Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 4:24 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 4:24 PM

Uned 8 David Lloyd George a thynged Cymru

Rhagair (Chris Williams)

Cyhoeddwyd ‘David Lloyd George and Wales’, gan Kenneth O. Morgan, yn gyntaf yn 1988 yn Wales 1880-1914, cyfrol yng nghyfres ‘Welsh History and its Sources’. Roedd Morgan, ar y pryd, yn gymrawd Coleg Queen’s, Rhydychen, yna’n ddiweddarach daeth yn Bennaeth Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chafodd ei dderbyn i Dŷ’r Arglwyddi dan y teitl Arglwydd Morgan o Aberdyfi. Mae Morgan yn hanesydd nodedig sy’n arbenigo yn hanes diweddar Cymru ac mae’n awdurdod blaenllaw ar fywyd a hanes David Lloyd George.Yn ei lyfr cyntaf,Wales in British Politics, 1868-1922 (1980[1963]), mae’n edrych ar yr agenda gwleidyddol Cymreig penodol wedi’r Ail (1867) a’r Drydedd Ddeddf Ddiwygio (1884), a’r ffyrdd y dylanwadodd yr agenda hwnnw ar y Blaid Ryddfrydol ac ar lywodraethau Rhyddfrydol. Yna ysgrifennodd ddwy astudiaeth fywgraffyddol o Lloyd George, gwaith sylweddol ar gyfnod Lloyd George fel Prif Weinidog ar ôl y rhyfel a golygodd gyfrol am ohebiaeth Lloyd George. Hefyd mae wedi cyfrannu nifer o draethodau am Gymru ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd a dechrau’r ugeinfed ganrif ac ysgrifennodd gofnod am David Lloyd George ar gyfer yr Oxford Dictionary of National Biography (2006).

Mae ‘David Lloyd George and Wales’ yn trafod y berthynas rhwng y gwleidydd a’i famwlad. Roedd yn berthynas ymhell o fod yn syml ac mae wedi ei dehongli mewn amryw o ffyrdd gan ysgolheigion dros y blynyddoedd. Mae nifer o’r farn bod Lloyd George wedi colli diddordeb mewn achosion Cymreig penodol ar ddiwedd y 1890au oni bai eu bod o fudd personol iddo ef fel gwleidydd. Eto i gyd, yn y bywgraffiad diweddaraf (nid yr olaf bid siŵr) mae Emyr Price wedi dadlau bod cysylltiad rhwng mudiad Cymru Fydd a arweiniwyd gan Lloyd George a chreu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Yn ôl Price, Lloyd George oedd ‘the first architect of Welsh devolution and its most famous advocate’ a chyfeiria ato fel ‘the pioneering advocate of a powerful parliament for the Welsh people’ (2006, tud. xi, 208).

Mae modd cydymdeimlo â safbwynt Morgan yn y traethawd hwn. O ystyried ei fod yn ysgrifennu mwy na degawd cyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu, ar adeg pan oedd y Blaid Geidwadol wedi ennill tri etholiad yn olynol, mae’n ddealladwy bod ei bersbectif yn fwy cymedrol. Yn wir, ym mharagraff 8.4, mae Morgan yn dangos tebygrwydd rhwng tynged Cymru Fydd yn 1896 a chanlyniad y refferendwm datganoli cyntaf (1979) yng Nghymru. Ar y ddau achlysur, mae’n awgrymu, rhaniadau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol mewnol yng Nghymru a ddifethodd brosiectau a oedd yn ceisio sicrhau rhywfaint o ‘hunanlywodraeth’, gan hynny ‘[i]n 1896 as in 1979, the Welsh people, when offered a prospect of some political self-determination, rejected it out of hand by a decisive margin.’

Mae hon yn gymhariaeth ddiddorol, ac o bosibl yn gamarweiniol. Yn 1986, yn wahanol i 1979 (neu 1997), nid â’r etholaeth Gymreig yr ymgynghorid ond yn hytrach â chynrychiolwyr cynhadledd Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru yng Nghasnewydd, y rhan o’r blaid yn ne Cymru. Roedd Ffederasiwn Rhyddfrydol Gogledd Cymru eisoes wedi cytuno i uno â Chynghrair Cymru Fydd a ffurfio ‘Ffederasiwn Cenedlaethol Cymru’, ond gwrthododd Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru ac felly daeth mudiad Cymru Fydd i ben yn sydyn. Fel y dywed Morgan, teimlai Lloyd George nad oedd wedi cael llawer o groeso yng Nghasnewydd, ond mae’n bwysig deall nad oedd pawb o’r un farn. Yn ôl papur newydd dyddiol Casnewydd, y South Wales Argus, cefnogwyr Lloyd George oedd wedi ymddwyn waethaf yn y cyfarfod:

The howl that went up when Mr. Robert Bird [an opponent of Cymru Fydd] said there was a large community in South Wales which would not submit to domination and dictation [by the Welsh-speaking population] was as bad as the pandemonium on a football ground when the referee decided against the home team. Some of the delegates were like raving lunatics for a time...

