Para 7.23

Ni ellir ystyried y gwrthryfel hwn fel gwrthdystiad cenedlaethol mewn unrhyw ffordd nac fel protest gan gymunedau Cymru yn erbyn cam-lywodraethu; ond yn hytrach fel ymateb un o arglwyddi Cymru oherwydd ei siom a’i rwystredigaeth. Roedd yr ail wrthryfel a ddigwyddodd ym Medi 1294 yn llawer mwy difrifol, ac effeithiodd ar Gymru gyfan (7J [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Yr arweinydd yn y gogledd oedd Madog ap Llywelyn, un o feibion arglwydd olaf Meirionnydd a gafodd ei droi ymaith gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1256.Roedd eisoes wedi ceisio adennill ei etifeddiaeth, heb unrhyw lwyddiant, fel Morgan ap Maredudd o Wynllŵg, arweinydd gwrthryfelwyr Morgannwg; arweiniwyd y gwrthryfel yn y de-orllewin gan Maelgwn ap Rhys, ac un o ddisgynyddion tywysogaeth y Deheubarth. Ar y dechrau roedd mantais gan y gwrthryfelwyr oherwydd eu bod wedi ymosod yn ddirybudd, ond erbyn dechrau haf 1295 roedd y gwrthryfel drosodd, ar ôl i ymgyrch filwrol fawr gael ei threfnu yn eu herbyn. Ar yr wyneb, roedd y gwrthryfel yn brotest gydlynol gan aelodau’r uchelwyr. Ond roedd yn fwy na hynny. Yng Ngogledd Cymru yn arbennig, gellir ei hystyried fel protest gan y gymuned. Mae’n annhebygol fod llawer o gydymdeimlad â chwynion Madog ei hun na bod unrhyw un yn dyheu am y llinach gynhenid y bu’n ei gwasanaethu.