Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 1 June 2023, 7:12 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2023 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Thursday, 1 June 2023, 7:12 PM

Uned 5 Mudo yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif

Rhagair (Bill Jones)

Cyhoeddwyd traethawd yr Athro John Williams ‘The move from the land’ yn gyntaf yn Wales 1880–1914 (1988), cyfrol yn y gyfres ‘Welsh History and its Sources’. Nid yw’n syndod mai Williams (1927–2004) a wahoddwyd gan y golygyd dion i ysgrifennu traethawd ar symudiadau’r boblogaeth yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ar gyfer eu cyfrol. Am ddegawdau tan ei farwolaeth ef oedd yr awdurdod pennaf ar hanes economaidd Cymru fodern.

Ganed a maged Williams yng Nghaerdydd a bu’n Athro Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyhoeddodd yn helaeth ar wahanol agweddau ar hanes economaidd, diwydiannol, llafur a chymdeithasol Cymru. Mae ei lyfrau’n cynnwys y gyfrol The South Wales Coal Industry 1841-1875 (1958), a ysgrifennodd ar y cyd â J.H. Morris. Hefyd cyhoeddodd yn eang ar hanes economaidd a chymdeithasol rhyngwladol a Phrydain ond cadwodd ei ddiddordeb yn hanes ei wlad ei hun ar hyd y blynyddoedd. Ailargraffwyd nifer o’i draethodau pwysig sydd wedi ysgogi trafodaeth ar bynciau hanes Cymru yn Was Wales Industrialised? Essays in Modern Welsh History (1995). Mae wedi cyfrannu’n helaeth at yr astudiaeth o hanes Cymru nid yn unig trwy ei gyhoeddiadau ond hefyd trwy ei waith diflino i Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, y bu’n Gadeirydd ac yn ddiweddarach yn Is-gadeirydd arni, a’i Digest of Welsh Historical Statistics (1985).Ysgrifennodd y ddwy gyfrol amhrisiadwy hyn o ystadegau oherwydd ei fod yn credu bod ‘the quantitative element is a necessary and important part of the historical record;... awareness that it was an aspect that was particularly inaccessible for scholars of Welsh history; and... conviction that some encouragement in the use of quantitative material was necessary’ (Williams, 1985, cyfrol. 1, t. vii).

Efallai y bydd angen esboniad pellach o rai o’r cyfeiriadau yn nhraethawd Williams i helpu darllenwyr i ddeall y traethawd yn llawnach. Mae ei drafodaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o Gymru pan oedd y wlad wedi ei rhannu’n dair sir ar ddeg nes i’r drefn honno gael ei disodli ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Y rheswm am hynny yw bod cofnodion y cyfrifiad ar gyfer y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif wedi eu llunio yn unol drefn honno (gweler paragraff 5.2). (Yn 1995 roedd Cymru wedi ei rhannu’n 22 o awdurdodau unedol ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol am yr eildro.) Mae ‘gostyngiad net’ (paragraff 5.5) yn cyfeirio at faint y boblogaeth a gollwyd drwy fudo. Mae’n golygu faint yn fwy o fudwyr a symudodd o Gymru neu sir benodol nag o fewnfudwyr a ymsefydlodd yng Nghymru neu sir benodol yn ystod yr un cyfnod. Mae ffermio ‘da byw’ a ‘ffermio âr’ ym mharagraff 5.13 yn cyfeirio at ffermio anifeiliaid a’r tir (tyfu cnydau ac ati). Mae nifer o gyfeiriadau penodol at wahanol agweddau ar allfudo tramor o Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym mharagraff 5.14. Mae ‘Patagonia’ yn cyfeirio at sefydlu’r Wladfa yn Nyffryn Chubut yn yr Ariannin yn 1865. Y nod oedd creu math o wladwriaeth Gymreig, lle’r oedd y Gymraeg yn iaith swyddogol. Yn 1890 cyflwynwyd ‘tariff McKinley’ yn UDA, a oedd yn gosod tolldal uchel ar fewnforio tunplat. Ar y pryd, diwydiant tunplat de Cymru oedd yn cyflenwi’r rhan helaeth o’r tunplat a oedd yn cael ei fewnforio gan America. O ganlyniad i’r tariff ymfudodd nifer fawr o weithwyr a’u teuluoedd o ardal Llanelli-Abertawe, canolbwynt y diwydiant yng Nghymru. Daeth y gweithwyr tunplat o hyd i waith yng ngweithfeydd tunplat newydd America, mewn llefydd fel Philadelphia a Newcastle ym Mhennsylvania.

Mae traethawd Williams yn cynnwys trafodaeth helaeth ar waith yr economegydd, yr hanesydd economaidd a’r demograffwr yr Athro Brinley Thomas (1906-1994). Mae Thomas yn cael ei gydnabod yn eang fel un o ysgolheigion blaenllaw Cymru yn y cyfnod modern. Fe’i ganed ym Mhontrhydyfen yng nghymoedd diwydiannol de Cymru. Bu’n Athro ac yn Bennaeth yr Adran Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn awdurdod byd-eang ar symudiadau cenedlaethol a rhyngwladol pobl a chyfalaf, ac mae ei weithiau’n cynnwys Migration and Economic Growth (1954). Ond mae’n fwyaf adnabyddus yng Nghymru am ei draethawd hir sy’n dadlau bod y datblygiad diwydiannol yng Nghymru ‘wedi achub’ yr iaith Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r traethawd dadleuol hwn wedi ei herio’n helaeth ond mae’n dal yn un o’r gweithiau allweddol ar hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Y gerdd a ddyfynnir gan Williams ar ddiwedd y traethawd yw ‘The Deserted Village’ gan y dramodydd, y bardd a’r nofelydd Oliver Goldsmith (1730–1774). (Roedd Williams yn hoff iawn o farddoniaeth). Cyhoeddwyd y gerdd yn 1769 ac mae’n hiraethu am hen ffyrdd o fyw sydd wedi diflannu o ardaloedd gwledig, paradwysaidd yn ôl y bardd.