(Dyfynnir yn Williams, 1997, tud. 124)

Hefyd, nid oedd gwrthwynebu Cymru Fydd o anghenraid yn gyfystyr â gwrthwynebu’r hyn a ystyrid yn fudd cenedlaethol i Gymru. Yn ôl prif wrthwynebydd merch Lloyd George yng Nghasnewydd, D. A. Thomas, y perchennog pyllau glo ‘[w]hen “Wales for the Welsh” was the great cry of the Cymru Fydd, he would laugh and say he preferred as the Welsh motto “The world is our oyster”’ (Williams, 1997, p.122).

Yn union fel na ddylai haneswyr dderbyn yn ddi-feirniadaeth un ochr y ddadl yn achos digwyddiadau 1896, mae’r un mor bwysig bod yn ddiduedd wrth ystyried y refferendwm datganoli yn 1979 a 1997. Mae’n bosibl bod methiant mawr yr ymgyrch ‘dros’ ddatganoli yn 1979 i’w briodoli’n rhannol i raniadau mewnol yng Nghymru, ond nid dyma’r unig ystyriaethau, ac ni ddylid eu hystyried chwaith fel rhai atafistaidd o anghenraid. Erbyn 1997 roedd digon wedi newid i wneud datganoli’n syniad derbyniol (bron) i fwyafrif y rhai a bleidleisiai.

A fyddai Lloyd George wedi bod o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru? A bod yn onest, ni allwn ddweud. Un o’r prif ddadleuon dros ‘hunanlywodraeth’ ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif oedd y byddai’n ysgwyddo peth o’r baich gormodol oddi ar Senedd San Steffan a oedd yn gorfod ymdopi nid yn unig â materion ym Mhrydain ond hefyd ag ymerodraeth eang dramor. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif nid oedd yr ymerodraeth honno’n bodoli. Roedd Lloyd George y gwladweinydd yn dibynnu ar fecanweithiau’r wladwriaeth Brydeinig ganolog i sicrhau newidiadau ariannol, lles a chyfansoddiadol ar raddfa na welwyd o’r blaen. Pan ddaeth yn brif weinidog ni wnaeth unrhyw ymdrech fawr i geisio hyrwyddo agenda datganoli'r 1890au - mae hynny’n ddealladwy, o ystyried fod angen ailadeiladu trefn wleidyddol trwy’r byd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yr hyn sy’n ymddangos yn sicr yw bod yn rhaid i berthynas Lloyd George â Chymru barhau i fod yn destun trafod.

David Lloyd George a Chymru (Kenneth O. Morgan)

Para 8.1

Rhwng 1880 a 1914, daeth David Lloyd George i gael ei ystyried fel symbol a llais yr adfywiad cenedlaethol yng Nghymru. Mae’n ymddangos ei fod ef, yn fwy na’r un gwleidydd arall, yn wir yn fwy nag unrhyw un sy’n byw, wedi ymgorffori dyheadau, rhwystredigaethau, chwedloniaeth a breuddwydion y Cymry. Roedd y don newydd o Ryddfrydiaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, yr arddull newydd o wleidyddiaeth boblogaidd, y gofynion cenedlaethol a leisid mewn materion seneddol a lleol, yr effaith newydd yr oedd Cymru’n ei chael dros y ffin ar gydwybod Lloegr a’r byd yn ehangach - oll yn cael eu cysylltu’n benodol â datblygiad arbennig Lloyd George o bentref Llanystumdwy yn Eifionydd yn y 1880au i’r senedd yn 1890 ac o 1905 ymlaen i gabinet Prydain. Ni ddaeth y cysylltiad hwn rhwng cenedligrwydd gwleidyddol Cymru â’i yrfa i ben pan dorrodd y rhyfel byd yn 1914, na phan gollodd y Blaid Ryddfrydol, un o brif ganlyniadau dramatig y rhyfel. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel ac wedi hynny, parhaodd i ddefnyddio’r ffaith ei fod yn Gymro ac arwyddocâd gwleidyddol hynny fel arf amlwg i helpu ei ymgyrchoedd i gadw neu adennill grym. Roedd haneswyr ymhell wedi’r rhyfel yn parhau i ddiffinio Cymreigrwydd yn bennaf yn nhermau arddull a gweledigaeth Lloyd George.

Para 8.2

Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1933, mae’r economegydd J.M. Keynes yn priodoli nifer o ddiffygion Cytundeb Versailles yn 1919 i arddull Gymreig prif weinidog cameleonaidd a oedd wedi ymddangos yn ddirgel ‘from the hag-ridden magic and enchanted woods of Celtic antiquity’. Parhaodd yr adnabyddiaeth hon o Lloyd George hyd ei farwolaeth yn 1945. Wrth gwrs, fel y gwelir, roedd perthynas Lloyd George â gwleidyddiaeth Cymru ymhell o fod yn syml. Mewn rhai agweddau, nid oedd cefnogaeth iddo ymysg radicalwyr Anghydffurfiol y dosbarth canol ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd yng Nghymru. Er hynny, wrth ymchwilio i weithgareddau Lloyd George, a rhai o’r llawysgrifau a’r ffynonellau hanesyddol sydd ar gael i’n helpu i’w holrhain, yn y cyfnod rhwng 1880 a 1914, cawn gipolwg ar nifer o’r themâu allweddol yn hanes Cymru yn y blynyddoedd pwysig hynny. Mae’n ein harwain i edrych ar agweddau canolog ar hanfod cenedligrwydd Cymru, ar y pryd ac yn ddiweddarach.

