Para 7.20
Gan nad oedd tywysogaeth Cymru’n rhan o deyrnas Lloegr ni châi ei chynrychioli yn y Senedd ac nid oedd ychwaith yn gyfrifol am dalu treth seneddol. Fel arfer byddai’r awdurdodau’n trafod treth gyda chynrychiolwyr y gymuned, ond pan drethwyd Cymru y tro cyntaf yn 1291, gorchmynnwyd y dywysogaeth a’r Mers i dalu’r dreth i Edward i dalu pridwerth ei berthynas, Brenin Sisili (7E [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Rhoddwyd sicrwydd i arglwyddi’r Mers na fyddai’n cael ei ystyried yn gynsail, ac yn y pen draw fe’i talwyd (7F). Roedd Madog ab Iorwerth, a enwir yn y rhestr trethdalwyr ar gyfer trefgordd Pennant-lliw ym Meirionnydd, yn nodweddiadol o’r gwŷr a gynrychiolai’r gymuned; daliai nifer o swyddi yn y sir ac mae’r swm a dalwyd iddo’n adlewyrchu ei safle. Dim ond tri gŵr ym Meirionnydd a gâi dâl uwch. Ond, er i arglwyddi’r Mers gael sicrwydd yn 1291, nid oedd tiroedd brenhinol Cymru’n rhydd rhag baich treth. Gorchmynnwyd iddynt dalu treth bellach yn 1300, er bod ffordd gymodlon a thringar Edward o drin y gymuned Gymreig yn amlwg yn y ffordd yr atgoffwyd hi o’i chytundeb (7Gi). A rhoddwyd sicrwydd i’r gymuned hon na fyddai’r taliad yn cael ei ystyried yn gynsail mewn unrhyw ffordd (7Gii)
Para 7.19