Er bod traethawd Williams, ‘The move from the land’ wedi cael ei ysgrifennu tua ugain mlynedd yn ôl, mae’n parhau i fod yn enghraifft ragorol o ysgrifennu ar hanes. Ceir nifer o ddarluniau cyfoethog o’r cysylltiad rhwng economi, demograffi a chymdeithas ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae’r gofal a’r pwyll a amlygir yn y ffordd y mae Williams yn ymchwilio i’r dystiolaeth cyn cyflwyno ei ddadleuon yr un mor drawiadol. Mae’r traethawd yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth yr awdur o’i bwnc a dyfnder ac ansawdd ei sgiliau fel un o haneswyr gorau Cymru yn y cyfnod diweddar.

Symud o’r tir (John Williams)

Para 5.1

Mae’n werth ceisio deall y gorffennol, er nad ydym yn llwyddo i wneud hynny bob amser. Y rheswm am hyn yw bod cymaint o wahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad economïau, cymdeithasau a gwledydd. Gall cymdeithasau gael eu dylanwadu (i raddau) gan bersonoliaethau neu bartïon; gallant gael eu dylanwadu gan ddigwyddiadau dramatig hysbys; gallant gael eu cyfyngu gan sefydliadau neu arferion sydd wedi eu sefydlu; a gallant gael eu heffeithio gan symudiadau eang, anhysbys. Mae’r newidiadau yn y boblogaeth gan mwyaf yn dod o dan y categori diwethaf. Maent yn digwydd heb i ni sylwi ond efallai bod mwy o arwyddocâd iddynt nag ystyriaethau amlycach fel streiciau, terfysgoedd, unigolion fel Lloyd George, y blaid Ryddfrydol a chapeli Anghydffurfiol.

Para 5.2

Mae’n gwbl amlwg, a dweud y lleiaf, fod pob agwedd ar hanes modern wedi cael ei dylanwadu’n enfawr gan y twf digynsail yn y boblogaeth. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg effeithiodd hyn yn arbennig ar Ewrop; yn yr ugeinfed ganrif, effeithiodd ar y byd i gyd. Un nodwedd gysylltiedig yw’r newid yn y boblogaeth wrth i bobl symud o fewn gwledydd a rhwng gwledydd. Yn sicr, roedd y tueddiadau cyffredinol hyn i’w gweld yng Nghymru. Yn 1801 poblogaeth Cymru oedd 587,245; 1,163,000 yn 1851; 2,013,000 yn 1901. Felly, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyblodd y boblogaeth yn hanner cyntaf y ganrif, ac yna dyblodd (bron iawn) unwaith eto yn yr ail hanner: roedd hyn, fwy neu lai, yn adlewyrchu’r patrwm cyffredinol ym Mhrydain gyfan. O ran Cymru, daeth y cynnydd mwyaf dramatig ar ddiwedd ein cyfnod. Mewn un degawd rhwng 1901 a 1911 bu cynnydd o dros 400,000 o bobl ym mhoblogaeth Cymru. Felly profodd Cymru hefyd y cynnydd cyffredinol yn y boblogaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hefyd gwelwyd y duedd gyffredinol i’r boblogaeth gael ei hailddosbarthu: yn achos Cymru symudodd cydbwysedd y boblogaeth tua’r gwaelod - yn 1801 roedd llai nag 20 y cant o boblogaeth Cymru mewn dwy sir, sef Morgannwg a Sir Fynwy; erbyn 1911 roedd bron i 63 y cant o’r bobl yn y ddwy sir yma. (Trwy’r traethawd hwn, trafodir y sefyllfa ar sail y 13 sir, gan mai ar sail y drefn hon y lluniwyd holl ddeunyddiau’r cyfrifiad.) Un rhan o’r stori hon a drafodir yma. Fodd bynnag, roedd y rhan honno - y symud o’r tir - yn arbennig o nodweddiadol o’r cyfnod rhwng 1880 a 1914.

Para 5.3

Sut ydym yn gwybod hyn? Nid yw mor hawdd ag y mae’n ymddangos i ddeall pam y symudodd pobl o ardaloedd gwledig Cymru. Nid yw’r duedd hon o symud yn cael ei hadlewyrchu gan ostyngiad mawr yn y boblogaeth mewn ardaloedd amaethyddol. Yn wir, mewn dwy sir yn unig (Sir Aberteifi a Sir Drefaldwyn) yr oedd y boblogaeth yn 1911 yn sylweddol is nag yn 1851. At hynny, nid oes unrhyw ffigyrau uniongyrchol ar fudo yng nghofnodion y cyfrifiad am y cyfnod hwn. O ystyried hyn dylem ddarllen unrhyw ddatganiadau am fudo’n fanwl a gofalus. Fodd bynnag, gellir tynnu darlun cyffredinol yn eithaf hyderus ar sail o leiaf ddwy ystyriaeth. Yn y lle cyntaf, gwyddom o ffigurau’r cyfrifiad cyffredinol fod poblogaeth Cymru a Lloegr, a phoblogaeth Cymru ei hun, bron wedi dyblu rhwng 1851 a 1911. Gwyddom hefyd fod y cynnydd, yn fwy na thebyg, wedi deillio o’r ffaith bod mwy o bobl wedi eu geni a/neu fod llai wedi marw a/neu fod symudiad net pobl i’r gwledydd hyn: ond ni wyddom yn sicr pam bod cyfraddau geni a marw’n newid na pham hyd yn oed fod pobl yn mudo. Hynny yw, nifer cymharol fach a syml o achosion sy’n peri newid mewn poblogaeth (genedigaethau: marwolaethau: mudo) ond mae’r achosion gwirioneddol yn niferus ac yn anodd eu diffinio. Yn ffodus nid oes raid dweud yn union beth oedd yr achosion terfynol i ddiben y mater dan sylw yma. Digon yw sylwi bod y gwahaniaethau yng nghyfraddau’r newid yn y boblogaeth rhwng y gwahanol siroedd yng Nghymru’n rhy fawr i allu eu hesbonio’n syml a llawn gan y gwahanol gyfraddau geni a marw. Felly mae’n rhaid bod mudo wedi chwarae rhan yn hyn o beth. Yn wir, roedd peth o’r amrywiad yn y cyfraddau geni a marw’n sicr yn deillio o fudo. Wrth gwrs, roedd y ffaith bod pobl yn symud i mewn i rai ardaloedd ac allan o eraill yn dylanwadu ar strwythur y boblogaeth mewn rhai ardaloedd a byddai hyn, dros amser, yn dylanwadu ar y bras amcan o’r cyfraddau geni a marw sylfaenol (h.y. y gyfradd i bob 1,000 o gyfanswm y boblogaeth waeth beth fo’r strwythur oedran). Ond ar wahân i hyn, mae’n debygol mai mudo sydd i gyfrif yn bennaf am y gwahaniaethau rhwng cyfraddau cynnydd yn y boblogaeth mewn gwahanol wledydd.