Para 8.3

Dechreuodd Lloyd George ymhél â gwleidyddiaeth o oedran ifanc. Mae ei atgofion cynharaf o fywyd gwleidyddol yn ymestyn yn ôl i’r adeg pan oedd yn bump oed, yn ystod etholiad cyffredinol 1868 (8A), pan fu cynifer o fuddugoliaethau arbennig i’r Rhyddfrydwyr, mewn cyfnod pan gafodd nifer o ffermwyr oedd yn denantiaid yn Sir Gaernarfon eu troi allan gan eu landlordiaid am bleidleisio dros y Rhyddfrydwyr. Pedwar deg dau o flynyddoedd wedyn, yn ystod ymgyrch dros Gyllideb y Bobl a Lloyd George bellach yn Ganghellor, roedd y traddodiadau llafar a’r atgofion am y digwyddiadau hyn o’r gorffennol yn dal yn fyw yn ei gof. Roedd blynyddoedd ei blentyndod wedi eu nodweddu gan densiynau gwleidyddol cyson - atgasedd tuag at y landlordiaid Ceidwadol a oedd â dylanwad mawr ar gefn gwlad, at yr Eglwys Anglicanaidd a orfodai blant ifanc y gyfundrefn Anghydffurfiol fel Lloyd George a oedd yn Fedyddiwr i fynychu ysgolion yr eglwys. Cefnogwyd ei uchelgeisiau gwleidyddol gan ei ewythr, Richard Lloyd, y crydd radical a’i magodd ar ôl i’w dad farw. Yn ystod ei daith gyntaf i Lundain yn 1880, pan oedd Lloyd George yn 17 oed, creodd Tŷ’r Cyffredin (y bensaernïaeth o leiaf) argraff fawr arno (8B).

