Para 6.10

Cynyddodd problemau geni plant hefyd y peryglon i iechyd merched. Roedd cyfradd y merched a oedd yn marw wrth roi genedigaeth ym Mhrydain yn cael ei hystyried yn sgandal yn y 1920au. Yng Nghymru roedd y ffigyrau’n gyson waeth nag yn Lloegr. Tra bod cyfradd marwolaeth merched wrth roi genedigaeth o’r holl achosion yng Nghymru a Lloegr yn 4.33 i bob 1000 yn 1920, 3.91 yn 1921 a 3.81 yn 1922, yng Nghymru’n unig roedd y ffigyrau’n 5.52 i bob 1000 yn 1920, 5.35 yn 1921 a 5.43 yn 1922 (6Q). Roedd cyfradd marwolaethau babanod hefyd yn frawychus o uchel, er bod parseli bwyd o’r tu allan wedi gostwng y ffigwr hwnnw erbyn 1926. Yn Sir Fynwy bu gostyngiad yng nghyfraddau marwolaeth babanod i bob 1000 o enedigaethau cofrestredig o 83.8 yn 1925 i 66.1 yn 1926, ond cododd eto yn 1927 i 87.3. Yn y 1930au roedd plant ym Mhengam yn dal y llech tra eu bod yng nghroth eu mam. Roedd y naill feichiogrwydd ar ôl y llall yn gwneud niwed i iechyd merched, fel y dangoswyd yn Maternity, casgliad o draethodau dirdynnol a gyhoeddwyd yn 1915 gan Gynghrair Cydweithredol y Merched. Roedd y gyfradd geni mewn gwirionedd wedi gostwng o gyfartaledd o 5.5. i 6 genedigaeth fyw i bob cwpwl yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i 2.2 o enedigaethau byw yn y blynyddoedd rhwng 1925 a 1929. Ond er gwaethaf ymdrech ymgyrchwyr, roedd dulliau atal cenhedlu’n dal yn druenus. Ysgrifennai merched o Gymru lythyrau truenus at Marie Stopes ac ymgyrchwyr eraill dros ddulliau atal cenhedlu (6R [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Yn ystod ei thaith o gwmpas De Cymru a Sir Fynwy yn y 1920au, synnwyd yr ymgyrchwraig Stella Browne, gan barodrwydd cynulleidfaoedd i wrando arni (6S)