Ffigur 5.1 Cyfanswm poblogaeth 1881

Para 5.4

Mae’r awgrym hwn yn cael ei gadarnhau gan yr ail ystyriaeth. Mae’n bosibl cyfrifo graddau a chyfradd cynnydd naturiol (h.y. faint yn fwy o enedigaethau na marwolaethau) i bob sir o 1841 ymlaen. Roedd y ffigur yn gadarnhaol i bob sir yng Nghymru am bob degawd hyd at 1911. Felly dylai poblogaeth bob sir fod wedi codi ar sail y cynnydd naturiol: fodd bynnag, mewn nifer o achosion roedd y cynnydd gwirioneddol yn llawer llai (ac mewn rhai siroedd roedd gostyngiad gwirioneddol i’w weld mewn rhai degawdau). Mae’n rhaid priodoli’r gwahaniaeth i’r ffaith bod pobl wedi symud o’r siroedd arbennig hynny.

Ffigur 5.2 Cyfanswm poblogaeth 1911

Para 5.5

Mae patrwm y mudo net sydd i’w weld yn siroedd Cymru o’r ymarfer hwn yn eithaf cymhleth (5Ai  a 5Aii). Serch hynny, mae ychydig o bwyntiau sylfaenol sy’n berthnasol i’n problem yn dod i’r amlwg. Yn benodol, gan ddechrau gyda’r degawd sy’n dod i ben yn 1851, mewn pum sir - Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro a Sir Faesyfed - gwelwyd gostyngiad net yn sgil mudo ym mhob un degawd (5B). At hynny, mewn pedair sir arall - Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint a Sir Feirionnydd - roedd gostyngiad net ym mhob degawd heblaw am un.

Para 5.6

Yn y siroedd hyn felly y collwyd y niferoedd mwyaf yn sgil mudo yn yr hanner canrif neu fwy cyn 1914. Cyn y gallwn ddod i’r casgliad fod hyn yn cynrychioli patrwm o symud o’r tir, fodd bynnag, mae angen i ni wybod beth oedd yn digwydd i’r boblogaeth gyfan yn y siroedd hyn yn ystod y degawdau hyn, a chael dangosydd rhesymol i brofi’r patrwm hwn o gefnu ar amaethyddiaeth. Mae’r newid a fu yn Sir Gaerfyrddin yn dangos bod angen ymdrin â’r pwynt cyntaf hwn yn ofalus. Fel y nodwyd eisoes, gwelwyd gostyngiad net ym mhoblogaeth y sir hon oherwydd mudo yn ystod pob degawd ac eithrio’r degawd rhwng 1910 a 1911. Serch hynny, ym mhob un degawd, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth gyfan. Hynny yw, rhan yn unig o’r cynnydd naturiol yn y boblogaeth oedd yn symud yn sgil y mudo net. Roedd pobl yn symud i ffwrdd ond roedd mwy o bobl wastad yn aros ar ôl. A oedd hyn yn cynrychioli symudiad o’r tir? Mae hwn yn gwestiwn diddorol.

Para 5.7

Wrth gwrs mae’n bosibl, hyd yn oed yn debygol, fod gostyngiad gwirioneddol yn y boblogaeth amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin ond fod y cynnydd yn sectorau diwydiannol y sir yn gwneud iawn am y gostyngiad hwnnw. Mae’n amlwg y byddai angen astudiaeth llawer manylach cyn y gellid penderfynu’n sicr bod patrwm o’r fath yn bodoli: amlygir yr angen i fod yn ofalus yn y ffaith gyffredinol mai gostyngiad o 12,900 i 11,300 yn unig a welwyd yn nifer y dynion mewn amaethyddiaeth rhwng 1851 a 1911 (G.B. Longstaff, ‘Rural Depopulation’, Journal of the Royal Statistical Society, LVI, 1893, Tablau IV a V). Gellid dweud yr un peth am siroedd eraill lle gwelid fel arfer ostyngiadau net yn sgil mudo ond cynnydd cyson yn y boblogaeth gyfan. Y siroedd hyn oedd Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych a Sir Fynwy. Sir Forgannwg oedd yr unig sir lle gwelwyd cynnydd net oherwydd mudo ym mhob degawd, ac wrth gwrs arweiniodd hynny at gynnydd mawr yn y boblogaeth gyfan ym mhob degawd. Mae Sir Fynwy’n arbennig o ddiddorol, oherwydd er gwaethaf diwydiannu trwm, bu gostyngiad net yno oherwydd mudo ym mhedair o’r saith degawd ar ôl 1851 er bod maint y cynnydd naturiol (mwy o enedigaethau na marwolaethau) wedi sicrhau bod y boblogaeth gyfan wedi cynyddu ym mhob degawd. Yn wir, mewn rhai agweddau, mae’r sir yn uned rhy fawr i gynnwys y patrwm hwn o ‘symud o’r tir’. Mae gan bob sir, waeth pa mor wledig y mae'n ymddangos, ganolfannau trefol a phocedi o ddiwydiant neu fwyngloddio. Mae rhai o’r cymhlethdodau sydd ynghlwm â hyn newydd eu dangos (mae ymgais i ddiffinio’r boblogaeth wledig yn fanylach yn A.L. Bowley, ‘Rural Population in England and Wales’, Journal of the Royal Statistical Society, LXXVII, 1914). Ond mewn agweddau pwysig eraill mae’r sir fel uned yn fantais. O safbwynt hanes Cymru, nid symudiadau o fewn sir oedd y patrwm hwn o ‘symud o’r tir’ yn y bôn, ond yn hytrach newid sylfaenol yng nghydbwysedd y boblogaeth rhwng gwahanol ranbarthau’r wlad yn gyffredinol.

