Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Saturday, 10 June 2023, 12:16 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2023 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Saturday, 10 June 2023, 12:16 PM

Uned 7 Edward I a choncwest Cymru yn yr Oesoedd Canol

Rhagair (Matthew Griffiths)

Mae’r bennod hon yn wahanol i’r lleill gan ei bod yn dod â dau draethawd at ei gilydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar un. Dewiswyd ‘Crown and communities: collaboration and conflict’, gan A .D. Carr, oherwydd ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae Rees Davies yn ymdrin â choncwest Edward 1 yn ‘Edward I and Wales’.

Mae traethawd Davies yn gyflwyniad i’r gyfrol ‘Welsh History and it's Sources’ Edward I and Wales ac ni cheir casgliad o ffynonellau ategol. Yn gyffredinol mae’r llyfr yn edrych ar wleidyddiaeth y drydedd ganrif ar ddeg yng Nghymru, ar lwyddiant a methiant Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf, i wireddu ei amcanion, ac ar gymdeithas, llywodraeth a’r eglwys yn ystod ac ar ôl concwest 1282-3.

Yn y traethawd hwn mae Davies yn mynegi safbwynt penodol iawn ynglŷn â natur a chanlyniadau concwest Edward 1 ar ‘dywysogaeth’ Llywelyn ap Gruffydd a goblygiadau hynny i’r Cymry ar y pryd ac wedi hynny. Mae’n disgrifio’r goncwest fel trychineb ‘cenedlaethol’ a Chymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel cymdeithas drefedigaethol llawn tensiynau a arweiniodd at wrthryfel ‘cenedlaethol’ dan arweiniad Owain Glyndŵr yn 1400. Tua diwedd y traethawd mae’n cyfeirio at y problemau y mae haneswyr yn eu hwynebu wrth astudio achosion a chanlyniadau’r goncwest.

Hyd ei farwolaeth yn 2005, heb os Davies oedd yr hanesydd mwyaf blaenllaw ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol. Edrychodd ar Gymru a’i hanes mewn cyd-destun eang, gan roi sylw cynyddol i hanes cymharol pobl archipelago Prydain. Cafodd ei fagu ar fferm fynydd ym Meirionnydd ym mhen uchaf dyffryn Dyfrdwy, sef Edeyrnion yn y Canol Oesoedd, ac ar ôl astudio yn Llundain, bu’n darlithio ac ymchwilio yn Abertawe, Coleg y Brifysgol Llundain ac Aberystwyth cyn cael ei wneud yn gymrawd yng Ngholeg All Souls a chael Cadair Chichele mewn Hanes Canoloesol yn Rhydychen.

Ymysg ei brif weithiau mae Lordship and Society in the March of Wales 1282-1400 (1978), Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415 (1987), The Revolt of Owain Glyn Dŵr (1995) a The First English Empire (2000). Yn ‘Colonial Wales’ (1974) ceir dehongliad cyffredinol o Gymru yn y blynyddoedd wedi’r goncwest, a cheir ei safbwynt ehangach am Iwerddon, Cymru a’r Alban a’r gwrthdaro rhyngddynt a’r Normaniaid a’r Saeson yn Domination and Conquest: The Experience of Ireland, Scotland and Wales 1100-1300 (1991). Fodd bynnag, rhaid gosod gwaith Davies yng nghyd-destun corff ehangach o destunau arbennig yn y cyfnod diweddar ar Gymru yn y Canol Oesoedd, er enghraifft gwaith J. Beverley Smith, Llinos Beverley Smith, David Stephenson ac yn fwy diweddar, Huw Pryce. Mae hyn yn cynnwys gwaith nodedig ar y drydedd ganrif ar ddeg a natur uchelgeisiau’r ddau Llywelyn - er enghraifft, The Governance of Gwynedd (1984) gan Stephenson a gwaith J. Beverley Smith,Llywelyn ap Gruffydd: Tywysog Cymru (1986,a gyhoeddwyd yn Saesneg yn 1998 fel Llywelyn ap Gruffydd: Prince of Wales), dwy gyfrol a ragflaenodd ac a ddylanwadodd ar yr hyn sydd gan Davies i’w ddweud yn ei draethawd o 1988 sydd wedi’i ailargraffu yma.

Mae gwaith Davies wedi ei nodweddu gan y sylw manwl a rydd i’w ffynonellau ymchwil ac ymdeimlad o bersbectif Ewropeaidd ehangach y dylid gosod hanes y Cymry, y Gwyddelod a’r Albanwyr ynddo. Roedd yn un o’r ysgolheigion hynny a ddatblygodd hanes ‘Prydain’ o’r newydd gan dorri’n rhydd o’r ffordd gul o feddwl am Brydain. Gellir dadlau bod hyn wedi deillio o’r drafodaeth a geir ar y gymdeithas gymysgryw a’r diwylliant yn ardaloedd y Mers yng Nghymru, a’r ffordd yr arweiniodd hyn yn anorfod at ofyn cwestiynau am hunaniaeth, hil, ac arglwyddiaeth mewn cyd-destun ehangach. Fel yr awgrymodd yr Athro Robert J.W. Evans yn ei anerchiad yn ystod y gwasanaeth coffa i Davies (2005), mae’n debyg i’r ymagwedd hon gan ei dylanwadu gan ei ymdeimlad o hunaniaeth leol â’i gwmwd cynhenid, Edeyrnion - ‘gwlad Glyndŵr’ - a’r gwrthdaro rhwng diwylliant a gwleidyddiaeth yn yr ardal honno. Mae’r traethawd yn perthyn i ganol gyrfa Davies, ar adeg pan oedd wedi cwblhau ei brif waith ar Gymru (ar wahân i’w lyfr mwy diweddar ar Glyndŵr) ac yn paratoi ei fonograff ‘Prydeinig’ cyntaf. Fodd bynnag, mae’r darlun a beintiodd o natur ymosodol a gormesol Coron Lloegr a’r profiad ‘trefedigaethol’ a ddaeth i ran y Cymry ar ôl y goncwest yn rhan o'i waith diweddarach ar y berthynas rhwng y Goron honno a phobl y gwledydd Celtaidd.

Pan gyhoeddwyd ei draethawd yn wreiddiol, roedd yr Athro A.D. (Antony) Carr yn uwch ddarlithydd ac yn Bennaeth Adran Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, fel y’i gelwid ar y pryd. Ar ôl ymddeol, derbyniodd gymrodyddiaeth ymchwil anrhydeddus mewn hanes ym Mangor. Mae Carr yn adnabyddus am ei waith Medieval Wales (1995), sy’n cael ei gydnabod fel cyflwyniad gofalus a chytbwys i’r pwnc, gan osod Cymru yn ei chyd-destun ehangach, ac am ei astudiaeth fer (1991) ar Owain Lawgoch (neu Yvainde Galles), disgynnydd i un o frodyr Llywelyn ap Gruffydd a arweiniodd hurfilwyr Cymru ym myddin Ffrainc yn y 1370au, ac a hawliodd deitl tywysog Cymru cyn cael ei ddienyddio gan leiddiad hur o Sais yn 1378. Mae’n arbenigo yn hanes Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.

Mae traethawd Carr yn canolbwyntio ar ymateb cymunedau Cymru i’r amodau ar ôl concwest 1292, gan bwysleisio parhad y gymdeithas Gymraeg frodorol a’i harweinyddiaeth. Mae wedi awgrymu mewn ffynonellau eraill bod yr uchelwyr hyn a oedd yn ddisgynyddion i uchelwyr Cymraeg y drydedd ganrif ar ddeg, yn barod i gydweithredu ag awdurdod uwch, boed yn Gymry neu’n Saeson, ar yr amod nad oedd hynny’n bygwth eu rheolaeth leol. Mae’n awgrymu safbwynt gwahanol ar y gymdeithas a labelwyd gan Davies fel ‘Cymru drefedigaethol’, gan awgrymu na ddaeth y tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson yn beryglus nes i’r uchelwyr ystyried eu bod yn cael eu sarhau gan swyddogion Edward III yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Edward I a Chymru

Rees Davies

O:Edward I and Wales, golygwyd gan Herbert a Gareth Elwyn Jones, Welsh History and its Sources (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).

