Para 6.6
Câi’r merched di-waith o Gymru hyfforddiant am 12 wythnos i weithio fel morynion, cyn cael gwaith, a hynny y tu allan i Gymru yn bennaf (6C [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roeddent yn mynd i weithio mewn sefydliadau preifat, ac yn fwyfwy, mewn sefydliadau cyhoeddus. Roedd y gwaith hwn wedi ei nodweddu gan dâl isel, oriau hir, statws isel, heb unrhyw ddeddfwriaeth i’w gwarchod. Roedd yr amodau gwaith yn amrywio ond roeddent yn aml yn wael (6D). Ceir hanesion am chwain mewn gwelyan a merched yn llwgu. Nid yw’r straeon hyn yn anghyffredin fel y dengys gwaith y sefydliadau achub, fel y Gymdeithas Wyliadwriaeth Genedlaethol a sioe Cymdeithas Cymorth Cyfeillgar Cymry Llundain i merched (6E).