Para 5.8

Ym mhob achos, ffactor allweddol y siroedd lle’r oedd allfudo i’w weld fel y nodwedd demograffaidd amlycaf oedd: gostyngiad net cyson yn y boblogaeth oherwydd allfudo ynghyd â degawdau cyson lle’r oedd yna hefyd ostyngiad llwyr yn y boblogaeth gyfan. Y siroedd a effeithiwyd oedd Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd (am ein cyfnod penodol o 1800 ymlaen), Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Dyma’r siroedd lle bu symudiad pendant/clir allan ohonynt. A oedd hwn yn symudiad o’r tir hefyd?

Para 5.9

Y dangosydd mwyaf defnyddiol yn y cyd-destun hwn fyddai edrych i weld ai siroedd amaethyddol oedd y rhain yn bennaf. A gellir dangos hynny orau trwy edrych ar ganran y boblogaeth weithio gyfan sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth (5C). Ar y sail hon, mae’n ymddangos mai’r siroedd lle gwelwyd y lefel uchaf o allfudo oedd y rhai mwyaf amaethyddol. Hyd yn oed yn 1911, pan oedd llai na 12 y cant trwy Gymru gyfan yn gweithio ar y tir, roedd gan bob un o’r tair sir, Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a Sir Aberteifi, hanner eu gweithwyr gwrywaidd yn gweithio yn y diwydiant amaeth (roedd gan Sir Feirionnydd draean, a Sir Frycheiniog bron i chwarter).

Para 5.10

Yr hyn sydd wedi ei bwysleisio hyd yma yw bod symudiadau yn y boblogaeth yn gymhleth ac yn aml yn ddryslyd, yn arbennig os nad oes unrhyw wybodaeth uniongyrchol yn y cyfrifiad ar fudo. Serch hynny mae’r dystiolaeth wedi dangos, fwy neu lai, bod y boblogaeth yng Nghymru wedi ei hailddosbarthu i raddau helaeth ac mai un nodwedd amlwg o’r newid hwn oedd y ffaith fod pobl yn symud o’r wlad. Mae’n dal yn amhosibl dweud yn gwbl sicr pwy yn union a symudodd, ond awgrymir yn gryf mai un elfen oedd y llif o amaethyddiaeth. Yn y lle cyntaf, er bod cyfanswm y boblogaeth wedi dyblu, bu gostyngiad yng nghyfanswm y nifer a oedd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru rhwng 1851 a 1911 (gostyngiad yn bennaf yn nifer y gweithwyr fferm yn hytrach na nifer y ffermwyr). Mae’r ffaith bod graddfa’r gostyngiad ar y cyfan yn fwy serth yn y siroedd mwy amaethyddol (5D) yn cadarnhau’r awgrym. Mewn pum sir (Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd, Sir Fynwy a Sir Drefaldwyn), roedd nifer y dynion a oedd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn 1911 yn llai na thair rhan o bump o’r nifer yn 1851. Roedd pedair o’r siroedd hyn yn rhai amaethyddol gan mwyaf, ac eithrio unwaith eto Sir Fynwy. Mae’n amlwg bod grŵp pwysig a gyfrannodd at yr allfudo’n cynnwys y rhai a fu neu a fyddai wedi bod yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol.

Para 5.11

Mae’r cwestiwn pwy symudodd yn codi mater arall, sydd efallai’n fwy diddorol. Mae rhagdybiaeth gyffredinol, gref fod siroedd gwledig wedi colli’r rhai mwyaf galluog, egnïol a gweithgar o blith eu poblogaeth. Ond a yw hynny’n wir? Mae hwn yn gwestiwn anodd. Mae’r dybiaeth mai’r goreuon a fyddai wedi symud yn seiliedig ar y farn mai dim ond y rhai mwyaf galluog a fyddai wedi sylwi ar y cyfleoedd a oedd ar gael mewn ardaloedd eraill, ac wedi eu ceisio (5E). Eto i gyd, ni ddylid cymryd yn ganiataol mai’r rhai mwyaf galluog a gollwyd. Mae hefyd yn debygol, efallai, yr un mor debygol, dadlau mai dim ond y goreuon a fyddai’n dod yn berchen ar ffermydd a sicrhau eu bod yn broffidiol mewn amgylchedd cystadleuol iawn lle’r oedd nifer y ffermydd yn prinhau: byddai’r gweddill wedi eu gorfodi i adael. Yn aml y rhai lleiaf llwyddiannus mewn amgylchedd penodol yw’r rhai sy’n cael eu gorfodi i adael a dylai hyn o leiaf gwestiynu’r rhagdybiaeth fod yr ardaloedd amaethyddol wedi colli eu pobl fwyaf galluog. Wrth gwrs, yr hyn sy’n wir yw bod y mudwyr yn tueddu i fod wedi canoli yn y grwpiau oedran iau. Yn wir, mae hyn ynddo’i hun yn un rheswm am y dybiaeth gyffredinol fod yr ardaloedd amaethyddol wedi colli eu pobl fwyaf galluog: yng nghyd-destun y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn eithaf rhesymol drysu rhwng y cryfaf a’r gorau.