Para 7.1

Concwest a goruchafiaeth yw themâu’r gyfrol hon. Mae’n debyg mai dyma’r profiadau mwyaf trawmatig y gall unrhyw wlad eu profi. Nid oedd y Gymru Ganoloesol yn eithriad. Yn sicr, cafodd concwest Edwardaidd derfynol Cymru rhwng 1277 a 1283 lai o effaith gan fod rhannau helaeth o ddwyrain a de Cymru eisoes wedi’u gorchfygu’n raddol dros ddwy ganrif; roedd trigolion yr ardaloedd hynny felly wedi cael digon o gyfle i ddod i delerau â threfn lywodraethu Eingl-Normanaidd dros nifer o genedlaethau. Roedd hyd yn oed gweddill Cymru wedi dod yn beryglus o agos at oruchafiaeth estron droeon yn ystod y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif a’r ddeg. Serch hynny, mae’n anodd anwybyddu effeithiau erchyll digwyddiadau 1277-83 ar ogledd a gorllewin Cymru ac ar yr hyn y cyfeirir ato fel yr ysbryd Cymreig cenedlaethol. Oes derfyn byd?, gofynnodd un bardd mewn gwewyr; Och hyd atat ti, Dduw, na ddaw môr dros dir! oedd cri bardd arall. Er bod y croniclwr Cymraeg yn llai barddonol, ni allai ei fynegiant cynnil gelu ei ymdeimlad o drychineb llwyr: Ac yna y bwriwyd holl Gymru i’r llawr.

Para 7.2

Mae’n hawdd deall yr ymateb emosiynol hwn. O fewn cyfnod o bum mlynedd cafodd tair prif linach tywysogaeth Gymreig Gwynedd, Deheubarth a Gogledd Powys naill ai eu dileu bron neu eu dadfeddiannu’n syth, neu diraddiwyd aelodau’r teulu a oedd yn weddill i statws boneddigion anghenus. Roedd disodli a diraddio’r tywysogion fel hyn nid yn unig yn drasiedi i’w teuluoedd; roedd hefyd yn chwalu’r cysylltiadau a oedd ganddynt o ran gwasanaeth, teyrngarwch, nawdd a gwobrwyo, hynny yw, yr union bethau a glymai’r gymdeithas ganoloesol at ei gilydd. Sefydlwyd trefn lywodraethu newydd, gyda chanolfannau yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaer; crëwyd unedau gweinyddol a swyddi newydd, hynny yw, y sir a’r siryf; gwnaed arolygon newydd o daliadau dyledus; ac ar yr haen lywodraethu uchaf ffurfiwyd cnewyllyn gweinyddol newydd gan y Saeson i reoli’r tiroedd a goncrwyd. Yn goron ar y cyfan sefydlwyd system gyfreithiol newydd a gyhoeddwyd yn Ystatud Cymru ym Mawrth 1284. Roedd llawer o gynnwys yr Ystatud yn oleuedig, goddefgar ac anwahaniaethol, yn benodol yr agwedd oddefol ynddo tuag at weithdrefnau cyfreithiol Cymreig ac arferion y Cymry o safbwynt etifeddu. Serch hynny roedd ei bwrpas yn glir: cyflwyno arferion rhagorach cyfraith Lloegr, yn rhannol trwy orfodaeth ac yn rhannol trwy berswâd i’r Cymry. Cododd y Cymry mewn gwrthryfel yn 1282 ‘in defence of their laws’ fel y dywedodd un awdur Saesneg; rhan o’r pris yr oedd yn rhaid ei dalu am gael eu goresgyn oedd bod cyfraith Llundain, fel y cyfeirid ato’n ddirmygus, bellach wedi ei orfodi arnynt. Nid oes rhyfedd fod un hanesydd enwog o Loegr wedi cyfeirio at Ystatud Cymru fel y ‘cyfansoddiad trefedigaethol cyntaf’.

Para 7.3

Roedd concwest hefyd yn golygu meddiannaeth estron. Lleolwyd garsiynau, ond yn bennaf oll, codwyd neu ailgodwyd cestyll trwy Gymru. Mae muriau cadarn Harlech neu Ddinbych, Conwy neu’r Waun hyd heddiw yn well tystiolaeth nag unrhyw ddogfen o benderfyniad y concwerwyr a’u hadeiladodd ac nad oedd troi’n ôl. O fewn cenhedlaeth daeth y cestyll hynny’n adeiladau segur a chostus ond nid cyn iddynt gyflawni swyddogaeth filwrol, ac yn anad dim, seicolegol hollbwysig. Wrth gyfeirio at y cestyll hynny, dywedodd awdur ar y pryd iddynt nid yn unig ‘contained and thwarted the attacks of the Welsh’, ond buont hefyd yn gyfrwng i’w dychryn yn llythrennol a’u darostwng. Eu hamlygrwydd ffisegol a throsiadol yn nhirlun Cymru oedd y ffordd fwyaf gweladwy, a thrwy hynny, fwyaf effeithiol o atgoffa’r Cymry o rym parhaol concwest Lloegr. Cyfeiriodd bardd diweddarach o Gymru atynt fel ‘tŵr dewr goncwerwr’.

Para 7.4

Y fwrdeistref oedd rhan sifilaidd y drefn filwrol. Yn wir, yn y tymor hir, bu’r bwrdeistrefi a sefydlwyd gan Edward I a’i bendefigion yng Nghymru yn arwyddion mwy effeithiol a bygythiol o’r goncwest a’r ymosodiad na’r cestyll.

Ond yn fuan datblygodd y bwrdeistrefi hyn oedd wedi’u lleoli yng nghysgod y cestyll, wedi eu hamddiffyn gan eu muriau cedyrn, yn llawn bwrdeisiaid o Loegr gyda monopolïau masnachol eang dros eu cefnwlad, yn ymgorfforiad o statws breintiedig ac yn gadarnleoedd cyfraith Lloegr. Roedd y Cymry’n eu casáu â chas berffaith. Ar adeg y goncwest ei hun, roedd y brenin wedi’i gynghori mai’r ffordd gyflymaf o wareiddio’r Cymry fyddai trwy eu symud i drefi: ond y gwrthwyneb yn llwyr a ddigwyddodd. Ar lefel ffurfiol, ond i raddau llai mewn realiti, gwaherddid y Cymry o’r trefi newydd hyn a sefydlwyd, a thrwy hynny, ni chaent y breintiau masnachol cyfoethog a oedd ar gael i’r bwrdeisiaid. O ganlyniad dechreuodd y Cymry deimlo fel estroniaid yn eu gwlad eu hunain. Cafodd yr ymdeimlad hwn o gael eu troi allan ei ddwysau gan straeon a mytholeg am hanes newydd o ddadfeddiannu. Yn ôl safonau concwest ganoloesol, heb sôn am heddiw, ni ddilynwyd buddugoliaeth Edward I gan ymgyrch enfawr i ddifeddiannu. Serch hynny, mae pob concwest yn gadael ei ôl a’i atgofion; nid oedd Cymru’n eithriad. Dymchwelwyd un o fwrdeistrefi mwyaf llewyrchus Cymru, Llanfaes yn Ynys Môn, ac un o brif abatai Cymru, Aberconwy, fel rhan o strategaeth Edward; yn Ninbych, rhoddwyd mwy na deg mil o erwau mwyaf ffrwythlon Dyffryn Clwyd i ymsefydlwyr o Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog, tra gorfodwyd y Cymry gwreiddiol oedd yn dal y tiroedd i symud i fyw i rannau pellach o’r arglwyddiaeth, oedd yn aml yn dlotach. Yn yr un modd yn ddiweddarach cafodd swyddog brenhinol ym Morgannwg ei annog i symud y Cymry o’r tiroedd isel er mwyn gwneud lle i Saeson. Efallai mai digwyddiadau prin oedd y rhain; ond mae’n hawdd eu chwyddo yng nghof y werin a dyma’r union ddeunydd sy’n creu paranoia cenedlaethol a chasineb.