Yn fuan roedd yn ymhél â materion gwleidyddol lleol, yn cynnwys y clwb trafod lleol ym Mhorthmadog, a chyfrannodd o oedran ifanc i bapurau newydd lleol - a fu wastad yn ddylanwad ar ei yrfa a’i ddulliau gwleidyddol. Roedd yr yrfa a ddewisodd fel cyfreithiwr mewn practis yn y wlad yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer bywyd gwleidyddol yn y dyfodol. Ni châi unrhyw beth sefyll yn ffordd yr yrfa a oedd o’i flaen. Pan ddechreuodd ganlyn Maggie Owen o fferm Mynydd Ednyfed tua 1885 (8C), dywedwyd wrthi’n fuan bod yn rhaid i gariad hyd yn oed fod yn eilbeth i uchelgais a’i ‘supreme idea to get on’. Cymerodd Lloyd George ran weithgar yn etholiad cyffredinol 1886, pan ffurfiodd rhwyg sylfaenol yn y Blaid Ryddfrydol oherwydd y frwydr dros hunanlywodraeth yn Iwerddon. Siaradodd yn llwyddiannus mewn cyfarfod enwog gerbron chwarelwyr Blaenau Ffestiniog gydag arweinydd Cenedlaetholwyr Iwerddon, MichaelDavitt, yn gynharach y flwyddyn honno. Ar ôl pwyso a mesur y sefyllfa, cefnogodd Gladstone yn ei ymgyrch dros hunanlywodraeth yn Iwerddon. Roedd Lloyd George hefyd yn gysylltiedig â ‘rhyfel y degwm’ gan denantiaid ffermydd yng Ngogledd Cymru a wrthodai dalu’r degwm i’r Eglwys yn y cyfnod 1886-8. Roedd ei ddaliadau gwleidyddol yn gogwyddo i’r chwith, a dylanwadwyd yn gryf arno gan yr ysbryd cenedlaethol Cymreig a oedd i’w deimlo drwy’r tir ar ddiwedd y 1880au. Dywedodd wrth gyfaill yn Sir Gaernarfon, D.R. Daniel (8D), ei fod yn ystyried ei hun yn Genedlaetholwr, fel Tom Ellis, yr AS ifanc o Sir Feirionnydd. Cafodd ei ethol ar y cyngor sir cyntaf yn Sir Gaernarfon yn 1889 a mynegodd ei farn yn huawdl ar faterion yn gysylltiedig â Ffederasiynau Rhyddfrydol Gogledd De Cymru. Mewn araith fawr i Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru yn 1890 (8E), cyfeiriodd at y blaenoriaethau arferol gan y Rhyddfrydwyr - datgysylltu’r Eglwys, diwygio’r tir a dirwestaeth - ynghyd â phwyslais mawr ar gwestiynau cymdeithasol a gwella tlodi torfol. Ac yntau ond yn 27 oed roedd yn amlwg yn ŵr â gweledigaeth. Rhoddwyd hwb enfawr i’w yrfa yn Ebrill 1890 pan etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol i Fwrdeistrefi Caernarfon. Cadwodd y sedd honno am 55 o flynyddoedd; eto i gyd nid oedd yn sedd ddiogel ar y dechrau. Y Ceidwadwyr a’i henillodd yn 1886 ond fe’i cipiwyd yn ôl gan Lloyd George gyda mwyafrif o 18 pleidlais yn unig. Yn ystod ei ymgyrch etholiadol cefnogodd safbwyntiau radicalaidd. Cymeradwyodd holl werthoedd Rhyddfrydol Gladstone (8F), yn cynnwys hunanlywodraeth yn Iwerddon, ond gyda phwyslais cryf hefyd ar themâu Cymreig, a hynny’n bennaf ar ‘Ryddid Crefyddol’, sef datgysylltu o’r Eglwys. Roedd hwn yn safiad peryglus i’w gymryd, yn arbennig ym Mangor gyda’i heglwys gadeiriol a phleidlais yr Eglwyswyr. Yn gynnar ym mis Mehefin, gwnaeth ei araith gyntaf (8G). Roedd yn araith danllyd gyda phwyslais arbennig ar thema Gymreig arall, dirwestaeth; broliodd wrth ei wraig fod yr araith yn llwyddiannus. Yn fuan dechreuodd herio o’r meinciau cefn pan drafodid materion Cymreig yn y Senedd. Ceisiodd annog ei gydweithwyr hŷn i roi mwy o bwysau ar Gladstone ac arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol ar ran y frwydr dros ddatgysylltu’r Eglwys (8Hi). Hefyd cymerodd ran amlwg yn y dadleuon ynghylch Deddf y Degwm 1891, mesur a fwriadwyd i dawelu ffermwyr blin Cymru a oedd wedi cymryd rhan yn y protestio yn erbyn y degwm. Ym marn Lloyd George ‘It was a glorious struggle for Wales’ (8Hii). Yn 1892 cafodd ei ailethol gyda mwyafrif mwy a pharhaodd i gymryd rhan flaengar yn y gwaith o hyrwyddo gwahanol achosion radical Cymreig. Gyda thri o gydweithwyr ar y meinciau cefn, heriodd chwip y parti am gyfnod byr yn Ebrill 1894, pan fethodd y llywodraeth â rhoi blaenoriaeth ddigon uchel i ddatgysylltu yng Nghymru yn ei raglen ddeddfwriaethol. Achosodd hyn lawer o ddrwgdeimlad am gyfnod, gan nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif o fwy nag 20 a dibynnai ar bleidleisiau’r Cenedlaetholwyr Gwyddelig. Eto i gyd creodd argraff gadarnhaol ar y cyfan yn y senedd yn ystod y cyfnod hwn. Gallai hyd yn oed gwrthwynebwr fel yr awdur Unoliaethol, T. Marchant Williams (8I), weld dawn Lloyd George fel areithiwr arbennig a medrus yn y Senedd. Roedd ganddo’r potensial i fod yn arweinydd yr AS Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin - a phwy a wyddai - hyd yn oed y Blaid Ryddfrydol yn gyffredinol. Yn ystod sesiwn 1895 arweiniodd ei weithgareddau at ddadlau pellach. Roedd y llywodraeth wedi cyflwyno Mesur Datgysylltu Cymru, mesur yr oedd yn ei gefnogi wrth reswm. Ond defnyddiodd y mesur hwn fel ffordd i basio math o hunanlywodraeth i Gymru. Ym Mehefin 1895 ceisiodd ef a dau aelod arall o Gymru sefydlu cyngor cenedlaethol Cymreig i weinyddu’r degwm a gwaddolion eraill pan ddeuai Mesur Eglwysi Cymru i rym. Ar 20 Mehefin, syrthiodd mwyafrif y llywodraeth i ddwy bleidlais; y diwrnod canlynol, trwy bleidlais annisgwyl, ymddiswyddodd y llywodraeth. Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, collodd y Rhyddfrydwyr o fwyafrif mawr er i Lloyd George lwyddo i ddal ar ei sedd ansicr ym Mwrdeistrefi Caernarfon. Ar ôl yr etholiad felly, daeth ei weithgareddau ym Mai a Mehefin 1895 dan y lach. Doedd gan Bryn Roberts, yr AS Rhyddfrydol yn yr etholaeth gyfagos yng Ngogledd Sir Gaernarfon, ddim cydymdeimlad â Lloyd George na hunanlywodraeth i Gymru, ac ysgrifennodd at Asquith, yr Ysgrifennydd Cartref, ar 18 Mai, yn ei rybuddio ynghylch tactegau cenedlaetholgar unigryw Lloyd George (8Ji). Ym mis Tachwedd, cwynodd Asquith ei hun i Tom Ellis, y prif chwip Rhyddfrydol, am ymddygiad ‘underhand and disloyal’ Lloyd George y Mehefin blaenorol (8Jii). Amddiffynnodd Ellis ac AS Rhyddfrydol eraill eu cydweithiwr ifanc, ond amharodd y digwyddiadau hyn ar y berthynas rhwng Asquith a Lloyd George am flynyddoedd lawer.