Para 5.12

Mae’r cwestiwn o bwy a symudodd wedi ei gysylltu'n agos â pham y gwnaethant symud. Ar un lefel mae gan bob unigolyn ei set unigryw ei hun o gymhellion; ar lefel arall gellir eu cyffredinoli i nifer cyfyngedig o gymhellion. Yn wir, byddai rhai’n dadlau y gellir crynhoi’r cymhellion i ddau gategori’n unig: ffyn ac abwyd. Caiff y ffactorau hynny sy’n denu mudwyr i rywle newydd eu categoreiddio fel abwyd: caiff yr holl ffactorau hynny a ystyrir sy’n gorfodi pobl i adael ardal benodol eu categoreiddio fel ffyn. Ond yn aml yr un ffenomen ydynt, ond ein bod yn edrych arni o safbwynt gwahanol. Mae digon o dystiolaeth fod cyflogaeth amaethyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gymharol isel (y ffon), ac yn yr un modd roedd y ffaith bod pobl yn disgwyl cyflogau uwch mewn ardaloedd diwydiannol yn gweithredu fel magned (yr abwyd) (5F). Roedd y gwahaniaeth hwn rhwng cyflogau’n nodwedd barhaol, ond ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg amlygwyd y gwahaniaeth hwnnw ymhellach pan aeth amaethyddiaeth trwy gyfnod o ddirwasgiad cyffredinol oherwydd cystadleuaeth ddwys o dramor tra bod twf hirdymor cadarn o hyd i’w weld yn niwydiannau de Cymru. Fodd bynnag, yn y pen draw enghreifftiau’n unig yw’r rhain o’r ffaith gyffredinol fod pobl wedi symud am nad oedd digon o waith ar gael iddynt yng nghefn gwlad (5G). Y gostyngiad yn y niferoedd a gyflogid yn y diwydiant amaethyddol oedd yr agwedd fwyaf gweladwy a symbolaidd ar hyn, ond roedd tuedd gyffredinol i nifer o weithgareddau economaidd symud i ffwrdd o gymunedau gwledig (5Hi, 5Hii, 5I).

Para 5.13

Agwedd arall ar hyn sydd ar yr wyneb yn ymddangos yn ffactor tebygol a achosodd i bobl symud oedd y newid technegol yn y diwydiant amaethyddol gan fod hynny’n lleihau’r angen am weithwyr. Mae hyn yn fwy tebygol o ystyried mai gostyngiad yn nifer y gweithwyr amaethyddol yn hytrach na nifer y ffermwyr a oedd yn nodweddu’r patrwm hwn o symud o’r diwydiant amaethyddol. Serch hynny, mae’n ymddangos na chafodd dylanwad peiriannau ran fawr yn y broses hon (5J). Un o effeithiau’r gystadleuaeth o dramor a achosodd y gostyngiad mwyaf, gan fod diwydiant amaethyddol Cymru’n cael ei gymell i ganolbwyntio mwy ar dda byw yn hytrach na ffermio âr: rhwng 1867 a 1914 cynyddodd cyfanswm yr erwau a gâi eu pori’n wastad yng Nghymru o 1,500,000 i 2,300,000, tra bu gostyngiad mewn tir âr o 1,100,000 i 700,000 o erwau. 1 Un canlyniad oedd gostyngiad yn y galw am weithwyr amaethyddol gan fod ffermio da byw’n llai dwys o ran llafur.

Para 5.14

Er hynny, mae’n ymddangos na arweiniodd y patrwm o symud o’r tir at gefnu ar fywyd gwledig. Yn wir, yn ôl yr adroddiad ar amaethyddiaeth Cymru i’r Comisiwn Brenhinol ar Lafur roedd galw am dir gan fod cystadleuaeth gref am ffermydd a ddeuai yn wag. Nid cystadleuaeth gynyddol (roedd y cynnydd naturiol - mwy o enedigaethau na marwolaethau - yn dal yn gadarnhaol) oedd y broblem, ond yn hytrach teimlai nifer nad oedd eu huchelgais o gael fferm yn debygol o gael ei gwireddu. Felly roedd yn ymddangos bod llai o gyfleoedd yn codi mewn nifer o ardaloedd gwledig a oedd yn golygu bod posibiliadau mewn mannau eraill yn ymddangos yn fwy apelgar. Fodd bynnag, nid mater o ystyriaethau economaidd yn unig oedd hyn. Gallai’r hyn a ymddangosai i rai fel cyfyngiadau bywyd gwledig helpu i berswadio pobl i symud, tra bod eraill yn ystyried bod yr un nodweddion yn creu cymuned gartrefol a fyddai’n helpu i’w clymu i ardal. Yn yr un modd, dim ond manteision a welai rhai yn y trefi, tra gwelai eraill beryglon (5K). Yn sicr roedd y ffactorau anghyffwrdd hyn yn dylanwadu’n gryf, er bod eu heffaith, p’un ai a oeddent yn denu neu’n cadw pobl draw, yn dibynnu ar ganfyddiadau unigol. Ac efallai ei bod yn bosibl cael y gorau o ddau fyd, neu geisio hynny. Mae astudiaeth fanwl o Ferthyr yn 1851 yn dangos tuedd gref i ymfudwyr o wahanol rannau o Gymru fyw yn eu hardaloedd penodol eu hunain o fewn y dref.2 Os oedd pobl, am ba reswm bynnag, yn symud o’r tir, i ble oeddent yn mynd? Genhedlaeth yn ôl, yr argraff a roddid mewn testunau ar hanes y cyfnod hwn oedd bod y bobl a symudodd o gefn gwlad Cymru wedi mynd o Gymru (5Li, 5Lii). Roedd yn awgrym digon naturiol gan mai’r llif o ymsefydlwyr tramor oedd y grŵp amlycaf. Gan eu bod yn gadael y wlad am byth, roedd eu hymadawiad yn cael mwy o effaith, a’u llythyrau gartref yn fwy tebygol o gael eu hargraffu yn y wasg leol. Roedd enghreifftiau dramatig yn nodweddu’r duedd hon, fel y penderfyniad bwriadol i fudo i Batagonia i sefydlu’r wladfa yn 1860au, neu i Philadelphia yn y 1890au (er nad cefnu ar amaethu oedd y symud i Philadelphia, ond yn hytrach ymateb gweithwyr tunplat Llanelli i dariff McKinley). Aeth y rhai llai mentrus i Loegr a chreodd y rheini hyd yn oed gymunedau Cymraeg amlwg mewn nifer o brif drefi Lloegr (5M). Mae’r patrwm hwn o symud o Gymru wedi ei gwestiynu’n sylweddol iawn gan lawer o waith ystadegol manwl, yn arbennig gan Brinley Thomas.3