Para 7.5

Eto i gyd gellid dadlau bod Cymru wedi byw dan fygythiad concwest am genedlaethau ac wedi dod yn gyfarwydd, yn wir, wedi cynefino â’r profiadau a ddeuai yn sgil concwest. Oni ddylai’r Cymry felly fod wedi addasu’n eithaf cyflym a didrafferth i’r goncwest olaf pan ddigwyddodd? Wrth gwrs, mae elfen sylweddol o wirionedd yn y sylwadau hyn; ond maent hefyd yn diystyru’r newidiadau dramatig a fu yng Nghymru yn y ddwy neu dair cenhedlaeth cyn concwest Edward I. Mae haneswyr y Gymru ganoloesol wedi cynnig ailddehongliadau pwysig o’r mater hwn yn y cyfnod diweddar. Bellach maent yn pwysleisio nad breuddwyd ddelfrydol oedd y syniad o greu llywodraeth Gymreig frodorol unedig o dan un tywysog bellach ond yn hytrach roedd yn bosibilrwydd ymarferol. Yn wir, yn ystod y degawd 1267-77, am gyfnod byr, ond cyn pryd, gwireddwyd y syniad. Felly pan chwalwyd y syniad hwnnw - a oedd newydd ei brofi a hyd yn oed ei wireddu am gyfnod byr - roedd yn fwy trawmatig. Nid concwest arall oedd concwest Edward I, ond yn hytrach hwn oedd yr ymosodiad olaf ar Gymru; eithr chwalodd weledigaeth wleidyddol newydd. Hynny a’i gwnaeth yn goncwest genedlaethol ac yn drychineb cenedlaethol.

Para 7.6

Mae’r dystiolaeth ar gyfer yr ailddehongliad hwn yn dod o wahanol gyfeiriadau. Mae wedi dod yn fwyfwy clir fod Llywelyn ab Iorwerth, Tywysog Gwynedd, c.1199-1240, a’i ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd, 1247-82, wedi ymdrechu’n rhyfeddol gydag amcanion clir a chryn lwyd diant i newid y drefn yng Ngwynedd o linachau brodorol i Gymru unedig dan un arweinydd y byddai ei statws fel tywysogaeth unedol ac ar wahân yn cael ei chydnabod gan Goron Lloegr (fel yr oedd yng Nghytundeb Trefaldwyn, 1267). Ceisiwyd pob cyfle i ddod â’r tywysogion cynhenid eraill a lywodraethai Cymru o dan eu rheolaeth gadarn a chyfuno pura Wallia - fel y cyfeirid mewn dogfennau o’r un cyfnod at y rhannau hynny o Gymru na choncrwyd - yn uned wleidyddol effeithiol. Roedd y rhwystrau a’u hwynebai’n anorchfygol, yr amser yn fyr a’u llwyddiant yn gyfyngedig a byrhoedlog yn unig; ond roedd y dycnwch a ddangoswyd ganddynt i gyrraedd eu hamcanion (yn eu geiriau eu hunain i sicrhau ‘undod’ ac ‘one peace and one war’ i amddiffyn ‘ein tywysogaeth’ a’i ‘hawliau’ ac i ddiraddio statws y tywysogion cynhenid eraill a lywodraethai yn ‘Welsh barons of Wales’ - yn hynod a chwyldroadol. Nid yw’n syndod fod beirdd wedi cyfarch Llywelyn ap Gruffudd fel 'gwir frenin Cymru’ ac fel y 'gŵr oedd tros Gymru’. Nid gor-ddweud barddol oedd y sylwadau canmoliaethus hyn; roeddent yn dangos bod natur uchelgeisiau, dadleuon a’r berthynas wleidyddol o fewn Cymru a rhwng Cymru a Lloegr yn newid yn ddybryd.

Para 7.7

Fodd bynnag, nid uchelgais y tywysogion oedd i gyfri am yr ymdeimlad cynyddol o’r posibilrwydd o greu Cymru unedig; roedd hefyd yn deillio o ymwybyddiaeth ddyfnach o genedligrwydd cyffredin yng Nghymru ei hun. Roedd yr ymwybyddiaeth hon yn cael ei hadlewyrchu yn agwedd negyddol y Cymry a’u casineb tuag at y Saeson a’r ymsefydlwyr o Loegr, yr 'estrongened l anghyfiaith’ fel y cyfeiriwyd ati’n ddilornus gan un bardd. Roedd dogfennau swyddogol hyd yn oed yn datgan bod 'the peoples of England and Wales have been at loggerheads for a long time'; hynny yw, ystyrid bod y tensiwn rhyngddynt yn genedlaethol ac eang, nid o ganlyniad i ddiffyg cyfaddawdu rhwng tywysogion unigol. Roedd dimensiwn cadarnhaol hefyd yn perthyn i falchder cenedlaethol ac ymdeimlad o hunaniaeth fel pobl ar wahân: roedd y Cymry’n llawenhau yn eu ‘rhyddid’ (fel y gwnaeth yr Albanwyr yn ddiweddarach), eu harferion, eu hiaith ac yn anad dim, eu cyfraith. Ar noswyl y gyflafan yn Rhagfyr 1282 bu i un o’u llefarwyr ddatgan yn herfeiddiol na fyddai’r Cymry byth yn ‘do homage to a stranger with whose language, custom and laws are unfamiliar’. Mae’n ddatganiad y gellir ei osod ochr yn ochr â’r Gwrthdystiad Gwyddelig yn 1317 a Datganiad Arbroath yn yr Alban yn 1320 fel un o’r datganiadau mwyaf urddasol a huawdl o hunan-benderfyniad cenedl yn y Canol Oesoedd. Nid geiriau’n unig oedd y rhain chwaith. Roedd nifer o Gymry wedi ymladd ym myddinoedd Edward I yn 1282-3 fel yr oeddent wedi ei wneud ym myddinoedd brenhinoedd ac arglwyddi eraill o Loegr o fewn a heb Gymru am genedlaethau; ond yr hyn sy’n wirioneddol ryfeddol yw lefel y gefnogaeth - yn ddaearyddol, cymdeithasol a rhanbarthol - a gafodd ei hamlygu yng ngwrthryfel mawr 1282. Cyfeiriodd un hanesydd nodedig ato fel ‘wide-spread popular rising of the Welsh’; roedd y methiant felly’n fethiant cenedlaethol.

Para 7.8

Mae digwyddiadau 1277-83 yn wahanol i gyrchoedd a choncwestau cynharach mewn rhannau o Gymru gan mai hon oedd y goncwest olaf, a hynny’n gwbl fwriadol. Roedd datganiadau cyhoeddus Edward I yn llawn atgasedd o’r newydd yn erbyn y Cymry: cyfeiriodd atynt fel ‘a faithless people’; eu llywodraethwyr yn ‘a family of traitors’; roedd yn bryd ‘to put an end finally... to their malice’. Er gwaethaf honiad un hanesydd ar y pryd, roedd y Brenin yn ‘determined to exterminate the whole people of that nation’, nid hil-laddiad oedd bwriad Edward I, yn hytrach roedd yn benderfynol o sicrhau concwest derfynol. Amlygwyd ei benderfyniad yn y safbwynt digyfaddawd a gymerodd yn y trafodaethau terfynol â Llywelyn rhwng Hydref a Thachwedd 1282. Cynhaliwyd y trafodaethau hynny, yn groes i ddymuniad Edward I, gan John Pecham, Archesgob Caergaint. Roedd y ffaith eu bod wedi methu’n ddigon i argyhoeddi Pecham fod angen mwy na choncwest filwrol yng Nghymru; roedd angen ymgyrch hir i sicrhau newidiadau clerigol, adfywio moesol ac ailaddysgu gwleidyddol i integreiddio’r Cymry’n llawn â byd Cristnogol gwâr Gorllewin Ewrop. Gyda’r rhaglen uchelgeisiol ac amhosibl honno mewn golwg dechreuodd Pecham deithio o gwmpas esgobaethau Cymru yn ystod haf 1284 a chyflwynodd set o argymhellion eglwysig.