Para 8.4

Daeth trobwynt yng ngyrfa wleidyddol Lloyd George yn sgil argyfwng Cymru Fydd yn 1895-6. Roedd ei genedlaetholdeb Cymreig yn amlwg iawn bryd hynny. Teimlai’n argyhoeddedig mai’r unig ffordd resymegol i Gymru sicrhau datgysylltu, diwygio’r tir ac amcanion pwysig eraill oedd trwy gael ei llywodraeth ei hun o fewn system imperialaidd ffederal. Câi rhai eu hannog gan y cynnydd a wnaed gan hunanlywodraeth yn Iwerddon i gredu y gellid sicrhau hunanlywodraeth maes o law yng Nghymru a’r Alban. Trwy gydol 1895 ceisiodd Lloyd George droi Ffederasiynau Rhyddfrydol Gogledd a De Cymru’n gyfryngau i genedlaetholdeb Cymreig trwy eu huno â’i Gynghrair Cymru Fydd. Roedd yn eithaf rhwydd dwyn perswâd ar Ffederasiwn Rhyddfrydol Gogledd Cymru. Treuliodd Lloyd George lawer o amser ac adnoddau yn ystod haf a hydref 1895 i geisio dwyn perswâd ar Ryddfrydwyr De Cymru hefyd. Yn Nhredegar, yn rhannau Seisnig Sir Fynwy er enghraifft, honnodd ei fod wedi cael ymateb rhagorol, er dywedodd fod y bobl leol wedi ‘sunk into a morbid footballism’ (8Ki). Ond yn rhannau Seisnig, diwydiannol de-ddwyrain Cymru, yn arbennig rhannau cosmopolitan mawr Abertawe, y Barri a Chaerdydd, roedd y bobl yn hynod o amheus. Fel yn ystod yr ymgyrch ddatganoli yn 1979, roedd arnynt ofn dylanwad poblogaeth Gymraeg ei hiaith yn yr ardaloedd gwledig. Daeth yr uchafbwynt yng nghyfarfod trychinebus Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru ar 16 Ionawr 1896. Yma ni roddwyd unrhyw groeso i Lloyd George a chondemniwyd Cymru Fydd gan gynrychiolwyr masnachol de-ddwyrain Cymru. Wrth sôn am y cyfarfod wrth ei wraig a’i gyfaill o Sir y Fflint, Herbert Lewis, AS (8Kii, 8Kiii), honnodd ei fod dan ei sang ac nad oedd yn gynrychioliadol , ac y byddai’r frwydr dros hunanlywodraeth i Gymru’n mynd yn ei blaen. Eto i gyd roedd yn drobwynt pendant yn ei yrfa, a’r tro cyntaf iddo gael ei wrthod. Sylweddolodd fod Rhyddfrydwr Cymru’n gadarn o blaid datgysylltu’r Eglwys, diwygio’r tir, addysg a dirwestaeth, a chydraddoldeb cenedlaethol o fewn Ynysoedd Prydain, ond nid oeddent eisiau bod yn wlad ar wahân. Nid oedd y Cymry fel y Gwyddelod. Nid oeddent eisiau cael eu torri i ffwrdd o Loegr na’r system imperialaidd. Yn wir, tynnwyd hunanlywodraeth i Gymru oddi ar yr agenda gwleidyddol, am byth efallai, a chydnabu Lloyd George y ffaith honno. Roedd yn fodlon ymladd dros achos a oedd ar drai ond nid dros un a gollwyd. Yn 1896 fel yn 1979, pan gynigiwyd rhyw fath o hunanlywodraeth gwleidyddol i’r Cymry, fe’i gwrthodwyd gan fwyafrif helaeth.