Para 5.15

Mae’r darlun sy’n dod i’r amlwg yn fwy cymhleth ond gellir ei amlinellu’n fras. Yng Nghymru’n gyffredinol roedd gostyngiad net yn digwydd yn sgil mudo. Ond roedd hyn yn wir yn achos pob un o siroedd y Deyrnas Unedig, ac roedd y gostyngiadau, fel canran o’r boblogaeth gyfan, yn llawer uwch yn yr Alban, yn llawer iawn uwch yn Iwerddon ac (o 1880 ymlaen) hyd yn oed yn uwch fyth yn Lloegr. Ffaith sy’n fwy trawiadol fyth yw mai yng Nghymru y cafwyd yr unig ddegawd lle cofnodwyd cynnydd net yn unrhyw un o’r siroedd yn sgil mewnfudo, a hynny rhwng 1901 a 1911 (5N). Mae’n amlwg bod cyfran o’r rhai a fudodd o’r siroedd hyn wedi mynd dramor. Ond – ac mae’n ymddangos yn rhesymol – os gellir cymryd bod y mudo i’r Unol Daleithiau’n cynrychioli’r duedd hon, mae ail nodwedd sylfaenol yn dod i’r amlwg. Hynny yw, roedd graddfa’r mudo i’r Unol Daleithiau o Gymru rhwng 1880 a 1910 yn ddim ond hanner y raddfa a welid yn Lloegr a hyd yn oed yn gyfran lai o’r llif o gymharu â’r Alban ac Iwerddon. 4

Y drydedd agwedd yw bod y rhan fwyaf o’r rhai a adawodd yr ardaloedd gwledig yng Nghymru wedi aros yng Nghymru yn y cyfnod o 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn astudiaethau Prydeinig cynharach a oedd yn rhannu’r wlad yn Drefi, Ardaloedd Glofaol a’r Ardaloedd Gwledig sy’n weddill, rhwng yr 1880au a’r 1890au dangosodd Brinley Thomas fod y nifer a oedd yn cael eu derbyn i ardaloedd diwydiannol de Cymru bron yn ddigon i dderbyn – yn ystadegol – cyfanswm y nifer a adawodd ardaloedd cefn gwlad, ac yn y 1900au roedd y nifer a oedd yn cael ei dderbyn yn uwch na’r nifer a oedd yn gadael yr ardaloedd gwledig. Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad â’r cyfnod rhwng yr 1860au a’r 1890au pan nad oedd yn bosibl derbyn y rhan fwyaf o fudwyr o ardaloedd gwledig Cymru o fewn y wlad. O ganlyniad fe adawsant y wlad, gan fynd i Loegr neu dramor (5O).

Para 5.16

Mae Brinley Thomas hefyd yn cynnig esboniad economaidd pwerus ac argyhoeddiadol i’r patrwm sy’n cael ei amlygu. Nid oes angen ailadrodd hyn yma gan mai’r mater dan sylw, yn syml, yw’r ardaloedd y symudodd pobl o ardaloedd gwledig Cymru iddynt. O’r 1880au arhosodd y rhan fwyaf yng Nghymru. Roedd allfudo’n digwydd trwy’r amser - i Loegr ac i wledydd fel yr Unol Daleithiau: ond nid y rhain oedd y gwledydd nodweddiadol yr oedd pobl yn symud iddynt bellach. Roedd pobl yn symud i ardaloedd glofaol de Cymru lle’r oedd gweithwyr yn cael eu derbyn ar raddfa uchel iawn, yn arbennig yn y 1990au, a hefyd, i raddau llai, i drefi glan môr gogledd Cymru oedd yn tyfu mewn poblogaeth.

Para 5.17

Yn naturiol cafodd y newid sylweddol mewn poblogaeth sgil-effeithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol pellgyrhaeddol. Roeddent yn adlewyrchu’r newid sylweddol a ddigwyddodd yn strwythur economaidd Cymru. O ran yr economi, cyfrannodd hyn at gynnydd cyffredinol mewn incwm oherwydd ei fod yn golygu symud adnoddau i ffwrdd oddi wrth amaethyddiaeth â chynhyrchiant isel a thuag at ddiwydiant â chynhyrchiant uchel.

Para 5.18

Yn 1851, roedd 35 y cant o’r holl ddynion cyflogedig yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol: yn 1911 dim ond 12 y cant oedd yn gweithio yn y maes hwn. Nid oedd y gostyngiad llwyr yn y nifer a weithiai yn y diwydiant amaethyddol mor fawr â hynny (o 135 i 96 o filoedd), ond roedd yn golygu nad oedd y diwydiant wedi gallu derbyn y cynnydd naturiol yn y boblogaeth ac felly bu’n rhaid chwilio am waith mewn meysydd eraill. Yn achos y siroedd hynny a oedd yn amaethyddol yn bennaf roedd hyn yn golygu gadael y sir yn gyfan gwbl. Dros y blynyddoedd newidiodd Cymru o fod yn wlad amaethyddol i fod yn wlad ddiwydiannol. Un canlyniad oedd bod y boblogaeth, erbyn 1911, wedi ei chanoli llawer mwy o gwmpas meysydd glo de Cymru, a chwareli llechi a phyllau glo llai yng ngogledd Cymru.

