Para 5.13
Agwedd arall ar hyn sydd ar yr wyneb yn ymddangos yn ffactor tebygol a achosodd i bobl symud oedd y newid technegol yn y diwydiant amaethyddol gan fod hynny’n lleihau’r angen am weithwyr. Mae hyn yn fwy tebygol o ystyried mai gostyngiad yn nifer y gweithwyr amaethyddol yn hytrach na nifer y ffermwyr a oedd yn nodweddu’r patrwm hwn o symud o’r diwydiant amaethyddol. Serch hynny, mae’n ymddangos na chafodd dylanwad peiriannau ran fawr yn y broses hon (5J [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Un o effeithiau’r gystadleuaeth o dramor a achosodd y gostyngiad mwyaf, gan fod diwydiant amaethyddol Cymru’n cael ei gymell i ganolbwyntio mwy ar dda byw yn hytrach na ffermio âr: rhwng 1867 a 1914 cynyddodd cyfanswm yr erwau a gâi eu pori’n wastad yng Nghymru o 1,500,000 i 2,300,000, tra bu gostyngiad mewn tir âr o 1,100,000 i 700,000 o erwau. 1 Un canlyniad oedd gostyngiad yn y galw am weithwyr amaethyddol gan fod ffermio da byw’n llai dwys o ran llafur.
Para 5.12