Merched yn y cartref

Para 6.8

Yn y cyfrifiad roedd saith y cant o ferched Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel yn y categori ‘eriod wedi priodi’. Roedd 83 y cant yn y categori ‘yn briod erioed’. Roedd mwyafrif helaeth merched Cymru’n briod ac yn cael eu dosbarthu fel gwragedd tŷ. Gan fod prif ideoleg y cyfnod yn dweud mai yn y cartref oedd lle’r wraig tŷ, roedd y tŷ’n bwysig iawn iddi. Roedd tai’n brin yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain yn y cyfnod hwn, roedd yr amodau’n warthus a’r rhenti’n uchel; roedd yn sefyllfa wael, a oedd yn cael ei gwneud yn waeth am na chodwyd unrhyw dai newydd yn ystod y rhyfel. Yn wir, amlygwyd y broblem hon ynglŷn â thai mewn ymchwiliadau a gynhaliwyd. Mewn tystiolaeth a roddwyd i Gomisiwn Sankey ar y diwydiant glo, tynnwyd sylw gan Mrs Elizabeth Andrews, Trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru, at y rhenti uchel a’r amodau gwael (6G [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd y llywodraeth yn ystod y rhyfel wedi cydnabod bod y cartref yn bwysig ym mywydau merched a sefydlwyd Pwyllgor y Merched ar Dai yn 1918. Cafodd rhan ganolog tai ym mywydau merched a’r angen am welliannau a thai newydd ei nodi’n glir gan Gynghrair Cydweithredol y Merched mewn cynhadledd yn 1923 (6H).Mewn erthygl yn The Welsh Housing and Development Association Year Book, 1921, rhestrodd Mrs Alwyn Lloyd y pethau y byddai’n dymuno eu cael mewn cartref delfrydol: roedd cyflenwad o ddŵr poeth parod yn freuddwyd gan bob gwraig glöwr! (6I). Gellir cymharu’r ddelfryd hon â realiti ar ei waethaf - yn y math o dŷ lle’r oedd tiwberciwlosis (y diciâu) yn bla (6J). Roedd tai fel hyn yn bodoli yng Nghymru, boed mewn ardaloedd trefol neu wledig, ac er eu bod yn aml mewn cyflwr gwael iawn, gwaith caled oedd i gyfrif am y ffaith bod modd byw ynddynt. Gweithiai merched oriau hir a maith iawn yn yr ymdrech hon yn erbyn tlodi a budreddi (6K) Roedd llawer o ferched yn brwydro’n gyson yn erbyn tai gwael a budreddi. Roeddent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn trefnu eu hwythnos yn ofalus - er enghraifft, dydd Llun - golchi; dydd Mawrth - smwddio, gwneud y gwelâu; dydd Mercher - ystafelloedd ar y llawr cyntaf; dydd Iau - curo’r matiau; dydd Gwener - parlwr. Roedd yn gylch diddiwedd. Ond mewn rhai achosion roedd caledi economaidd mawr yn effeithio ar falchder merched nid yn unig yn eu cartrefi ond yn eu hedrychiad eu hunain, fel y canfu Ymchwilwyr Ymddiriedolaeth Pilgrim (6L)