Para 5.19

Un o’r nodweddion sydd wedi ei thrafod yn helaeth - ar y pryd ac ers hynny - yw’r ffaith bod y broses hon wedi arwain at ddiboblogi cefn gwlad. Mae hynny’n wir - i raddau. Ond mae’n bwysig bod yn glir ynglŷn â natur y diboblogi hwn. Yn fyr gellir dweud bod tair nodwedd gyffredinol: roedd wedi ei ganoli’n helaeth roedd yn gyfyngedig, ac yn fwyaf amlwg fel ffenomen gymharol. Mewn pum sir5 gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yn lefel eu poblogaeth gyfan yn yr hanner canrif cyn 1911 ac fel y gwelwyd eisoes, siroedd lle’r oedd amaethyddiaeth yn bwysig oedd y rhain yn bennaf. Yn wir, rhwng 1881 a 1911 roedd y gostyngiad gwirioneddol wedi ei ganoli mewn tair sir yn unig - Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn - lle bu gostyngiad o 188,000 i 157,500 ym mhoblogaeth y tair sir gyda’i gilydd. Nid oedd y gostyngiad yn drychinebus o bell ffordd. Cyfanswm poblogaeth y pum sir yn 1881 oedd 269,300 ac yn 1911 roedd yn 240,500. Ond er na ellir ystyried bod gostyngiad o lai na 30,000 o bobl dros dair degawd yn achos o ddiboblogi dramatig, rhaid edrych arno o dri phersbectif cyffredinol o leiaf. Yn gyntaf, esgorodd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar broses hir. Arweiniodd y patrwm o symud o’r tir at broses o ddiboblogi helaeth, graddol yn arbennig o ardaloedd gwledig canolbarth Cymru. Erbyn 1971 roedd cyfanswm poblogaeth y pum sir wedi gostwng i 205 o filoedd. Yr ail bersbectif y mae angen ei ystyried yw gostyngiad y boblogaeth yn y siroedd hyn yn erbyn y tueddiadau yn yr un cyfnod mewn rhannau eraill o Gymru. Ym mhump o’r siroedd mwyaf diwydiannol6 cynyddodd y boblogaeth rhwng 1881 a 1911 gan ymhell dros filiwn. Sir Fynwy a Sir Forgannwg oedd i gyfrif am bron i 800,000 o’r cynnydd hwn. Ac yn olaf, mae angen nodi bod y duedd o symud o’r ardaloedd gwledig wedi effeithio ar ganran llawer uwch o siroedd Cymru na Lloegr ac i raddau llawer helaethach. Felly rhwng 1881 a 1891 bu gostyngiad ym mhoblogaeth y rhan fwyaf o siroedd Cymru (wyth) o’i gymharu â dim ond deuddeg o siroedd yn Lloegr, ac mewn pump o siroedd Cymru (y rhan fwyaf yng nghanolbarth Cymru) roedd canran y gostyngiad yn uwch na hyd yn oed y sir a effeithiwyd fwyaf yn Lloegr (5P).

Para 5.20

Mae effaith y symud o’r tir ar sefyllfa a hyfywedd yr iaith Gymraeg wedi bod yn llawer mwy dadleuol. Ers peth amser mae pobl wedi credu bod y broses hon o anghenraid wedi tanseilio’r iaith. Roedd ardaloedd gwledig yn colli ei siaradwyr Cymraeg, yr ardaloedd lle câi’r Gymraeg ei siarad yn fwyaf cyffredin a lle y câi ei hamddiffyn rhag dylanwadau o’r tu allan. Yn aml ymhlyg yn y dybiaeth hon oedd y farn fod y siaradwyr Cymreig hyn wedi allfudo i America neu Batagonia neu ble bynnag. Ond tybiaeth gryfach na hon oedd bod y datblygiad diwydiannol o anghenraid wedi tanseilio’r iaith a’r diwylliant a oedd yn mynd law yn llaw â hi. Ond roedd yn amhosibl cynnal y safbwynt di-syfl hwn ar ôl i erthygl arloesol Brinley Thomas ‘Wales and the Atlantic Economy’ ymosod arno’n hallt.7 Fel y dangoswyd eisoes, dangoswyd bod y rhan fwyaf o fudwyr Cymreig wedi gallu aros yng Nghymru, ac yn ogystal â hynny, cadwodd Cymru y rhan fwyaf o’i chynnydd naturiol mewn poblogaeth. A bu’r cyfan yn bosibl oherwydd y datblygiad diwydiannol a fu yng Nghymru. 8 Felly roedd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru bron yn sicr yn uwch nag a fu erioed o’r blaen. A dadleuir bod hyn - er gwaetha’r ffaith eu bod yn rhan fach o’r boblogaeth gyfan - ‘wedi rhoi hwb o’r newydd i’r iaith Gymraeg’ ac ‘ail gyfle’ iddi sefydlu ei hun (5Q).

Para 5.21

Heb amheuaeth mae dadleuon a thystiolaeth Brinley Thomas wedi newid y ddadl am y berthynas rhwng diwydiannu a diwylliant Cymru’n barhaol: ni ellir eu diystyru fel ‘ystadegau’n unig’. Yn yr un modd mae rhai anawsterau amlwg yn perthyn i’r ddadl. Hyd yn oed yn y cyfrifiadau cynharaf o’r iaith (1891, 1901, 1911) mae’n eglur bod y rhaniad rhwng ardaloedd lle ceid canran uchel ac isel o siaradwyr Cymraeg yn gymaint o ffenomen gorllewin/dwyrain o leiaf ag o ffenomen wledig/diwydiannol.9 Yr hyn sy’n fwy arwyddocaol yw goblygiadau’r mewnlifiad i feysydd glo de Cymru yn arbennig rhwng 1901 a 1911. Cyn hyn y sefyllfa arferol oedd bod y gostyngiad net yn sgil mudo o ardaloedd gwledig Cymru’n uwch na’r cynnydd net mewn ardaloedd trefol a meysydd glo. O safbwynt yr iaith a diwylliant, tra bod rhai wastad yn symud i Loegr neu dramor, roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o gynnydd naturiol Cymru’n aros yng Nghymru; roedd hefyd yn golygu, tra bod mewnlifiad cyson o Loegr, fod y nifer a fudai o wledydd eraill i ardaloedd diwydiannol de Cymru’n gymharol fach, a ph’un bynnag, roedd yn tueddu i ganoli ym mhorthladdoedd a threfi ar hyd arfordir dwyrain Cymru. Roedd pob un o’r nodweddion hyn yn golygu ei bod yn bosibl derbyn a chymhathu’r elfen ddi-Gymraeg, yn arbennig yng nghymoedd Morgannwg. Ac, i ryw raddau, mae’n ymddangos bod hyn wedi digwydd. Ond yn y degawd rhwng 1901 a 1911 newidiodd y sefyllfa’n ddirfawr. Roedd graddfa’r mewnlifiad i Sir Fynwy a Sir Forgannwg (bron i 130,000) yn uwch o lawer na’r gostyngiad net o ardaloedd gwledig Cymru. O un safbwynt mae hyn yn cadarnhau’r farn fod y datblygiad diwydiannol wedi cryfhau’r iaith: gallai’r holl symudiadau o’r tir fod wedi cael eu derbyn (sawl gwaith drosodd) gan yr ehangu diwydiannol.

