Para 5.15
Mae’r darlun sy’n dod i’r amlwg yn fwy cymhleth ond gellir ei amlinellu’n fras. Yng Nghymru’n gyffredinol roedd gostyngiad net yn digwydd yn sgil mudo. Ond roedd hyn yn wir yn achos pob un o siroedd y Deyrnas Unedig, ac roedd y gostyngiadau, fel canran o’r boblogaeth gyfan, yn llawer uwch yn yr Alban, yn llawer iawn uwch yn Iwerddon ac (o 1880 ymlaen) hyd yn oed yn uwch fyth yn Lloegr. Ffaith sy’n fwy trawiadol fyth yw mai yng Nghymru y cafwyd yr unig ddegawd lle cofnodwyd cynnydd net yn unrhyw un o’r siroedd yn sgil mewnfudo, a hynny rhwng 1901 a 1911 (5N [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Mae’n amlwg bod cyfran o’r rhai a fudodd o’r siroedd hyn wedi mynd dramor. Ond – ac mae’n ymddangos yn rhesymol – os gellir cymryd bod y mudo i’r Unol Daleithiau’n cynrychioli’r duedd hon, mae ail nodwedd sylfaenol yn dod i’r amlwg. Hynny yw, roedd graddfa’r mudo i’r Unol Daleithiau o Gymru rhwng 1880 a 1910 yn ddim ond hanner y raddfa a welid yn Lloegr a hyd yn oed yn gyfran lai o’r llif o gymharu â’r Alban ac Iwerddon. 4
Y drydedd agwedd yw bod y rhan fwyaf o’r rhai a adawodd yr ardaloedd gwledig yng Nghymru wedi aros yng Nghymru yn y cyfnod o 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn astudiaethau Prydeinig cynharach a oedd yn rhannu’r wlad yn Drefi, Ardaloedd Glofaol a’r Ardaloedd Gwledig sy’n weddill, rhwng yr 1880au a’r 1890au dangosodd Brinley Thomas fod y nifer a oedd yn cael eu derbyn i ardaloedd diwydiannol de Cymru bron yn ddigon i dderbyn – yn ystadegol – cyfanswm y nifer a adawodd ardaloedd cefn gwlad, ac yn y 1900au roedd y nifer a oedd yn cael ei dderbyn yn uwch na’r nifer a oedd yn gadael yr ardaloedd gwledig. Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad â’r cyfnod rhwng yr 1860au a’r 1890au pan nad oedd yn bosibl derbyn y rhan fwyaf o fudwyr o ardaloedd gwledig Cymru o fewn y wlad. O ganlyniad fe adawsant y wlad, gan fynd i Loegr neu dramor (5O).
Para 5.14