Para 7.9

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn aeth Edward I ei hun ar daith fuddugoliaethus trwy Gymru, gan adael Caer ddiwedd Medi a chyrraedd Cas-gwent ar 17 Rhagfyr. Nid bwriad Edward oedd mynd ar groesgad foesol ond yn hytrach, dangos i bawb - Arglwyddi’r Mers yn ogystal â’r Cymry brodorol - fod hon yn fuddugoliaeth lwyr ac nad oedd unrhyw fygythiad i’w awdurdod mewn unrhyw ran o Gymru. Roedd eisoes wedi cymryd nifer o gamau sylweddol i gyfleu’r neges honno’n glir. Gwahoddodd farchogion o Ewrop a Lloegr i ddathlu ei fuddugoliaeth fawr yn Nefyn, un o hoff gartrefi tywysogion Gwynedd, yng Ngorffennaf 1284; meddiannodd neu dymchwelodd neuaddau Llywelyn; hefyd cymerodd symbolau mwyaf gwerthfawr a phwerus annibyniaeth tywysogion Cymru - coron Llywelyn, matrics ei sêl, gem neu goron Arthur ac, uwchlaw popeth, y crair mwyaf gwerthfawr yng Nghymru, sef darn o’r Groes Naid (yn union fel y cymerodd y Stone of Scone o’r Alban yn 1296). Yn Statud Cymru cysylltodd y tiroedd a goncrwyd yng Nghymru â’i goron, er na integreiddiwyd hwy’n llawn â chorff y wladwriaeth Seisnig; yr un pryd newidiodd statws y wlad o ‘dywysogaeth’ i ‘dir’ (terra). Gweithredoedd oedd y rhain gan frenin oedd â’i fryd ar ddinistrio hunaniaeth Cymru. O hyn ymlaen roedd gagendor wedi ei agor yn swyddogol yn hanes Cymru rhwng y cyfnod ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ ‘our peace proclaimed in Wales’, fel y dywedir yn y dogfennau brenhinol. Yn yr ystyr hwnnw roedd concwest Edward I yr un mor derfynol, cyflawn, di-droi’n ôl a thrawmatig â’r goncwest Normanaidd.

Para 7.10

O hynny ymlaen roedd yn rhaid i’r Cymry ddysgu byw gyda’r realiti. I rai roedd y broses o addasu’n boenus. Dangosodd gwrthryfel o bwys yng ngorllewin Cymru yn 1287 nad oedd hyd yn oed arweinwyr Cymreig a oedd wedi croesawu a chydweithredu ag Edward I yn ei chael yn hawdd byw o dan drefn lywodraethol galed ac ymladdgar Edward I. Ond gwrthryfel mawr 1294-5, a ysgubodd trwy’r wlad o Ynys Môn i Forgannwg, a ddangosodd y gwir atgasedd a deimlid yn sgil y goncwest. Daeth y Cymry, fel cynifer o bobloedd trefedigaethol, o hyd i undod newydd o dan drefn lywodraethu estron. Roedd y gwrthryfel yn deillio o nifer o gwynion unigol a phenodol - yn arbennig y drefn ddiweddar o osod trethi trwm ynghyd ag ymddygiad llawdrwm a gormesol swyddogion Saesneg - ond roedd hefyd yn deillio o ddau deimlad dyfnach a mwy cyffredinol sydd i’w canfod o dan yr wyneb trwy gydol hanes Cymru yn dilyn y goncwest. Un ohonynt oedd y teimlad bod gwahaniaethu yn erbyn y Cymry yn eu gwlad eu hunain, eu bod yn ddinasyddion eilradd, llai breintiedig. Mae’n debyg bod y teimlad hwnnw’n deillio o agweddau’r swyddogion Saesneg a’r ymsefydlwyr yng Nghymru - yn amrywio o ymddygiad nawddoglyd trahaus a nerfus (fel y dywedodd un ohonynt yn 1296 ‘the Welsh are Welsh, and you need to understand them properly’) - i fanteisio’n ffyrnig ar eu sefyllfa gyfreithiol a’u breintiau masnachol, yn arbennig gan ‘English burgesses of the English boroughs in Wales’. Cadarnhawyd yr agweddau hyn yn swyddogol gan y mesurau gwahaniaethol llym a gyflwynwyd gan Edward I mewn ymateb i wrthryfel 1294. O ran y teimlad arall a nodweddai agweddau’r Cymry yn y cyfnod ar ôl y goncwest, deilliai hwn nid o deimladau diweddar o gael eu goresgyn a’u gwneud yn estroniaid yn eu gwlad eu hunain, ond yn hytrach ar fytholeg a fodolai ers canrifoedd. Credent y byddai mab darogan yn dod i’w hachub rhag y Saeson, fel Arthur gynt.

Para 7.11

Er mor bwerus yw mytholeg a phroffwydoliaethau, nid ar fytholeg yn unig y bydd dyn byw; rhaid byw yn y presennol, nid yn y gorffennol na’r dyfodol. Felly, yn raddol daeth y Cymry i arfer â’r goncwest. Heb os, roedd rhai Cymry’n fwy brwdfrydig ac yn barotach nag eraill i wneud hynny. Hwyluswyd y broses pan sylweddolodd llywodraeth Lloegr a’r rhai a lywodraethai Cymru ei bod yn haws rhedeg gwlad wedi ei choncro, trwy weithio gyda’r gymdeithas frodorol, trwy ddwyn perswâd ar ei harweinwyr, gwrando ar eu cwynion a chreu cysylltiadau trwy wasanaeth a gwobrwyo yn hytrach na thrwy reolaeth filwrol a threfn lywodraethu estron. Er bod y Saeson yn amau’r Cymry’n barhaus ac yn eu hofni o bryd i’w gilydd oherwydd eu ‘lightheadedness’ (hynny yw eu natur annibynadwy a chyfnewidiol), y broses hon o addasu gan y ddwy ochr a’r ffaith bod y Cymry’n sylweddoli eu bod yn hollol ddi-rym yn erbyn teyrnas fawr Lloegr a sicrhaodd yn y pen draw na heriwyd trefn y Saeson am fwy na chanrif ar ôl gwrthryfel mawr 1294-5.

Para 7.12

Mae digwyddiad mawr fel concwest Edward I yn creu nifer o broblemau i haneswyr. Crybwyllir dau ohonynt yma. Y cyntaf yw natur y ffynonellau sydd ar gael i haneswyr. Mae’r ffordd yr ydym yn dehongli’r gorffennol yn cael ei d dylanwadu gan y ffordd y mae’r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i ni. Trwy ffynonellau gweinyddol Saesneg yn bennaf - hynny yw, trwy gofnodion brenhinoedd neu arglwyddi Saesneg, a luniwyd yn unol â fformiwlâu'r cyfnod ac a ysgrifennwyd yn Lladin - yr ydym yn astudio effaith y goncwest ar Gymru. Maent yn rhoi golwg gyfyngedig, hyd yn oed ystumiol o’r gorffennol. Mae hwn yn brofiad sy’n gyffredin i gymdeithasau a goncrwyd, gan mai un o ganlyniadau concwest yw’r ffaith mai’r concwerwr yw’r sawl sy’n cadw’r cofnodion swyddogol ac yn llunio ein cof. Mae un o’r prif destunau sy’n croniclo hanes Cymru, Brut y Tywysogyon, yn gorffen yn 1282 a rhai cyfnodau’n unig a gofnodir mewn eraill; mae fel petai cof croniclaidd y Cymry wedi’i ddileu gan brofiad ysgytwol y goncwest. Yn yr un modd - ac nid yw’n syndod - cafodd y goncwest hefyd effaith andwyol ar y traddodiad barddol yng Nghymru; bu’n rhaid aros tan y bedwaredd ganrif ar ddeg i’r traddodiad barddol gael ei adfywio. Mae prinder ffynonellau Cymraeg yn golygu bod y deisebau unigol a thorfol a gyflwynwyd gan Gymry i’r brenin a’i arglwyddi’n hynod o werthfawr i haneswyr, gan eu bod yn gymorth i ddisgrifio pryderon, rhwystredigaethau a chwynion y Cymry yn y blynyddoedd ar ôl y goncwest. Yn yr un modd ag y mae angen sgiliau a mewnolwg arbennig ar haneswyr i geisio ysgrifennu hanes diweddar o safbwynt rhagolygon a dyheadau pobl gyffredin, mae angen defnyddio’r dychymyg a dogfennau hanesyddol mewn ffordd hynod o sensitif a gofalus i allu gwerthfawrogi beth oedd y goncwest yn ei olygu i’r Cymry yng nghyfnod Edward I ac i ba raddau yr effeithiodd arnynt.

