Para 7.18

Trwy’r Ystatud crëwyd patrwm newydd o siroedd ar sail y system cantrefi a chymydau a fodolai; yn y de roedd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin wedi bodoli ers 1241, ond yn y gogledd roedd siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd yn siroedd newydd. Disodlwyd trefn weinyddol ganolog y tywysogion brodorol gan lywodraethwr brenhinol, Ynad Gogledd Cymru; a sefydlwyd ynad cyfatebol yn nwy sir y de am y tro cyntaf yn 1280. Mewn gwirionedd, fel y dywedwyd yn yr ateb i un o’r deisebau gan gymuned Gogledd Cymru yn 1305, cymerodd yr ynad le distain y brenin (7B [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd gan bob sir ei siryf; roedd pump o’r un swyddog ar bymtheg yng Ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Edward yn Gymry. Ac ym mhob cwmwd roedd y rhaglaw a’r rhingyll, a arferai gynrychioli’r tywysog cyn y goncwest ond a oedd bellach yn cynrychioli’r Goron, yn dal i fod yn Gymry. Roedd yn arferiad i’r gwŷr hynny ddod o deuluoedd a oedd yn arwain eu cymunedau ac roedd y swyddogaeth yn aml yn cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall (7Ci). Pan gwynodd Goronwy Crach, rhingyll cwmwd Menai ym Môn, i Edward Caernarfon yn 1305 ei fod yn cael ei orfodi i dalu rhent blynyddol am swyddogaeth yr arferai ef a’i gyndeidiau ei dal heb dâl, penderfynwyd y gallai gadw’r swyddogaeth am dair punt bob blwyddyn ond byddai’n rhaid iddo ildio’r holl hawliau yr oedd ganddo ef a’i ddisgynyddion iddi (7Cii). Mae hyn yn awgrymu bod Edward yn sylweddoli, fel yr oedd nifer o arglwyddi Eingl-Normanaidd wedi gwneud o’i flaen, mai’r ffordd orau o reoli’r Cymry ar lefel leol oedd trwy eu harweinwyr eu hunain; ond, mae’r ddogfen hefyd yn awgrymu nad oedd yn fodlon cydnabod hawliau etifeddol i swyddogaethau a fyddai’n ei amddifadu ef a’i olynwyr o ffynhonnell nawdd werthfawr. Gallai Cymry elwa ar nawdd o’r fath, fel y gwas brenhinol o Fôn, Tudur ap Gruffudd a wnaed yn rhaglaw cwmwd Talybolion yn ei sir gynhenid i gydnabod ei wasanaeth i’r brenin (7D).