Para 5.22

Y broblem oedd bod hyn wedi digwydd ‘sawl gwaith drosodd’, ac roedd hynny’n golygu bod mewnlifiad enfawr o bobl o’r tu allan i Gymru. Roedd hyn ar raddfa (o leiaf 100,000) ac o fewn cyfnod (un degawd) a oedd yn golygu ei bod yn annhebygol neu’n amhosibl eu cymathu. Yn ogystal â hyn roedd y twf enfawr yng ngweithlu’r pyllau glo yn y degawd hwn yn dangos yn glir nad oedd y don anferth hon wedi ei chyfyngu i borthladd oedd arfordirol Casnewydd, Caerdydd a’r Bari a oedd eisoes wedi eu Seisnigo’n gryf.

Para 5.23

Mae llawer o’r wybodaeth hon wedi ei chydnabod, ac yn wir wedi ei chyflwyno gan Brinley Thomas yn ei waith diweddaraf.10 Ond credir yn gryf o hyd mai’r chwyldro diwydiannol a’r twf economaidd yn unig oedd yn gyfrifol am y ffaith na ddilynodd yr iaith Gymraeg (a’i phobl) yr un cwys â’r Gwyddelod; bod y filiwn neu ragor o siaradwyr Cymraeg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi rhoi ail gyfle i’r Gymraeg; ac yn groes i’r hyn a gredir, fod bywyd a chadarnle’r diwylliant yn ardaloedd diwydiannol Cymru yn hytrach na’r cadarnleoedd gwledig bondigrybwyll. Mae’n destun a fydd yn dal i gael ei drafod, ond fel nifer o agweddau’n gysylltiedig â’r patrwm o symud o’r tir, nid yw’n debygol o gael ei ddatrys gan ei fod yn amlygu ei hun mewn ffyrdd anfesuradwy.

Para 5.24

Gellir dweud bod yr un peth yn wir am effeithiau mudo ar arferion cymdeithasol neu’r cysyniad anodd ei ddiffinio, ond pwysig o’r gymuned (5Ri, 5Rii). Yn rhannol felly, bydd barn pobl yn oddrychol ac yn dibynnu ar sut y maent yn ymateb i honiad Goldsmith

‘A bold peasantry, its country’s pride,

When once destroyed can never be supplied.’

Para 5.25

Hynny yw, mae trafodaethau ynglŷn ag effaith ac arwyddocâd ‘y symud o’r tir’, yn dibynnu i ba raddau rydych yn credu mewn rhyw fath o gysyniad o ddelfryd gwledig. Tra bod rhai’n ystyried bod gwerthoedd uwch yn perthyn i fywyd gwledig; yng ngolwg eraill y cyfan y mae’n ei gynnig yw mwy o le.

Nodiadau

  1. A.W. Ashby ac I.L. Evans, The Agriculture of Wales and Monmouthshire, Caerdydd, 1944.
  2. H. Carter a S. Wheatley, Merthyr Tydfil in 1841, Caerdydd, 1983.
  3. Gweler yn arbennig B. Thomas, ‘The migration of labour into the Glamorganshire coalfield, 1861–1911’, Economica, X, 1930, a ‘Wales and the Atlantic Economy’, Scottish Journal of Political Economy, VI, 1959.
  4. Brinley Thomas, ‘Wales and the Atlantic Economy’, ibid., Tablau 1 a 3.
  5. Sir Frycheiniog (1861), Sir Aberteifi (1871), Sir Feirionnydd (1881), Sir Drefaldwyn (1841) a Sir Faesyfed (1841). Mae’r dyddiadau mewn cromfachau’n dangos blynyddoedd y cyfrifiad lle’r oedd y boblogaeth ar ei huchaf ym mhob sir.
  6. Sir Aberteifi, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Cyfanswm poblogaeth y siroedd hyn yn 1881 oedd (mewn miloedd) 839.9: yn 1911, 1,914.5. Cyfanswm Sir Forgannwg a Sir Fynwy gyda’i gilydd am yr un blynyddoedd oedd 722.7 a 1,516.6.
  7. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Scottish Journal of Political Economy, Tachwedd 1959 ac fe’i hailargraffwyd yn B. Thomas (gol.), The Welsh Economy, Caerdydd, 1962.
  8. A hefyd gan fod economi diwydiannol Cymru’n dibynnu’n fawr ar allforio. Roedd hynny’n golygu bod patrwm cylchol gwahanol i economi domestig Prydain yn gyffredinol. Un canlyniad i hyn oedd bod gweithgarwch economaidd yn tueddu i ffynnu (a thrwy hynny, yn denu mewnfudwyr) ar yr union adegau hynny pan oedd economi gyffredinol Prydain ar y lefel fwyaf dirwasgedig (a gan hynny’n achosi i bobl fudo).
  9. Roedd gan Ynys Môn, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd a Sir Gaerfyrddin tua 90% o siaradwyr Cymraeg yr un ar droad y ganrif, ond roedd canran is yn Sir Gaernarfon a Sir Gaerfyrddin a weithiai yn y diwydiant amaethyddol erbyn 1911. Ar y llaw arall roedd gan dair o’r siroedd gwledig ‘lle’r oedd diboblogi’ ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn - ganran isel o siaradwyr Cymraeg. Mae’n ddiddorol sylwi bod arwydd arall o ‘ffordd Gymreig o fyw’ neu ‘ddiwylliant Cymreig’ - cau tafarndai ar y Sul - yn dal i’w weld yn gryf yn y gorllewin/dwyrain yn y 1960au a dechrau’r 1970au.
  10. B. Thomas, ‘The Industrial Revolution and the Welsh language revisited’, yn L.J. Williams a C. Baber (gol.), Papers in Welsh Economic History, Caerdydd, 1984.

Uned 6   Bywydau merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd