Para 5.5
Mae patrwm y mudo net sydd i’w weld yn siroedd Cymru o’r ymarfer hwn yn eithaf cymhleth (5Ai [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a 5Aii). Serch hynny, mae ychydig o bwyntiau sylfaenol sy’n berthnasol i’n problem yn dod i’r amlwg. Yn benodol, gan ddechrau gyda’r degawd sy’n dod i ben yn 1851, mewn pum sir - Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro a Sir Faesyfed - gwelwyd gostyngiad net yn sgil mudo ym mhob un degawd (5B). At hynny, mewn pedair sir arall - Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint a Sir Feirionnydd - roedd gostyngiad net ym mhob degawd heblaw am un.