Para 8.5

Ar ôl helynt Cymru Fydd, roedd perthynas Lloyd George â Chymru’n fwy anuniongyrchol. Roedd ei gydwladwyr bellach yn cydnabod ei ddoniau fel llefarydd dros y Rhyddfrydwyr ar y meinciau blaen: canmolodd Llewelyn Williams, cyfreithiwr cenedlaetholgar arall, sgiliau Lloyd George yn y senedd yn Awst 1896 (8L). Daliodd Lloyd George i bwysleisio anghenion Cymru mewn trafodaethau ar addysg a threthi amaethyddol. Ond roedd arwyddion o ddiddordebau a gorwelion ehangach. Yng Nghymru, bu farw Thomas Gee perchennog y Faner a fu’n gefnogol i Lloyd George dros y blynyddoedd, yn 1898; y flwyddyn ganlynol, bu farw Tom Ellis o’r diciâu ac yntau ond yn 39 oed. Roedd arweinwyr, ac yn anuniongyrchol, materion yn ymwneud â bywyd yng Nghymru yn newid. Felly hefyd yn achos Lloyd George. Yr un pryd dechreuodd y rhyfel yn Ne Affrica yn Hydref 1899. Nid oedd gan Lloyd George unrhyw wrthwynebiad i'r syniad o ymerodraeth ar y pryd nac yn ddiweddarach. Ond roedd ei agwedd tuag at y rhyfel yn Ne Affrica’n gyson a dewr o’r cychwyn. Teimlai’n sicr bod mynd i ryfel yn erbyn dwy weriniaeth Boer fach, a gâi eu llywodraethu gan ffermwyr Calfinaidd, nid yn annhebyg i’r Cymry, yn anghywir o safbwynt gwleidyddol a moesegol. Honnai mai gwraidd yr achos oedd uchelgeisiau gwleidyddol a budd ariannol Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd y Drefedigaeth. Cyn gynhared â 27 Hydref 1899, ymosododd yn chwyrn ar Chamberlain, er mawr syndod i aelodau Tŷ'r Cyffredin (8M). Cadwodd at ei safiad trwy weddill y rhyfel, a lusgodd ymlaen tan fis Mai 1902. Bu’n rhaid iddo fod yn wrol wrth wynebu tyrfaoedd treisgar yng Nglasgow ac yn Neuadd y Dref Birmingham, a hyd yn oed yn ei etholaeth ef ei hun ym Mangor a Chaernarfon. Cael a chael a fu hi arno i gadw ei sedd yn etholiad Hydref 1900. Ond yn raddol newidiodd barn y cyhoedd a dechreuodd y Blaid Ryddfrydol wrthwynebu’n gynyddol ddulliau a diben y rhyfel ymerodrol yn Ne Affrica. Un o’r canlyniadau pennaf oedd y statws cenedlaethol newydd i Lloyd George ei hun. Yn 1901 yn ôl Harold Spender, newyddiadurwr Rhyddfrydol a’i hedmygai (8N), roedd Lloyd George wedi datblygu o fod yn llefarydd ar y meinciau cefn dros radicaliaeth Gymreig i fod yn ŵr a edmygid ac a ofnid trwy’r wlad. Roedd yn ymddangos bod swydd y Prif Weinidog o fewn ei gyrraedd.

Para 8.6

Ond arhosodd ei ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru’n ganolog i’w yrfa, hyd yn oed ar ôl Rhyfel y Boer. Pan gyflwynodd Arthur Balfour, y Prif Weinidog, Ddeddf Addysg 1902, Lloyd George oedd arweinydd y Rhyddfrydwyr Cymreig a’i gwrthwynebai. Roedd ei ymateb cychwynnol i’r ddeddf ymhell o fod yn wrthwynebus; ond fel nifer o Ryddfrydwyr eraill roedd yn casáu’r ffaith ei bod yn gosod ysgolion elfennol yr Eglwys, yr unig ysgolion mewn nifer o ‘single school areas’ fel baich diangen ar drethdalwyr Anghydffurfiol yng Nghymru. Mewn cyfarfod o ASau Cymru ym mis Tachwedd 1902, fe’u perswadiodd i dderbyn diwygiad a fyddai’n golygu mai cynghorau sir Cymru a fyddai’n gweithredu’r Ddeddf yng Nghymru (8O). Rhoddodd hyn lwyfan gref iddo ymosod yn erbyn y Ddeddf hon. Erbyn dechrau 1904, roedd pob un o gynghorau sir Cymru, pob un oedd â mwyafrif Rhyddfrydol, yn gytûn yn erbyn gweithredu’r Ddeddf Addysg, math o streic dorfol gan awdurdodau lleol Cymru. Am dair blynedd, rhwng 1902 a 1905, roedd wedi datblygu’n sefyllfa’n gwbl amhosibl rhwng Cymru a Whitehall. Ond fel bob amser, defnyddiodd Lloyd George y cyfle i fwrw ymlaen y tu hwnt i faterion sectoraidd cul i gyfeiriadau cenedlaethol ehangach. Fel y dywedodd wrth y newyddiadurwr, William Robertson Nicoll, golygydd y British Weekly (8P), roedd yn ceisio defnyddio’i sefyllfa o gryfder i geisio cymell arweinwyr yr Eglwys yng Nghymru i ddod i gyfaddawd ynglŷn ag ysgolion Eglwys. Un canlyniad posibl arall fyddai Bwrdd Addysg Cymru i hyrwyddo system addysg elfennol ac uwchradd unffurf trwy Gymru, fel ffordd o fraenaru’r tir ar gyfer datganoli yn y dyfodol. Yn y pendraw, methodd ei ymdrechion. Roedd achos y gwrthdaro rhwng y sectorau wedi ei wreiddio’n rhy ddwfn. Fe’i beirniadwyd gan ei Gyd-Ryddfrydwyr fel Arthur Humphreys-Owen, AS dros Sir Drefaldwyn gan gyfeirio at ei gefndir addysgol cyfyngedig ac at ddefnyddio ysgolion y wlad at ddiben gwleidyddol yn unig (8Q). Eto i gyd bu’r ‘gwrthryfel’ ym maes addysg yn gyfrwng i hybu enw Lloyd George at ddibenion gwleidyddol. Cyfeiriodd beirniaid eraill hefyd at fylchau yn ei ddealltwriaeth. Dywedodd papur newydd y Blaid Lafur Annibynnol, y LabourLeader, nad oedd ganddo’r un sêl dros gwestiynau diwydiannol neu gymdeithasol ag oedd ganddo dros faterion crefyddol neu wleidyddol (8R). Doedd gan Lloyd George, a oedd fwy neu lai wedi anwybyddu hyd yn oed streic chwe mis y glowyr yn Ne Cymru yn 1898 ‘had practically nothing to say for Labour’. Ond byddai’r themâu hyn yn ailgodi yn y dyfodol. Yn Ionawr 1906, a’u sefyllfa wedi ei chadarnhau gan y ‘gwrthryfel’ ym maes Addysg, cafodd Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol fuddugoliaeth ysgubol. Ni enillwyd unrhyw un o’r 34 sedd yng Nghymru gan y Ceidwadwyr. Roedd pob swydd, ac eithrio swydd Kier Hardie fel aelod iau dros Ferthyr, yn nwylo’r Rhyddfrydwyr.

