Para 5.10
Yr hyn sydd wedi ei bwysleisio hyd yma yw bod symudiadau yn y boblogaeth yn gymhleth ac yn aml yn ddryslyd, yn arbennig os nad oes unrhyw wybodaeth uniongyrchol yn y cyfrifiad ar fudo. Serch hynny mae’r dystiolaeth wedi dangos, fwy neu lai, bod y boblogaeth yng Nghymru wedi ei hailddosbarthu i raddau helaeth ac mai un nodwedd amlwg o’r newid hwn oedd y ffaith fod pobl yn symud o’r wlad. Mae’n dal yn amhosibl dweud yn gwbl sicr pwy yn union a symudodd, ond awgrymir yn gryf mai un elfen oedd y llif o amaethyddiaeth. Yn y lle cyntaf, er bod cyfanswm y boblogaeth wedi dyblu, bu gostyngiad yng nghyfanswm y nifer a oedd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru rhwng 1851 a 1911 (gostyngiad yn bennaf yn nifer y gweithwyr fferm yn hytrach na nifer y ffermwyr). Mae’r ffaith bod graddfa’r gostyngiad ar y cyfan yn fwy serth yn y siroedd mwy amaethyddol (5D [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) yn cadarnhau’r awgrym. Mewn pum sir (Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd, Sir Fynwy a Sir Drefaldwyn), roedd nifer y dynion a oedd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn 1911 yn llai na thair rhan o bump o’r nifer yn 1851. Roedd pedair o’r siroedd hyn yn rhai amaethyddol gan mwyaf, ac eithrio unwaith eto Sir Fynwy. Mae’n amlwg bod grŵp pwysig a gyfrannodd at yr allfudo’n cynnwys y rhai a fu neu a fyddai wedi bod yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol.