Para 5.12

Mae’r cwestiwn o bwy a symudodd wedi ei gysylltu'n agos â pham y gwnaethant symud. Ar un lefel mae gan bob unigolyn ei set unigryw ei hun o gymhellion; ar lefel arall gellir eu cyffredinoli i nifer cyfyngedig o gymhellion. Yn wir, byddai rhai’n dadlau y gellir crynhoi’r cymhellion i ddau gategori’n unig: ffyn ac abwyd. Caiff y ffactorau hynny sy’n denu mudwyr i rywle newydd eu categoreiddio fel abwyd: caiff yr holl ffactorau hynny a ystyrir sy’n gorfodi pobl i adael ardal benodol eu categoreiddio fel ffyn. Ond yn aml yr un ffenomen ydynt, ond ein bod yn edrych arni o safbwynt gwahanol. Mae digon o dystiolaeth fod cyflogaeth amaethyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gymharol isel (y ffon), ac yn yr un modd roedd y ffaith bod pobl yn disgwyl cyflogau uwch mewn ardaloedd diwydiannol yn gweithredu fel magned (yr abwyd) (5F [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd y gwahaniaeth hwn rhwng cyflogau’n nodwedd barhaol, ond ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg amlygwyd y gwahaniaeth hwnnw ymhellach pan aeth amaethyddiaeth trwy gyfnod o ddirwasgiad cyffredinol oherwydd cystadleuaeth ddwys o dramor tra bod twf hirdymor cadarn o hyd i’w weld yn niwydiannau de Cymru. Fodd bynnag, yn y pen draw enghreifftiau’n unig yw’r rhain o’r ffaith gyffredinol fod pobl wedi symud am nad oedd digon o waith ar gael iddynt yng nghefn gwlad (5G). Y gostyngiad yn y niferoedd a gyflogid yn y diwydiant amaethyddol oedd yr agwedd fwyaf gweladwy a symbolaidd ar hyn, ond roedd tuedd gyffredinol i nifer o weithgareddau economaidd symud i ffwrdd o gymunedau gwledig (5Hi, 5Hii, 5I).