Para 8.7

Bellach roedd Lloyd George yn ffigwr gwleidyddol o bwys ym Mhrydain. O Ragfyr 1905 i Ebrill 1908 bu’n gwasanaethu yn y Cabinet fel Llywydd y Bwrdd Masnach, a bu’n llwyddiannus iawn. Wedi hynny, tan y rhyfel bu yn y Trysorlys ac ef yw Canghellor y Trysorlys mwyaf pwerus a chreadigol yn hanes Cymru fodern.

Para 8.8

Mae’n anochel bod ei waith dros faterion Cymreig yn fwy anghyson. Un o’r pethau a wnaeth oedd ceisio tawelu Anghydffurfwyr Cymreig a gwynodd wrth y prif weinidog, Syr Henry Campbell-Bannerman yn 1907, am nad oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i hyrwyddo datgysylltu yng Nghymru (8S). Aeth yr argyfwng hwn heibio, ond mewn gwirionedd ni ymddangosodd y mesur datgysylltu ar raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ar ffurf benodol tan Ebrill 1912. Y brif thema yng ngyrfa Lloyd George, o ran Cymru a Phrydain yn gyffredinol, oedd diwygio cymdeithasol. Fel y gwelwyd (8E) cafodd y mater hwn ei godi mewn rhai areithiau cynnar, ond dim ond yn fras. Wrth siarad â Chyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn Hydref 1906 (8T), parhaodd i bwysleisio’r hen gwestiynau - datgysylltu, diwygio’r tir a dirwasgiad i weithwyr Cymru. Ond pan aeth i’r Trysorlys yn Ebrill 1908, fel ei gyfaill, Winston Churchill, newidiodd ei olwg ar bethau. Pan siaradodd â’r Rhyddfrydwyr Cymreig eto yn Abertawe yn Hydref 1908 (8U), roedd ei bwyslais bellach ar fesurau cymdeithasol a fyddai’n fanteisiol ynddynt eu hunain ac a fyddai’n ymateb i’r her a wynebai’r Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur. Hyd at 1914 lles cymdeithasol a oedd wedi ysbrydoli ei waith gan mwyaf - Pensiynau’r Henoed yn 1908, Cyllideb y Bobl yn 1909; pasio’r yswiriant Iechyd Gwladol a pheth yswiriant diweithdra yn 1911; trafodaethau cyson â’r undebau masnach rhag cynnal streiciau ac i hybu cyfiawnder cymdeithasol. Roedd hen Ryddfrydwyr fel Rendel (8V) yn dal i edmygu ei agwedd ddemocrataidd a chydradd. Roedd ei wrthwynebiad i freintiau a’r sefydliad ar ba bynnag ffurf yn parhau i amlygu ei hun. Pan aeth i weld y Brenin George V ym Malmoral yn 1911, roedd yn gas ganddo’r awyrgylch-‘it reeks withToryism’ (8W). Yn Awst 1914, roedd ei frwdfrydedd radicalaidd yn dal yn gryf yn ogystal â’r gefnogaeth barhaus iddo ymysg y rhan fwyaf o ddosbarthiadau a grwpiau yn ei famwlad.

Ffigur 8.1 Canlyniad etholiad cyffredinol 1910 (yn seiliedig ar Madgwick a Balsom, Atlas Cenedlaethol Cymru)

