Para 7.21

Un o ganlyniadau ymestyn gweithdrefn a chyfraith droseddol Lloegr i dywysogaeth Cymru oedd mai’r gymuned oedd yn gyfrifol am gynnal trefn. Rhywbryd yn ystod teyrnasiad Edward, yn fwy na thebyg heb fod ymhell ar ôl gwrthryfel Madog ap Llywelyn (gweler isod), cyfarfu’r ynad â chymuned pob sir a lluniwyd cyfres o orchmynion ar gyfer cynnal trefn (7H [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd rhai o’r gorchmynion hyn yn golygu bod arferion Lloegr yn cael eu cyflwyno yn y dywysogaeth; tra bod eraill yn caniatáu iddynt ddal i arfer cyfraith Hywel. Roedd yr ymrwymiad newydd hwn o gyfrifoldeb cymunedol yn disodli’r ceisiad, neu’r rhingyll heddwch (sergeant of the peace) a gâi ei gynnal gan addewidion o gyflenwad bwyd, system yr oedd llawer yn ei chasáu; mae’n bosibl y byddai’r gymuned wedi croesawu’r newid.