Para 5.19
Un o’r nodweddion sydd wedi ei thrafod yn helaeth - ar y pryd ac ers hynny - yw’r ffaith bod y broses hon wedi arwain at ddiboblogi cefn gwlad. Mae hynny’n wir - i raddau. Ond mae’n bwysig bod yn glir ynglŷn â natur y diboblogi hwn. Yn fyr gellir dweud bod tair nodwedd gyffredinol: roedd wedi ei ganoli’n helaeth roedd yn gyfyngedig, ac yn fwyaf amlwg fel ffenomen gymharol. Mewn pum sir5 gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yn lefel eu poblogaeth gyfan yn yr hanner canrif cyn 1911 ac fel y gwelwyd eisoes, siroedd lle’r oedd amaethyddiaeth yn bwysig oedd y rhain yn bennaf. Yn wir, rhwng 1881 a 1911 roedd y gostyngiad gwirioneddol wedi ei ganoli mewn tair sir yn unig - Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn - lle bu gostyngiad o 188,000 i 157,500 ym mhoblogaeth y tair sir gyda’i gilydd. Nid oedd y gostyngiad yn drychinebus o bell ffordd. Cyfanswm poblogaeth y pum sir yn 1881 oedd 269,300 ac yn 1911 roedd yn 240,500. Ond er na ellir ystyried bod gostyngiad o lai na 30,000 o bobl dros dair degawd yn achos o ddiboblogi dramatig, rhaid edrych arno o dri phersbectif cyffredinol o leiaf. Yn gyntaf, esgorodd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar broses hir. Arweiniodd y patrwm o symud o’r tir at broses o ddiboblogi helaeth, graddol yn arbennig o ardaloedd gwledig canolbarth Cymru. Erbyn 1971 roedd cyfanswm poblogaeth y pum sir wedi gostwng i 205 o filoedd. Yr ail bersbectif y mae angen ei ystyried yw gostyngiad y boblogaeth yn y siroedd hyn yn erbyn y tueddiadau yn yr un cyfnod mewn rhannau eraill o Gymru. Ym mhump o’r siroedd mwyaf diwydiannol6 cynyddodd y boblogaeth rhwng 1881 a 1911 gan ymhell dros filiwn. Sir Fynwy a Sir Forgannwg oedd i gyfrif am bron i 800,000 o’r cynnydd hwn. Ac yn olaf, mae angen nodi bod y duedd o symud o’r ardaloedd gwledig wedi effeithio ar ganran llawer uwch o siroedd Cymru na Lloegr ac i raddau llawer helaethach. Felly rhwng 1881 a 1891 bu gostyngiad ym mhoblogaeth y rhan fwyaf o siroedd Cymru (wyth) o’i gymharu â dim ond deuddeg o siroedd yn Lloegr, ac mewn pump o siroedd Cymru (y rhan fwyaf yng nghanolbarth Cymru) roedd canran y gostyngiad yn uwch na hyd yn oed y sir a effeithiwyd fwyaf yn Lloegr (5P [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).
Para 5.18