Uned 8 David Lloyd George a thynged Cymru
Rhagair (Chris Williams)
Cyhoeddwyd ‘David Lloyd George and Wales’, gan Kenneth O. Morgan, yn gyntaf yn 1988 yn Wales 1880-1914, cyfrol yng nghyfres ‘Welsh History and its Sources’. Roedd Morgan, ar y pryd, yn gymrawd Coleg Queen’s, Rhydychen, yna’n ddiweddarach daeth yn Bennaeth Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chafodd ei dderbyn i Dŷ’r Arglwyddi dan y teitl Arglwydd Morgan o Aberdyfi. Mae Morgan yn hanesydd nodedig sy’n arbenigo yn hanes diweddar Cymru ac mae’n awdurdod blaenllaw ar fywyd a hanes David Lloyd George.Yn ei lyfr cyntaf,Wales in British Politics, 1868-1922 (1980[1963]), mae’n edrych ar yr agenda gwleidyddol Cymreig penodol wedi’r Ail (1867) a’r Drydedd Ddeddf Ddiwygio (1884), a’r ffyrdd y dylanwadodd yr agenda hwnnw ar y Blaid Ryddfrydol ac ar lywodraethau Rhyddfrydol. Yna ysgrifennodd ddwy astudiaeth fywgraffyddol o Lloyd George, gwaith sylweddol ar gyfnod Lloyd George fel Prif Weinidog ar ôl y rhyfel a golygodd gyfrol am ohebiaeth Lloyd George. Hefyd mae wedi cyfrannu nifer o draethodau am Gymru ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd a dechrau’r ugeinfed ganrif ac ysgrifennodd gofnod am David Lloyd George ar gyfer yr Oxford Dictionary of National Biography (2006).
Mae ‘David Lloyd George and Wales’ yn trafod y berthynas rhwng y gwleidydd a’i famwlad. Roedd yn berthynas ymhell o fod yn syml ac mae wedi ei dehongli mewn amryw o ffyrdd gan ysgolheigion dros y blynyddoedd. Mae nifer o’r farn bod Lloyd George wedi colli diddordeb mewn achosion Cymreig penodol ar ddiwedd y 1890au oni bai eu bod o fudd personol iddo ef fel gwleidydd. Eto i gyd, yn y bywgraffiad diweddaraf (nid yr olaf bid siŵr) mae Emyr Price wedi dadlau bod cysylltiad rhwng mudiad Cymru Fydd a arweiniwyd gan Lloyd George a chreu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Yn ôl Price, Lloyd George oedd ‘the first architect of Welsh devolution and its most famous advocate’ a chyfeiria ato fel ‘the pioneering advocate of a powerful parliament for the Welsh people’ (2006, tud. xi, 208).
Mae modd cydymdeimlo â safbwynt Morgan yn y traethawd hwn. O ystyried ei fod yn ysgrifennu mwy na degawd cyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu, ar adeg pan oedd y Blaid Geidwadol wedi ennill tri etholiad yn olynol, mae’n ddealladwy bod ei bersbectif yn fwy cymedrol. Yn wir, ym mharagraff 8.4, mae Morgan yn dangos tebygrwydd rhwng tynged Cymru Fydd yn 1896 a chanlyniad y refferendwm datganoli cyntaf (1979) yng Nghymru. Ar y ddau achlysur, mae’n awgrymu, rhaniadau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol mewnol yng Nghymru a ddifethodd brosiectau a oedd yn ceisio sicrhau rhywfaint o ‘hunanlywodraeth’, gan hynny ‘[i]n 1896 as in 1979, the Welsh people, when offered a prospect of some political self-determination, rejected it out of hand by a decisive margin.’
Mae hon yn gymhariaeth ddiddorol, ac o bosibl yn gamarweiniol. Yn 1986, yn wahanol i 1979 (neu 1997), nid â’r etholaeth Gymreig yr ymgynghorid ond yn hytrach â chynrychiolwyr cynhadledd Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru yng Nghasnewydd, y rhan o’r blaid yn ne Cymru. Roedd Ffederasiwn Rhyddfrydol Gogledd Cymru eisoes wedi cytuno i uno â Chynghrair Cymru Fydd a ffurfio ‘Ffederasiwn Cenedlaethol Cymru’, ond gwrthododd Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru ac felly daeth mudiad Cymru Fydd i ben yn sydyn. Fel y dywed Morgan, teimlai Lloyd George nad oedd wedi cael llawer o groeso yng Nghasnewydd, ond mae’n bwysig deall nad oedd pawb o’r un farn. Yn ôl papur newydd dyddiol Casnewydd, y South Wales Argus, cefnogwyr Lloyd George oedd wedi ymddwyn waethaf yn y cyfarfod:
The howl that went up when Mr. Robert Bird [an opponent of Cymru Fydd] said there was a large community in South Wales which would not submit to domination and dictation [by the Welsh-speaking population] was as bad as the pandemonium on a football ground when the referee decided against the home team. Some of the delegates were like raving lunatics for a time...
(Dyfynnir yn Williams, 1997, tud. 124)
Hefyd, nid oedd gwrthwynebu Cymru Fydd o anghenraid yn gyfystyr â gwrthwynebu’r hyn a ystyrid yn fudd cenedlaethol i Gymru. Yn ôl prif wrthwynebydd merch Lloyd George yng Nghasnewydd, D. A. Thomas, y perchennog pyllau glo ‘[w]hen “Wales for the Welsh” was the great cry of the Cymru Fydd, he would laugh and say he preferred as the Welsh motto “The world is our oyster”’ (Williams, 1997, p.122).
Yn union fel na ddylai haneswyr dderbyn yn ddi-feirniadaeth un ochr y ddadl yn achos digwyddiadau 1896, mae’r un mor bwysig bod yn ddiduedd wrth ystyried y refferendwm datganoli yn 1979 a 1997. Mae’n bosibl bod methiant mawr yr ymgyrch ‘dros’ ddatganoli yn 1979 i’w briodoli’n rhannol i raniadau mewnol yng Nghymru, ond nid dyma’r unig ystyriaethau, ac ni ddylid eu hystyried chwaith fel rhai atafistaidd o anghenraid. Erbyn 1997 roedd digon wedi newid i wneud datganoli’n syniad derbyniol (bron) i fwyafrif y rhai a bleidleisiai.
A fyddai Lloyd George wedi bod o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru? A bod yn onest, ni allwn ddweud. Un o’r prif ddadleuon dros ‘hunanlywodraeth’ ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif oedd y byddai’n ysgwyddo peth o’r baich gormodol oddi ar Senedd San Steffan a oedd yn gorfod ymdopi nid yn unig â materion ym Mhrydain ond hefyd ag ymerodraeth eang dramor. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif nid oedd yr ymerodraeth honno’n bodoli. Roedd Lloyd George y gwladweinydd yn dibynnu ar fecanweithiau’r wladwriaeth Brydeinig ganolog i sicrhau newidiadau ariannol, lles a chyfansoddiadol ar raddfa na welwyd o’r blaen. Pan ddaeth yn brif weinidog ni wnaeth unrhyw ymdrech fawr i geisio hyrwyddo agenda datganoli'r 1890au - mae hynny’n ddealladwy, o ystyried fod angen ailadeiladu trefn wleidyddol trwy’r byd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yr hyn sy’n ymddangos yn sicr yw bod yn rhaid i berthynas Lloyd George â Chymru barhau i fod yn destun trafod.