoliad ac ymddygiad. Roedd y Pabyddion eisiau gweld y grefydd Rufeinig yn adfywio ac yn cael ei glanhau o’i gormodedd. Roedd eu gwrthwynebwyr yn dymuno cyflwyno cred ac addoliad Diwygiedig yn seiliedig ar awdurdod yr Ysgrythurau. Ni allai’r naill na’r llall, fodd bynnag, anwybyddu ystyriaethau gwleidyddol, a oedd yn parhau i gael dylanwad pendant. Roedd arweinwyr y gwrthwynebiad Catholig yng Nghymru, yn glerigwyr fel Gruffudd Robert neu Owen Lewis, neu’n gynllwynwyr lleyg fel Hugh Owen neu Thomas Morgan, yn gweithio’n bennaf o ganolfannau Catholig yn Ewrop - Rhufain, Milan, Douai neu Paris. Roeddent hwy a'u cefnogwyr yng Nghymru yn dibynnu ar dri phrif offeryn wrth geisio sicrhau adnewidiad Catholig. Yn gyntaf, roedd dynion ifanc a hyfforddwyd yn offeiriaid yn y seminarïau fel y rhai yn Douai neu Rufain a smyglwyd yn ôl i'r wlad i weinidogaethu yn y dirgel. Cafodd tua chant eu recriwtio yng Nghymru, er mai dim ond lleiafrif bach ddaeth yn ôl yno i weinidogaethu. Yn ddewr ac yn gwbl ymroddedig, roeddent yn wynebu erledigaeth a hyd yn oed farwolaeth gyda dewrder mawr (4O) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Yn ail, cyhoeddodd y Catholigion lyfrau, llawysgrifau a cherddi, yn Gymraeg a Saesneg, yn amlinellu eu ffydd a'u dosbarthu yn ddirgel ymhlith y ffyddloniaid (4P). Fe wnaethant hyd yn oed sefydlu tair gwasg fyrhoedlog yng Nghymru. Yn drydydd, fe wnaethant gymryd rhan mewn plotiau a chynllwynion a gynlluniwyd i lofruddio Elisabeth, codi gwrthryfeloedd a threfnu goresgyniad tramor. Er bod rhai Cymry ymhlyg mewn cynllwynio o'r fath, nid oeddent yn boblogaidd ac roeddent yn tueddu i ryddhau adlach wladgarol bwerus yng Nghymru (4Q). Erbyn diwedd teyrnasiad Elisabeth dim ond 808 o reciwsantiaid (gwrthwynebwyr Catholig agored) oedd o'i gymharu â 212,450 o eglwyswyr rheolaidd. Roedd y Gwrthddiwygiad wedi methu; roedd y dasg o oresgyn y llywodraeth Brotestannaidd a’r sefydliad yn rhy aruthrol.