Para 7.13

Yr ail her wrth ymhél â’r pwnc hwn - fel unrhyw bwnc hanesyddol pwysig arall, boed yn yr oesoedd canol neu heddiw - yw dehongli. Mae gwahaniaeth barn yn rhan o hanes fel y mae’n rhan o fywyd bob dydd. Roedd barn haneswyr y cyfnod am y goncwest yn amrywio cymaint â barn haneswyr heddiw. I un coffawr ar y pryd, Llywelyn ap Gruffydd oedd arweinydd a gobaith ei bobl, ‘a model for those of the future’; ond nid yw’n syndod fod barn haneswyr Saesneg yn dra gwahanol, gan ddisgrifio Llywelyn fel ymgorfforiad o frad a’i frawd yn gymaint o fradwr ag yntau. Roedd y farn am Edward I ar y pryd yn amrywio’n fawr: dywedodd un sylwebydd ei fod yn dwyllodrus ac anghyson, tra cyfeiriodd un arall at ei ‘never failing righteousness’; roedd un yn amau ei gymhellion gan ei alw’n ‘the covetous king’, ond ar ôl ei fuddugoliaeth yng Nghymru, rhoddwyd y llysenw ‘good King Edward, the Conqueror’ gan hanesydd arall yn ddiweddarach. Mae gwahaniaeth barn hyd yn oed yn y cyfnod diweddar: yng Nghymru, yn arbennig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd statws arwr cenedlaethol i Llywelyn, ef oedd Y Llyw Olaf; ond yn Lloegr mae dylanwad Edward I fel un o frenhinoedd mwyaf effeithiol a llwyddiannus yr Oesoedd Canol yn aros heb ei herio.

Para 7.14

Mae gwahaniaeth barn i’w ddisgwyl: wedi’r cyfan, mae 1282, fel 1536, yn sicr o fod yn ddyddiad y mae Cymry gwladgarol yn cofio’r gorffennol, fel y mae 1789 i Ffrancwyr. Ond mae gwahaniaeth barn nid yn unig yn deillio o agweddau ac argyhoeddiadau cenedlaethol, ddoe a heddiw (fel y mae unrhyw wahaniaethau’n deillio o safbwyntiau gwleidyddol neu ideolegol); mae hefyd yn bosibl iddynt ffurfio, neu gael eu hamlygu, gan ffyrdd gwahanol o ddehongli’r dystiolaeth hanesyddol ei hun. Crybwyllir yma ddwy enghraifft o wahanol ddehongliadau, y ddwy’n deillio o waith ysgolheigaidd diweddar. Mae’r gyntaf yn gysylltiedig â chymeriad a chymhelliant y ddau brif arweinydd, Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I. Mae’r ddau wedi cael sylw sylweddol gan haneswyr yn ddiweddar ac nid ymdeimlad cenedlaethol yw’r ffactor sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth barn wrth groniclo yn y naill achos na’r llall. Felly, haneswyr Cymry, nid Lloegr, sydd wedi cwestiynau ymddygiad a chymhellion Llywelyn yn ddiweddar, gan ei gyhuddo o ymddwyn yn ormesol tuag at ei bobl a’i gyd-Gymry a reolai’r wlad gydag ef, o fod yn oruchelgeisiol, neu anghyfrifol ac ystyfnig, ac o faglu ei ffordd i drychineb. Mewn gair, ai Llywelyn ei hun oedd yn bennaf gyfrifol am ddymchwel ei dywysogaeth ei hun? Serch hynny, bwriwyd cryn amheuaeth ar gymeriad a chymhelliant Edward I, yn gyffredinol ac yn benodol o safbwynt Cymru. O edrych yn fanylach nid yw ei fwriadau didwyll yn argyhoeddi; mae ei bolisïau wedi eu beirniadu ar sail eu ‘masterfulness’, ‘moral shabbiness’ a ‘double dealing’; tra bod ei ymyrraeth yng Nghymru a’r Alban wedi ei alw’n ‘a burst of imperialist activity’. Nid oes gan haneswyr allwedd i galonnau na chymhellion dynion; ond fel y mae’r dehongliadau diweddar hyn o gymeriadau ac ymddygiad Llywelyn ac Edward yn eu hawgrymu, rhaid ceisio canfod beth a’u cymhellodd a thrwy wneud hynny, herio’r dehongliadau hanesyddol sydd eisoes yn bodoli.

Para 7.15

Mae’r un peth yn wir am ail faes lle mae pwyslais hanesyddol wedi newid yn ddiweddar, sef concwest Cymru. Ar un wedd, mae’n ymddangos bod y goncwest yn ddigwyddiad eithaf syml - yn fuddugoliaeth filwrol fawr gyda rhaglen sylweddol o adeiladu cestyll a setliad llywodraethol a chyfreithiol cynhwysfawr i ddiogelu’r dyfodol. Ond a oedd ei heffaith mor syml a dofn ag y mae’r dogfennau yn ei awgrymu neu mor drawmatig â’r ing a gyflëir yng nghanu’r beirdd? Yn anad dim, pam y digwyddodd y goncwest yn 1282-3? Ai canlyniad cyfres o ddamweiniau na ragwelwyd oedd y goncwest - er enghraifft, fel sydd wedi ei ddadlau yn achos y Rhyfel Byd Cyntaf? A allai Llywelyn ac Edward fod wedi trefnu modus vivendi goddefgar yn eu perthynas? Ynteu a oedd rhesymau strwythurol dwfn yn natblygiad y ddwy wlad a’r bobl ac yn eu perthynas gyda’i gilydd a oedd yn golygu bod y diweddglo’n anochel? Heb danbrisio mewn unrhyw ffordd bwysigrwydd ffactorau personol a damweiniol, ar sail y ‘rhesymau strwythurol’ hyn y mae dehongliadau hanesyddol diweddar o’r cyfnod hwn wedi canolbwyntio. Mae haneswyr Cymru wedi tynnu sylw at y newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol dwfn a ddigwyddodd yng Nghymru dan reolaeth y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg ac maent wedi gofyn tybed a oedd uchelgais tywysogion Gwynedd o safbwynt arweinyddiaeth Cymru’n briodol yn y pen draw i’r drefn ffiwdal gynyddol feichus ac ymyrgar a orfodwyd arnynt gan frenhinoedd Lloegr. Mae haneswyr Saesneg wedi pwysleisio'r trawsnewid pwysig a ddaeth i deyrnas Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Ar ôl colli’r rhan fwyaf o’i thiroedd ar y Cyfandir rhwng 1204 a 1259, am y tro cyntaf ers y goncwest Normanaidd, Lloegr oedd canolbwynt brenhiniaeth Lloegr; gallai’n awr fanteisio ar y cyfle i droi ei golygon at diriogaethau (fel yr ystyriai hwy) o fewn Prydain. Yn sgil y newid cyfeiriad hwn cynyddodd ymwybyddiaeth genedlaethol y Saeson. Dechreusant ymfalchïo ym mhlwyfoldeb a rhagoriaeth cyfraith gyffredin Lloegr. Gwelwyd twf yn aeddfedrwydd ac effeithiolrwydd trefn weinyddol Lloegr, a chysyniadau rheolaeth fetropolitanaidd, biwrocratiaeth ac unffurfiaeth gyfreithiol, a llinellau clir o ddirprwyo ac atebolrwydd. Mae newidiadau mor bellgyrhaeddol yn peri i rywun ofyn a oedd llywodraeth frenhinol Lloegr wedi datblygu i’r pwynt lle’r oedd concwest filwrol yng Nghymru o fewn ei gafael yn ogystal â’r modd i’w rheoli’n effeithiol. Ai rhan o dwf y wladwriaeth Saesneg oedd concwest Cymru? Ai un bennod yn hanes Lloger oedd hon lle’r oedd penarglwyddiaeth (fel y mae wedi ei alw) Ynys Prydain yn cael ei thrawsnewid gan greu trefn reoli uniongyrchol? Ac a oedd hi’n debygol mai’r Alban fyddai’r nesaf yn y rhestr?

