Merched rhwng y rhyfeloedd (Deirdre Beddoe)

Para 6.1

Mae hanes merched yng Nghymru eto i’w ysgrifennu. Gwnaed astudiaethau hanesyddol Cymru o fewn traddodiad hanesyddol a ddiystyrai ferched - ar sail nad oedd gweithredoedd a bywydau merched yn bwysig wrth groniclo datblygiad Hanes ac am fod bywydau merched rywsut wastad ‘yr un fath’. Ond mae’r safbwynt hwn wedi ei herio ac mae haneswyr, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau ffeminyddol Cymru, yn ceisio’u gorau i wneud iawn am hyn ac achub hanes merched Cymru. Nid datrys gwahaniaeth barn ymysg unigolion sydd wedi ymchwilio’n dda i’r pwnc yw’r brif broblem sy’n wynebu haneswyr heddiw sy’n ymhél â hanes merched Cymru: eithr, y dasg, yn syml, yw cyflwyno hanes merched yng Nghymru ar sail yr ymchwil helaeth a thrylwyr er mwyn herio mythau canfyddedig ac ystrydebau a ailadroddir yn aml. Dyma’r olwg ‘fytholegol’ a geid ar hanes merched Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel - er, y mae’r hanes hwnnw mor amwys, fel nad oes unrhyw arwyddocâd arbennig i’r dyddiadau: cyfeirid at y ‘Fam Gymreig’ wrth sôn am ferched Cymru - gwragedd glowyr a mamau glowyr; roedd ganddynt ddylanwad enfawr mewn cymdeithas oedd gan mwyaf yn fatriarchaidd, ond yn groes i hyn, nid oedd eu gorwelion na’u diddordebau’n ymestyn ymhellach na’u haelwyd eu hunain. Nid yw’r ffynonellau hanesyddol, boed yn rhai llafar, ysgrifenedig neu weledol, yn cefnogi’r safbwynt hwn. Er nad oes cymaint o ffynonellau hanesyddol am ferched yng Nghymru, neu efallai nad ydynt mor amlwg o’u cymharu â’r rhai am hanes dynion, mae digonedd i’w cael. Serch hynny, mae dau brif wendid yn y dystiolaeth ystadegol. Yn gyntaf, mae’r rhan fwyaf o’r ystadegau a gasglwyd gan y llywodraeth yn seiliedig ar Gymru a Lloegr gyda’i gilydd ac mae’n anodd cael gwybodaeth am Gymru ei hun. Yn ail, mae cyfrifiadau’n ffynhonnell ddefnyddiol i haneswyr ac er bod cofnodion cyfrifiad ar gyfer 1921 a 1931, ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, oherwydd y rhyfel, ac o ganlyniad, mae diffyg gwybodaeth a allai ein cynorthwyo i bwyso a mesur unrhyw newidiadau yn ystod y 1930au.