Ymgyrchoedd merched

Para 6.12

Roedd rhagolygon merched o gael gwaith yn wael ac nid oedd bywyd yn y cartref ac iechyd yn galonogol chwaith. Ond mae’n bwysig nad ydym yn darlunio merched fel dioddefwyr yn y cyfnod hwn. Dechreuodd rhai ohonynt weithio mewn meysydd cyhoeddus a chwaraeodd nifer ohonynt ran mewn ymgyrchoedd merched neu gymunedol. Parhaodd merched Cymru i ymladd dros hawliau cyfartal i bleidleisio nes i hynny ddod i rym yn 1928 (6V [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Buont yn brwydro am well amodau yn y gymuned hefyd, trwy ymgyrchoedd fel yr un i gael baddonau ym mhennau pyllau.

Cymerodd merched Cymru ran yn yr Orymdaith Newyn yn 1934: gorymdeithiodd y merched ar flaen y fintai'r holl ffordd mewn ymdrech i atal toriadau pellach i’r budd-daliadau diweithdra ac i fynnu eu bod yn cael gwaith (6W). Yn 1935 ymosododd merched o gymoedd De Cymru ar swyddfeydd y Bwrdd Cymorth Diweithdra ym Merthyr; o ganlyniad penderfynodd y llywodraeth roi'r gorau i’w hymgais i dorri budd-daliadau. Bu’r brotest dorfol yn llwyddiant.

Uned 7 EdwardIa choncwest Cymru yn yr Oesoedd Canol