Para 7.26

Pan roddwyd y dywysogaeth i Edward Caernarfon yn 1301, daeth y tywysog newydd i Gymru i dderbyn gwrogaeth a llw ffyddlondeb ei bobl ac yn eu tro, daeth holl aelodau blaenllaw’r gymuned yno i’w dderbyn fel eu rheolwr (7N [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd Syr Gruffydd Llwyd, a oedd ar ben y rhan hon o’r rhestr, yn nodweddiadol o’r arweinwyr hyn. Roedd yn un o ddisgynyddion distain Llywelyn ab Iorwerth, Ednyfed Fychan, ac felly’n aelod o’r teulu amlycaf yng Ngogledd Cymru. Yn ystod tywysogaeth Edward Caernarfon gwasanaethodd yn olynol fel siryf Sir Gaernarfon a Sir Fôn, ac ar ôl i’r Tywysog ddod i’r orsedd fel Edward II, daliodd swydd siryf Meirionnydd am ddau dymor. Mae’n ymddangos ei fod yn cael ei ystyried fel arweinydd Cymry Gogledd Cymru ac am y rhan helaethaf o’i oes roedd ei deyrngarwch i’r Goron yn amlwg; arweiniodd wŷr Gogledd Cymru yn rhyfel cartref 1322 a pharhaodd yn deyrngar i Edward II yn argyfwng olaf ei deyrnasiad yn 1326-7. Unwaith yn unig yr amheuwyd ei deyrngarwch iddo; a hynny yn y blynyddoedd ar ôl 1315 pan ymosododd Robert Bruce a’i frawd Edward ar Iwerddon gyda’r bwriad o ymosod ar Gymru. Mae tystiolaeth fod Syr Gruffudd mewn cysylltiad â hwy a’i fod wedi ei garcharu am gyfnod. Ond yn gyffredinol cynrychiolodd y gymuned yr oedd Edward yn ei thrin mor ofalus ac a dderbyniodd y drefn newydd a oedd yn golygu eu bod â rheolaeth lwyr ar y lefel leol.