Para 7.16

Nid yw’n hawdd cynnig ateb i gwestiynau fel y rhain, yn sicr nid ateb pendant. Mewn hanes y gorau y gallwn ei wneud yw taflu goleuni newydd. Ond trwy daflu goleuni newydd yn hytrach nag aros yn yr unfan, trwy ofyn cwestiynau newydd, trwy edrych ar ein ffynonellau mewn gwahanol ffyrdd a thrwy sylwi beth yw eu diffygion yr ydym yn symud yn eu blaenau ac yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o hanes. Mae hyn yn wir am gyfnodau ymhell yn ôl mewn amser y mae dehongliadau parod iddynt, fel concwest Edward I, ag ydyw o bynciau mwy diweddar sydd â mwy o dystiolaeth ar eu cyfer

Coron a chymunedau: cydweithio a gwrthdaro (A.D.Carr)

O: Edward I and Wales, golygwyd gan Trevor Herbert a Gareth Elwyn Jones, Welsh History and its Sources (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).

Para 7.17

Ar 9 Gorffennaf 1283 lluniodd chwech o’r gwŷr ‘more noble, more honest and more trustworthy’ o bob un o brif gantrefi Gwynedd, gan weithredu ar ran eu cymunedau, fondiau gerbron Esgob Bangor i gadw’r heddwch (7A).

Mae’r gweithredoedd hyn, a wnaed yn fuan ar ôl dal tywysog olaf Cymru, Dafydd ap Gruffydd, yn dynodi diwedd rhyfel annibyniaeth olaf Cymru; yn Ystatud Cymru, a gyhoeddwyd yn Rhuddlan wyth mis yn ddiweddarach, cofnodwyd trefniadau gweinyddol a chyfreithiol newydd Edward I ar gyfer y dywysogaeth a oedd bellach dan ei feddiant. Os oedd annibyniaeth wleidyddol, yn yr ystyr a roddwn i’r term, wedi dod i ben, cadwodd tywysogaeth Cymru, a roddwyd yn 1301 i fab hynaf y brenin, Edward Caernarfon, ei hannibyniaeth; ni ddaeth yn rhan o deyrnas Lloegr.

Para 7.18

Trwy’r Ystatud crëwyd patrwm newydd o siroedd ar sail y system cantrefi a chymydau a fodolai; yn y de roedd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin wedi bodoli ers 1241, ond yn y gogledd roedd siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd yn siroedd newydd. Disodlwyd trefn weinyddol ganolog y tywysogion brodorol gan lywodraethwr brenhinol, Ynad Gogledd Cymru; a sefydlwyd ynad cyfatebol yn nwy sir y de am y tro cyntaf yn 1280. Mewn gwirionedd, fel y dywedwyd yn yr ateb i un o’r deisebau gan gymuned Gogledd Cymru yn 1305, cymerodd yr ynad le distain y brenin (7B). Roedd gan bob sir ei siryf; roedd pump o’r un swyddog ar bymtheg yng Ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Edward yn Gymry. Ac ym mhob cwmwd roedd y rhaglaw a’r rhingyll, a arferai gynrychioli’r tywysog cyn y goncwest ond a oedd bellach yn cynrychioli’r Goron, yn dal i fod yn Gymry. Roedd yn arferiad i’r gwŷr hynny ddod o deuluoedd a oedd yn arwain eu cymunedau ac roedd y swyddogaeth yn aml yn cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall (7Ci). Pan gwynodd Goronwy Crach, rhingyll cwmwd Menai ym Môn, i Edward Caernarfon yn 1305 ei fod yn cael ei orfodi i dalu rhent blynyddol am swyddogaeth yr arferai ef a’i gyndeidiau ei dal heb dâl, penderfynwyd y gallai gadw’r swyddogaeth am dair punt bob blwyddyn ond byddai’n rhaid iddo ildio’r holl hawliau yr oedd ganddo ef a’i ddisgynyddion iddi (7Cii). Mae hyn yn awgrymu bod Edward yn sylweddoli, fel yr oedd nifer o arglwyddi Eingl-Normanaidd wedi gwneud o’i flaen, mai’r ffordd orau o reoli’r Cymry ar lefel leol oedd trwy eu harweinwyr eu hunain; ond, mae’r ddogfen hefyd yn awgrymu nad oedd yn fodlon cydnabod hawliau etifeddol i swyddogaethau a fyddai’n ei amddifadu ef a’i olynwyr o ffynhonnell nawdd werthfawr. Gallai Cymry elwa ar nawdd o’r fath, fel y gwas brenhinol o Fôn, Tudur ap Gruffudd a wnaed yn rhaglaw cwmwd Talybolion yn ei sir gynhenid i gydnabod ei wasanaeth i’r brenin (7D).

Para 7.19

Nid yw’n dasg hawdd diffinio’r cysyniad canoloesol o gymuned. Yn y dywysogaeth gallai olygu mewnfudwyr Cymraeg neu Saesneg a drigai’n bennaf yn y bwrdeistrefi newydd, a gallai unigolyn berthyn i sawl cymuned yr un pryd; safai yng nghanol cyfres o gylchoedd consentrig, yn cynrychioli ei gymdogaeth ei hun, ei sir a’r dywysogaeth. Yn ei hanfod, y bobl oedd y gymuned, yn hytrach nag uned wleidyddol diriogaethol, a defnyddid y term hefyd am arweinwyr y bobl hynny, a siaradai ac a weithredai ar eu rhan. Roedd y llys sirol, a gyflwynwyd gan Edward yn Ystatud Cymru’n fforwm lle gellid rhoi llais i ddymuniadau’r brenin a lle gallai cynrychiolwyr y brenin drafod materion fel trethi a chynnal trefn; yr un pryd gallai’r gymuned gyflwyno ei chwynion a’i cheisiadau i’r awdurdodau.

Para 7.20

Gan nad oedd tywysogaeth Cymru’n rhan o deyrnas Lloegr ni châi ei chynrychioli yn y Senedd ac nid oedd ychwaith yn gyfrifol am dalu treth seneddol. Fel arfer byddai’r awdurdodau’n trafod treth gyda chynrychiolwyr y gymuned, ond pan drethwyd Cymru y tro cyntaf yn 1291, gorchmynnwyd y dywysogaeth a’r Mers i dalu’r dreth i Edward i dalu pridwerth ei berthynas, Brenin Sisili (7E). Rhoddwyd sicrwydd i arglwyddi’r Mers na fyddai’n cael ei ystyried yn gynsail, ac yn y pen draw fe’i talwyd (7F). Roedd Madog ab Iorwerth, a enwir yn y rhestr trethdalwyr ar gyfer trefgordd Pennant-lliw ym Meirionnydd, yn nodweddiadol o’r gwŷr a gynrychiolai’r gymuned; daliai nifer o swyddi yn y sir ac mae’r swm a dalwyd iddo’n adlewyrchu ei safle. Dim ond tri gŵr ym Meirionnydd a gâi dâl uwch. Ond, er i arglwyddi’r Mers gael sicrwydd yn 1291, nid oedd tiroedd brenhinol Cymru’n rhydd rhag baich treth. Gorchmynnwyd iddynt dalu treth bellach yn 1300, er bod ffordd gymodlon a thringar Edward o drin y gymuned Gymreig yn amlwg yn y ffordd yr atgoffwyd hi o’i chytundeb (7Gi). A rhoddwyd sicrwydd i’r gymuned hon na fyddai’r taliad yn cael ei ystyried yn gynsail mewn unrhyw ffordd (7Gii)