Para 8.9

Daeth y cyfnod penodol hwn o yrfa Lloyd George i ben yn sydyn ar 4 Awst 1914. Wedi hynny, daeth tro ar fyd yn ei yrfa. Daeth yn Weinidog Arfau yn 1915, yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel yn 1916, yn Brif Weinidog o Ragfyr 1916 hyd at Hydref 1922. Bellach yng Nghymru fe’i hystyrid fel cyfaill y Ceidwadwyr, roedd nifer o’r adain chwith yn ei gasáu, roedd rhwyg yn ei Blaid Ryddfrydol ei hun ac roedd mewn trafferthion. Dramor, am y tro cyntaf yn 1919-22, ef oedd y pen heddychwr ac ef oedd pensaer yr Ewrop fodern a’r drefn newydd drwy’r byd. Ni fu ei berthynas â Chymru byth yr un fath wedi hyn. Roedd wedi ceisio apelio i ysbryd cenedlaetholgar y Cymry ar ran y ‘little five-foot-five nations’ yn ystod y rhyfel (8X) ond gweithiodd hyn yn ei erbyn yn ddiweddarach. O 1922 collodd ei rym am byth, fe’i gwrthodwyd gan etholwyr Cymru gyda’r Blaid Lafur bellach yn ennill tir. Arhosodd Lloyd George ei hun yn y senedd a bu’n llais dylanwadol ar faterion economaidd a thramor; ond erbyn ei farwolaeth ym Mawrth 1945 roedd hyd yn oed un o werinwyr mwyaf Cymru wedi ei wneud yn iarll. Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1880 a 1914 y mae ei brif ddylanwad i’w weld yn fwyaf amlwg ar hanes Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn yng Nghymru fel ym Mhrydain, roedd yn rebel, yn sefyll ar y tu allan. Ni fu erioed yn llawer o genedlaetholwr diwylliannol. Roedd ganddo beth diddordeb yn yr awydd cenedlaethol dros addysg. Roedd o blaid cyfaddawdu a chynghreirio yn ei ffordd ei hun. Teimlai atgasedd mawr tuag at ‘glorified grocers’ Rhyddfrydiaeth a ‘big seats’ y capeli. Yn ei fywyd preifat a chyhoeddus, yn sicr nid oedd yn biwritan (8Y). Eto i gyd gwnaeth fwy nag unrhyw ŵr arall i hybu achosion Cymreig mewn bywyd cyhoeddus. Ac eithrio datgysylltu’r eglwys yng Nghymru yn 1920, gwelliannau yn y tir, datblygiadau addysgol a diwygiadau cymdeithasol, llwyddodd mewn meysydd diwylliannol fel y brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Roedd y cyfan yn rhan o dreftadaeth Ryddfrydol cyn 1914; roedd cysylltiad, uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng pob un ohonynt ag ymgyrchoedd Lloyd George. Tan y diwedd, cadwodd syniad cryf o hunaniaeth genedlaethol, o arwahanrwydd nad oedd yn Saesnig. Mor ddiweddar â 1936, pan oedd ar wyliau yn Jamaica, ysgrifennodd yn flin at ei ferch Megan, a oedd erbyn hyn yn AS dros y Rhyddfrydwyr ym Môn, oherwydd bod y llywodraeth yn llawdrwm ar Gymru yn y ffordd yr oedd yn delio ag achos Saunders Lewis, y cenedlaetholwr o Gymru a gyneuodd y tân yn ysgol fomio’r Llu Awyr Brenhinol yn Llŷn (8Z). Tan y diwedd, roedd Lloyd George yn hyrwyddo ‘gallant littleWales’. Os na choronwyd ei waith â hunanlywodraeth i Gymru, nid arno ef oedd y bai. Y Cymry fel pobl oedd gwraidd yr achos. Gwnaeth fwy nag unrhyw un o’i gyfoedion i wneud Cymru’n wlad wleidyddol a chymdeithasol, ac yn aelod urddasol o’r byd ehangach.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Llyfryddiaeth

Cydnabyddiaethau

Yr Athro Trevor Herbert a'r Athro Gareth Elwyn Jones oedd golygyddion y gyfres wreiddiol 'Welsh History and its Sources' sy'n sail i ddeunydd y cwrs hwn, ac mae'n rhaid diolch yn fawr iddynt ac i bawb a gyfrannodd at y prosiect gwreiddiol hwnnw. Mae'n cynrychioli cyfraniad sylweddol i'r gwaith o astudio hanes Cymru a hanesyddiaeth, ac mae'r cwrs hwn yn ogystal â chwrs cysylltiedig y Brifysgol Agored yn rhan o'i etifeddiaeth.

Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir o dan drwydded (nid yw'n destun Trwydded Creative Commons). Gweler telerau ac amodau.

Deunydd y cwrs hwn yw'r fersiwn ar-lein o'r Darllenydd ar gyfer y cwrs Prifysgol Agored A182 Small country, big history: themes in the history of Wales. Mae pob un o gyrsiau'r Brifysgol Agored yn gydweithredol iawn ac yn fentrau cymhleth sy'n cynnwys tîm cwrs a nifer o staff y Brifysgol, ac mae angen diolch i nifer o gydweithwyr. Tîm y cwrs oedd: Yr Athro Trevor Herbert, Yr Athro Gareth Elwyn Jones, Dr Matthew Griffiths, Dr Bill Jones, Yr Athro Chris Williams, Yr Athro Anne Laurence a Dr Helen Barlow.

Dysgu mwy

Ragor o wybodaeth am:

1. Astudiaethau Cymraeg eraill ar y pwnc hwn.

http://www.open.edu/ openlearnworks/ mod/ page/ view.php?id=53849

2. Cynnwys astudio cysylltiedig gan y Brifysgol Agored http://www.open.ac.uk/ choose/ ou/ open-content.

3. Y pwnc hwn a deunyddiau'r cwrs, sydd am ddim, ar OpenLearn http://www.open.edu/ openlearn/

4. Astudio o'r tu allan i'r DU? Mae gennym fyfyrwyr mewn dros gant o wledydd sy'n astudio cymwysterau ar-lein. http://www.openuniversity.edu/