Para 7.10

O hynny ymlaen roedd yn rhaid i’r Cymry ddysgu byw gyda’r realiti. I rai roedd y broses o addasu’n boenus. Dangosodd gwrthryfel o bwys yng ngorllewin Cymru yn 1287 nad oedd hyd yn oed arweinwyr Cymreig a oedd wedi croesawu a chydweithredu ag Edward I yn ei chael yn hawdd byw o dan drefn lywodraethol galed ac ymladdgar Edward I. Ond gwrthryfel mawr 1294-5, a ysgubodd trwy’r wlad o Ynys Môn i Forgannwg, a ddangosodd y gwir atgasedd a deimlid yn sgil y goncwest. Daeth y Cymry, fel cynifer o bobloedd trefedigaethol, o hyd i undod newydd o dan drefn lywodraethu estron. Roedd y gwrthryfel yn deillio o nifer o gwynion unigol a phenodol - yn arbennig y drefn ddiweddar o osod trethi trwm ynghyd ag ymddygiad llawdrwm a gormesol swyddogion Saesneg - ond roedd hefyd yn deillio o ddau deimlad dyfnach a mwy cyffredinol sydd i’w canfod o dan yr wyneb trwy gydol hanes Cymru yn dilyn y goncwest. Un ohonynt oedd y teimlad bod gwahaniaethu yn erbyn y Cymry yn eu gwlad eu hunain, eu bod yn ddinasyddion eilradd, llai breintiedig. Mae’n debyg bod y teimlad hwnnw’n deillio o agweddau’r swyddogion Saesneg a’r ymsefydlwyr yng Nghymru - yn amrywio o ymddygiad nawddoglyd trahaus a nerfus (fel y dywedodd un ohonynt yn 1296 ‘the Welsh are Welsh, and you need to understand them properly’) - i fanteisio’n ffyrnig ar eu sefyllfa gyfreithiol a’u breintiau masnachol, yn arbennig gan ‘English burgesses of the English boroughs in Wales’. Cadarnhawyd yr agweddau hyn yn swyddogol gan y mesurau gwahaniaethol llym a gyflwynwyd gan Edward I mewn ymateb i wrthryfel 1294. O ran y teimlad arall a nodweddai agweddau’r Cymry yn y cyfnod ar ôl y goncwest, deilliai hwn nid o deimladau diweddar o gael eu goresgyn a’u gwneud yn estroniaid yn eu gwlad eu hunain, ond yn hytrach ar fytholeg a fodolai ers canrifoedd. Credent y byddai mab darogan yn dod i’w hachub rhag y Saeson, fel Arthur gynt.