Para 7.21

Un o ganlyniadau ymestyn gweithdrefn a chyfraith droseddol Lloegr i dywysogaeth Cymru oedd mai’r gymuned oedd yn gyfrifol am gynnal trefn. Rhywbryd yn ystod teyrnasiad Edward, yn fwy na thebyg heb fod ymhell ar ôl gwrthryfel Madog ap Llywelyn (gweler isod), cyfarfu’r ynad â chymuned pob sir a lluniwyd cyfres o orchmynion ar gyfer cynnal trefn (7H). Roedd rhai o’r gorchmynion hyn yn golygu bod arferion Lloegr yn cael eu cyflwyno yn y dywysogaeth; tra bod eraill yn caniatáu iddynt ddal i arfer cyfraith Hywel. Roedd yr ymrwymiad newydd hwn o gyfrifoldeb cymunedol yn disodli’r ceisiad, neu’r rhingyll heddwch (sergeant of the peace) a gâi ei gynnal gan addewidion o gyflenwad bwyd, system yr oedd llawer yn ei chasáu; mae’n bosibl y byddai’r gymuned wedi croesawu’r newid.

Para 7.22

Yn achos y rhan fwyaf o bobl ychydig iawn o newid a ddaeth yn sgil y drefn newydd a chadwodd arweinwyr traddodiadol y gymuned eu grym a’u dylanwad. Yn wir, mewn rhai ffyrdd efallai fod Gwynedd ar ei hennill o dan Edward o’i gymharu â Llywelyn ap Gruffudd. Mae’n bosibl bod gofynion ariannol trwm Llywelyn wedi bod yn straen ar deyrngarwch ei bobl. Er hynny, bu dau wrthryfel yng Nghymru rhwng 1282 a marwolaeth Edward yn 1307. Arweiniwyd y cyntaf, yn Sir Gaerfyrddin yn 1287 gan Rhys ap Maredudd, aelod o dŷ brenhinol y Deheubarth (7I). Fel mwyafrif yr arglwyddi Cymreig y tu allan i Wynedd, roedd Rhys wedi cefnogi Edward yn rhyfel 1276-7; yn wahanol iddynt hwy, roedd hefyd wedi ochri ag ef yn 1282. O ganlyniad roedd wedi disgwyl cael ei wobrwyo’n well nag a gafodd; roedd wedi tybio y byddai’n arglwydd annibynnol Cantref Mawr, ond teimlai fod Ynad De Cymru’n rhoi pwysau cynyddol arno ac yn ymyrryd. Ym Mehefin 1287 dechreuodd wrthryfela, ond erbyn Ionawr 1288 rhoddwyd terfyn ar y gwrthryfel gan fyddin y brenin, a oedd yn cynnwys nifer fawr o Gymry, arno. Yn y diwedd daliwyd Rhys a chafodd ei grogi yn Efrog.

Para 7.23

Ni ellir ystyried y gwrthryfel hwn fel gwrthdystiad cenedlaethol mewn unrhyw ffordd nac fel protest gan gymunedau Cymru yn erbyn cam-lywodraethu; ond yn hytrach fel ymateb un o arglwyddi Cymru oherwydd ei siom a’i rwystredigaeth. Roedd yr ail wrthryfel a ddigwyddodd ym Medi 1294 yn llawer mwy difrifol, ac effeithiodd ar Gymru gyfan (7J). Yr arweinydd yn y gogledd oedd Madog ap Llywelyn, un o feibion arglwydd olaf Meirionnydd a gafodd ei droi ymaith gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1256.Roedd eisoes wedi ceisio adennill ei etifeddiaeth, heb unrhyw lwyddiant, fel Morgan ap Maredudd o Wynllŵg, arweinydd gwrthryfelwyr Morgannwg; arweiniwyd y gwrthryfel yn y de-orllewin gan Maelgwn ap Rhys, ac un o ddisgynyddion tywysogaeth y Deheubarth. Ar y dechrau roedd mantais gan y gwrthryfelwyr oherwydd eu bod wedi ymosod yn ddirybudd, ond erbyn dechrau haf 1295 roedd y gwrthryfel drosodd, ar ôl i ymgyrch filwrol fawr gael ei threfnu yn eu herbyn. Ar yr wyneb, roedd y gwrthryfel yn brotest gydlynol gan aelodau’r uchelwyr. Ond roedd yn fwy na hynny. Yng Ngogledd Cymru yn arbennig, gellir ei hystyried fel protest gan y gymuned. Mae’n annhebygol fod llawer o gydymdeimlad â chwynion Madog ei hun na bod unrhyw un yn dyheu am y llinach gynhenid y bu’n ei gwasanaethu.

Para 7.24

Mae’n bosibl bod cyfuniad o achosion wedi arwain y gymuned i wrthryfela. Yn ystod blynyddoedd olaf Llywelyn roedd pwysau ariannol anghyffredin ar gymuned Gwynedd. Pan edrychodd swyddogion Edward ar ei diriogaethau newydd ar ôl y goncwest mae’n bosibl eu bod wedi cymryd bod y gwasanaethau a’r dreth a godwyd ar y gymuned yn y blynyddoedd yn syth ar ôl marwolaeth y Tywysog yn batrwm cyffredin. Adlewyrchwyd hyn yn yr Ystentiau a wnaed ar ôl y goncwest, a arweiniodd at gryn brotestio (7K). Cwynodd taeogion trefgordd Penrhosllugwy ym Môn yn 1315, 1322 ac eto yn 1327; er iddynt brofi eu pwynt bob tro parhaodd yr awdurdodau am amser hir i geisio casglu’r arian ychwanegol. Yn ogystal â’r gofynion gormodol hyn, gosodwyd treth yng Nghymru yn 1291 yn ogystal â Lloegr ac yn 1294 ceisiwyd gorfodi milwyr o Gymru i fod yn rhan o ymgyrch y Brenin yn Gasconi. Efallai bod hyn oll wedi gwthio’r gymuned i’r pen ac efallai bod y ffaith bod ei harweinwyr wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel yn dangos bod swyddogion Edward wedi mynd yn rhy bell.

Para 7.25

Mae’r ffordd y penderfynodd Edward ymateb yn awgrymu ei fod yn ymwybodol o hyn. Er bod y gwrthryfel wedi peri iddo roi’r gorau i ymgyrch hir yn Gasconi ac er bod y gost o wneud hynny wedi arwain at argyfwng ariannol a chyfansoddiadol mawr yn Lloegr, mae’n ymddangos ei fod wedi sylweddoli bod rhywbeth mawr o’i le yn y dywysogaeth. Yn fuan ar ôl rhoi terfyn ar y gwrthryfel, comisiynwyd John de Havering, Ynad Gogledd Cymru a oedd newydd ei benodi, a William Scyun, cwnstabl Castell Conwy, i ymchwilio i gwynion cymuned Gogledd Cymru ynglŷn â chamweinyddu gan swyddogion brenhinol ers y goncwest ac i unioni’r sefyllfa (7L). Yn sicr mae’n ymddangos bod y Brenin wedi ymateb yn ofalus ac ystyriol i deimladau’r Cymry. Yn 1296 daeth dirprwyaeth yn cynrychioli’r gymuned, yn cynnwys tri Chymro a siryf Saesneg Môn ato i ddweud bod si ar led yng Ngogledd Cymru ei fod yn amheus ohonynt. Mewn ymateb anfonodd lythyr o sicrwydd (7M); yr un pryd ysgrifennodd at yr Ynad yn ei gyfarwyddo i ymdrin yn ddifrifol ag unrhyw un a oedd yn lledu’r sïon fel ‘that the punishment shall strike terror into others saying the like things’. Efallai mai ofn gwrthryfel arall oedd i gyfri am yr agwedd dringar a chymodlon hon ond mae’n ymddangos ei bod wedi ennyn ymateb, o leiaf am weddill teyrnasiad Edward. Er i Madog ap Llywelyn ei hun gael ei garcharu, ni chafodd ei ddienyddio ac etifeddwyd ei diroedd ym Môn gan un o’i feibion.

