Para 6.9
Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel daeth rhai merched yn rhydd o gyfyngiadau cylch preifat y cartref i fyd cyhoeddus gwleidyddiaeth, masnach a’r proffesiynau: serch hynny, y wraig tŷ oedd brenhines y cartref o hyd ac yma’n unig oedd ganddi unrhyw ddylanwad neu awdurdod. Nid yw rhai haneswyr hŷn eu harddull wedi cydnabod mor gyfyng oedd cylch awdurdod y ‘Fam Gymreig’ ac o ganlyniad maent yn cyfeirio at Gymru fel cymdeithas fatriarchaidd. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Mae’r myth hwn wedi ei wreiddio yn yr arferiad a oedd gan y glowyr a’r docwyr a llafurwyr eraill o drosglwyddo eu pecyn cyflog heb ei agor i’w gwragedd. Roedd hwn yn arferiad cyffredin ond mae’n bwysig sylweddoli bod y glöwr, ayb. wrth drosglwyddo’r cyfrifoldeb o reoli’r cartref yn gwneud hynny gyda chyflog bach iawn yn aml. Nid oedd diwydianwyr yn trosglwyddo’r elw blynyddol i'w gwragedd a gofyn iddynt ei reoli. Ond mae’r darlun hwn o ddylanwad y ‘Fam’ oherwydd yr arferiad hwn wedi ei gynnwys mewn llenyddiaeth a chof y werin (6M [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Mewn realiti roedd yn rhaid iddi reoli - talu’r rhent, prynu bwyd, tanwydd, golau, yswiriant, eitemau i’r cartref a dillad i’w gŵr, ei phlant a hithau - gyda chyflog penodol. Pan nad oedd cyflog, ac mewn sawl rhan o Gymru, roedd hynny’n digwydd yn y 1920au a’r 1930au, roedd yn dal yn gorfod ymdopi: roedd trin arian am yr wythnos yn gamp.
Dewisodd y wraig o Gaerffili - mae manylion ei chyllideb am yr wythnos, ynghyd â’i diet personol ei hun, wedi eu cynnwys yn y casgliad o ffynonellau - ddangos ei chyllideb mewn wythnos pan oedd cyflog ei gŵr ar ei uchaf: hyd yn oed wedyn, cafodd ei beirniadu gan ddadansoddwyr meddygol ar y pryd am beidio â gwario ar bysgod ac wyau (6N). Mewn cyfnod o galedi, roedd merched yn aml iawn yn arbed arian trwy fwyta llai o fwyd eu hunain. Roedd hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu hiechyd: roedd y wraig o Gaerffili’n dioddef o bendro a dychlamiadau. Mae nifer o ymchwilwyr, Syr John Orr , Seebohm Rowntree a thîm Cymdeithas Feddygol Prydain, wedi dangos bod diet y dosbarth gweithiol yn annigonol. Roedd pobl yn llenwi eu boliau â bara, nid oeddent yn yfed digon o laeth ffres: hyd yn oed yn y wlad roeddent yn yfed llaeth tun. Roedd tai gwael, diet gwael a gormod o waith, ynghyd â gwasanaeth meddygol yr oedd yn rhaid talu amdano (eithriad oedd ardaloedd y pyllau glo lle’r oedd cynlluniau yswiriant meddygol), yn arwain at iechyd o safon isel ymysg merched. Roedd disgwyl na fyddai iechyd merched y dosbarth gweithiol yng Nghymru gystal â merched gwell eu byd - ac yn aml roedd hynny’n wir. Heblaw am y prif afiechydon, roedd anhwylderau yr oedd yn rhaid iddynt ddysgu byw â hwy. (6O). Tiwberciwlosis oedd un o afiechydon mwyaf difrifol y cyfnod. Mae'n afiechyd sy’n cael ei gysylltu â thlodi a thai gwael ac roedd llawer mwy o bobl yn dioddef ohono yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Yn 1930 rhoddodd Megan Lloyd George ei haraith gyntaf yn y Senedd mewn ymateb i gynllun tai gan y llywodraeth. Roedd yr araith honno’n canolbwyntio ar beryglon tiwberciwlosis i ferched yng nghefn gwlad Môn (6P). Mewn adroddiad pwysig yn 1939 nodwyd bod cysylltiad rhwng tiwberciwlosis yng Nghymru a thai.
Merched yn y cartref