Para 6.2

Mae’n bwysig pwysleisio un pwynt arall cyn gosod fframwaith i astudio merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel a chyn dechrau’r astudiaeth honno. Mae’n rhan annatod o hanes merched ym Mhrydain yn y cyfnod hwnnw ac mae’n bwysig bod yn gyfarwydd â’r prif ddatblygiadau yn hanes merched Prydain yn y cyfnod hwn. Gellir crynhoi’r ffeithiau cyffredinol fel a ganlyn. Yn ystod y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf bu ymdrech llafurus a hir i gael hawl pleidleisio i ferched. Mae’n bwysig nodi nad oedd mudiad y swffragetiaid wedi ei gyfyngu i Lundain, na Manceinion. Roedd grwpiau gweithredol o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yng Ngogledd Cymru, yn benodol ym Mangor, ac yng nghymoedd De Cymru, yn arbennig yn ardal Pont-y-pŵl, ac roedd celloedd o ganghennau ffurfiol yn ymladd dros ‘yr Achos’ yn nifer o brif drefi Cymru. Yn 1918 rhoddwyd hawl i ferched dros 30 oed bleidleisio. Er hynny, parhaodd y frwydr dros gael yr un hawl â dynion wrth bleidleisio, nes llwyddwyd i sicrhau’r hawl hwnnw yn 1928. Roedd merched Cymru’n dal i fod yn rhan o’r frwydr hon. Ond tawelodd yr ymgyrch arbennig hon wrth i Brydain gyfan uno mewn brwydr fwy yn erbyn yr Almaen a gwledydd Awstro-Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y Rhyfel Mawr, yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain, galwyd ar ferched i weithio mewn ffatrïoedd gwneud arfau neu i wneud swyddi dynion mewn gwahanol feysydd: roeddent yn gyrru tramiau, yn gweithio ar y tir, ac ar y rheilffyrdd, yn glanhau simneiau neu’n gweithio fel clercod. Pan ddaeth y rhyfel i ben, trwy gyfrwng y Ddeddf Dychwelyd i’r Arferion Cyn y Rhyfel ynghyd â phwysau gan yr unedau llafur, cafodd swyddi dynion eu trosglwyddo’n ôl i ddynion. Felly yn y flwyddyn 1919 dechreuodd cyfnod o ddiweithdra mawr ymysg merched. Wrth i ferched gael eu diswyddo o’r swyddi yr oeddent wedi bod yn eu gwneud yn ystod y rhyfel rhoddwyd sylw yn y cyfryngau ac yn genedlaethol i’r fersiwn newydd o ideoleg ddomestig, h.y. rôl y ferch yn y cartref. Yn y wasg rhoddwyd sylw amlwg i’r ddelwedd o wraig tŷ: hon oedd y rôl yr oedd merched yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain yn cael eu cymell i gydymffurfio â hi. Yn y cyfamser, gorfodwyd ffeminyddion, a oedd wedi gobeithio gallu adeiladu ar y tir a enillwyd o safbwynt rôl y ferch yn ystod y rhyfel, i ailfeddwl. Yn ystod y cyfnod hwn ymrannodd ffeminyddiaeth Prydain yn ddwy gangen. Parhaodd ‘hen ffeminyddiaeth’, fel y’i gelwid, i frwydro am hawliau cyfartal i ferched a chanolbwyntiodd ‘ffeminyddiaeth newydd’ ar hawliau merched yn y cartref ac yn benodol ar eu hawliau fel mamau. Ar y naill law cynrychiolai Arglwyddes Rhondda, heb os y ffeminydd fwyaf blaenllaw a dylanwadol yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel, ‘hen ffeminyddiaeth’, a chanolbwyntiodd ar gyflogaeth gyfartal a hawliau ym myd addysg i enethod a merched. Ar y llaw arall, cynrychiolai Eleanore Rathbone,sy’n cael ei hadnabod fel yr eiriolydd pennaf dros lwfansau plant, ‘ffeminyddiaeth newydd’ gyda’i phwyslais ar wella sefyllfa mamau. Yn gyffredinol, roedd y ddwy gangen yn cynrychioli rhaniad o ran dosbarth. Er y byddai merched yn elwa ar hyrwyddo’r ddau fath o ffeminyddiaeth, roedd gan y math newydd o ffeminyddiaeth fwy i’w gynnig i’r rhan fwyaf o ferched Cymru. Yn nhermau hawliau merched roedd amryw o ddeddfwriaethau wedi gwella eu byd. Mewn theori, ond nid yn ymarferol, roedd y Ddeddf (Dileu) Anghymwysteran Rhyw wedi agor drysau i wahanol alwedigaethau. Roedd telerau cyfartal deddf ysgaru 1923, h.y. bod yr un hawliau ysgaru gan ferched a dynion, a deddf yn sicrhau tegwch rhwng y rhywiau o safbwynt gwarchodaeth babanod yn 1925, wedi gwella sefyllfa merched priod. Hefyd yn 1925 cyflwynwyd pensiynau gweddwon. Ond bu’n rhaid aros tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd i wireddu syniad arloesol Eleanore Rathbone o gael lwfansau plant. Ar y cyfan profwyd nad oedd llawer o sail i optimistiaeth ffeminyddion yn 1918: diolchwyd iddynt am eu gwasanaethau i’r genedl (term, y mae’n ymddangos, sy’n diystyru merched) ac roedd disgwyl iddynt ddiflannu’n dawel ‘yn ôl i’r cartref’.

Merched rhwng y rhyfeloedd (Deirdre Beddoe)