Para 7.26

Pan roddwyd y dywysogaeth i Edward Caernarfon yn 1301, daeth y tywysog newydd i Gymru i dderbyn gwrogaeth a llw ffyddlondeb ei bobl ac yn eu tro, daeth holl aelodau blaenllaw’r gymuned yno i’w dderbyn fel eu rheolwr (7N). Roedd Syr Gruffydd Llwyd, a oedd ar ben y rhan hon o’r rhestr, yn nodweddiadol o’r arweinwyr hyn. Roedd yn un o ddisgynyddion distain Llywelyn ab Iorwerth, Ednyfed Fychan, ac felly’n aelod o’r teulu amlycaf yng Ngogledd Cymru. Yn ystod tywysogaeth Edward Caernarfon gwasanaethodd yn olynol fel siryf Sir Gaernarfon a Sir Fôn, ac ar ôl i’r Tywysog ddod i’r orsedd fel Edward II, daliodd swydd siryf Meirionnydd am ddau dymor. Mae’n ymddangos ei fod yn cael ei ystyried fel arweinydd Cymry Gogledd Cymru ac am y rhan helaethaf o’i oes roedd ei deyrngarwch i’r Goron yn amlwg; arweiniodd wŷr Gogledd Cymru yn rhyfel cartref 1322 a pharhaodd yn deyrngar i Edward II yn argyfwng olaf ei deyrnasiad yn 1326-7. Unwaith yn unig yr amheuwyd ei deyrngarwch iddo; a hynny yn y blynyddoedd ar ôl 1315 pan ymosododd Robert Bruce a’i frawd Edward ar Iwerddon gyda’r bwriad o ymosod ar Gymru. Mae tystiolaeth fod Syr Gruffudd mewn cysylltiad â hwy a’i fod wedi ei garcharu am gyfnod. Ond yn gyffredinol cynrychiolodd y gymuned yr oedd Edward yn ei thrin mor ofalus ac a dderbyniodd y drefn newydd a oedd yn golygu eu bod â rheolaeth lwyr ar y lefel leol.

Para 7.27

Mae gwrthryfel Madog yn dangos mai camgymeriad oedd cymryd teyrngarwch y gymuned yn ganiataol. Roedd y gymuned ac unigolion yn barod iawn i leisio eu cwynion. Yn 1305 cyflwynwyd corff o ddeisebau o Ogledd Cymru i Edward Caernarfon yn ei faenor yn Kennington yn Surrey. Roedd 32 o’r deisebau hyn gan y gymuned. Mae rhai’n adlewyrchu’r tensiwn a oedd eisoes yn datblygu rhwng pobl y dywysogaeth a’r bwrdeistrefi Saesneg newydd a sefydlwyd gan Edward fel rhan o’i setliad. Roedd y gymuned yn casáu cael eu gorfodi i fasnachu yn y bwrdeistrefi, tra bod y bwrdeiswyr yn cwyno’n aml nad oedd pobl yn dod i’w marchnadoedd a’u ffeiriau i fasnachu a’u bod o’r herwydd yn colli incwm o’u tollau (7O, 7P). Byddai’r tensiwn hwn yn gwaethygu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Para 7.28

Un o’r prif gwynion gan y gymuned oedd yr hawl i brynu a gwerthu tir. Yn ôl Ystatud Cymru dylai daliadaeth tir barhau i gael ei llywodraethu gan gyfraith Cymru; roedd hyn yn golygu bod tir etifeddol rhydd yn cael ei freinio i’r teulu ac na allai unrhyw unigolyn werthu ei etifeddiaeth. Yn 1305 gofynnodd y gymuned am yr hawl i werthu a phrynu tir; yr ateb a roddwyd oedd nad oedd y Tywysog yn fodlon gwneud unrhyw newidiadau (7Q).

Nid dyma ddiwedd y mater; yn Senedd Lincoln yn 1316 rhoddwyd yr hawl iddynt werthu a phrynu tir am gyfnod o dair blynedd (7R). Ar y pryd roedd Edward II yn awyddus i fod yn gymodlon, yn arbennig o ystyried y bygythiad gan y brodyr Bruce yn Iwerddon a gwrthryfel diweddar Llywelyn Bren ym Morgannwg. Yn 1321 ymestynnwyd yr hawl am gyfnod o bedair blynedd ond nid oes tystiolaeth ei fod wedi ei adnewyddu ar ôl hynny. Gellir tybio bod y cyfeiriad yn y ddeiseb at gyfnod o bedair blynedd yn gysylltiedig â’r weithred gyfreithiol ‘prid’ a oedd yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo tir o dan gyfraith Cymru. Ond mae’r ymateb i’r ddeiseb hon yn dangos fod y gymuned, pa mor geidwadol bynnag yr oedd mewn rhai agweddau, yn gofyn am fwy o newid nag yr oedd yr awdurdodau’n barod i’w ildio. O ran tir, roedd y setliad newydd yn arbennig o geidwadol; yn ôl yr ystatud ni fyddai unrhyw newid yn y drefn o olyniaeth ranadwy (7S). Fodd bynnag, roedd ffyrdd y gellid osgoi rhannu’r tir gan drosglwyddo’r cyfan i’r mab hynaf (7T).

Yn ogystal â’r deisebau a gyflwynwyd yn Kennington gan y gymuned, roedd llawer mwy gan unigolion. Roedd a wnelo nifer o’r rhain â swyddogaethau, hawliau neu freintiau a roddwyd cyn y goncwest, ac yr oedd swyddogion y dywysogaeth yn ceisio ymyrryd â hwy (7U). Nid dyma’r unig ddeisebau; yn wir, trwy ddeiseb oedd y ffordd arferol i aelodau’r gymuned gysylltu â’r brenin neu’r tywysog ac mae nifer ohonynt wedi goroesi yn ogystal â rhai 1305 (7V). Mae’r rhain hefyd yn aml yn dangos ymateb y gymuned i’r drefn newydd.

Para 7.30

Arweiniodd concwest Edward a’r setliad at gydweithredu a gwrthdaro rhwng y Goron a chymunedau yng Nghymru. Roedd arweinwyr cymunedau yng Ngwynedd yn derbyn a chefnogi’r drefn newydd a oedd yn caniatáu iddynt barhau i reoli’r cymunedau hynny, tra bod y Goron yn ei thro’n dibynnu arnynt. Roedd swyddogaeth rhaglaw a rhingyll yn parhau i fodoli er eu bod bellach yn enw’r Brenin Edward yn hytrach na Thywysog Llywelyn; roedd angen eu hewyllys a’u cydweithrediad ar y Brenin, er na allai gymryd hyn yn ganiataol fel y dengys gwrthryfel Madog ap Llywelyn ar ôl iddynt gael eu gwthio’n rhy bell. Mae’r swyddogaethau, y drefn a’r system drethu’n dangos i ba raddau yr oeddent yn cydweithredu; mae gwrthryfel Madog yn dangos bod gwrthryfela’n bosibl ac mae nifer y deisebau, gan y gymuned a gan unigolion, yn dangos parodrwydd ar ran y Goron i unioni’r cwynion hynny, neu o leiaf i ymchwilio iddynt ac yn anad dim i wrando arnynt. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar ôl y gwrthryfel, sy’n ymddangos yn adeg dyngedfennol yn y berthynas rhwng Edward I a Chymry’r dywysogaeth. Roedd cwynion yn bod ers tro, ond ar y cyfan cydweithredodd y Goron a’r cymunedau a chymerodd y Brenin yr unig achos o wrthryfel fel rhybudd. Pa deimladau bynnag o atgasedd neu hiraeth a oedd yn cyniwair o dan yr wyneb, ni ddaethant yn amlwg yn ystod gweddill teyrnasiad Edward.

Uned 8 David Lloyd George a thynged Cymru