Para 5.9
Y dangosydd mwyaf defnyddiol yn y cyd-destun hwn fyddai edrych i weld ai siroedd amaethyddol oedd y rhain yn bennaf. A gellir dangos hynny orau trwy edrych ar ganran y boblogaeth weithio gyfan sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth (5C [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Ar y sail hon, mae’n ymddangos mai’r siroedd lle gwelwyd y lefel uchaf o allfudo oedd y rhai mwyaf amaethyddol. Hyd yn oed yn 1911, pan oedd llai na 12 y cant trwy Gymru gyfan yn gweithio ar y tir, roedd gan bob un o’r tair sir, Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a Sir Aberteifi, hanner eu gweithwyr gwrywaidd yn gweithio yn y diwydiant amaeth (roedd gan Sir Feirionnydd draean, a Sir Frycheiniog bron i chwarter).