Para 8.5

Ar ôl helynt Cymru Fydd, roedd perthynas Lloyd George â Chymru’n fwy anuniongyrchol. Roedd ei gydwladwyr bellach yn cydnabod ei ddoniau fel llefarydd dros y Rhyddfrydwyr ar y meinciau blaen: canmolodd Llewelyn Williams, cyfreithiwr cenedlaetholgar arall, sgiliau Lloyd George yn y senedd yn Awst 1896 (8L [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Daliodd Lloyd George i bwysleisio anghenion Cymru mewn trafodaethau ar addysg a threthi amaethyddol. Ond roedd arwyddion o ddiddordebau a gorwelion ehangach. Yng Nghymru, bu farw Thomas Gee perchennog y Faner a fu’n gefnogol i Lloyd George dros y blynyddoedd, yn 1898; y flwyddyn ganlynol, bu farw Tom Ellis o’r diciâu ac yntau ond yn 39 oed. Roedd arweinwyr, ac yn anuniongyrchol, materion yn ymwneud â bywyd yng Nghymru yn newid. Felly hefyd yn achos Lloyd George. Yr un pryd dechreuodd y rhyfel yn Ne Affrica yn Hydref 1899. Nid oedd gan Lloyd George unrhyw wrthwynebiad i'r syniad o ymerodraeth ar y pryd nac yn ddiweddarach. Ond roedd ei agwedd tuag at y rhyfel yn Ne Affrica’n gyson a dewr o’r cychwyn. Teimlai’n sicr bod mynd i ryfel yn erbyn dwy weriniaeth Boer fach, a gâi eu llywodraethu gan ffermwyr Calfinaidd, nid yn annhebyg i’r Cymry, yn anghywir o safbwynt gwleidyddol a moesegol. Honnai mai gwraidd yr achos oedd uchelgeisiau gwleidyddol a budd ariannol Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd y Drefedigaeth. Cyn gynhared â 27 Hydref 1899, ymosododd yn chwyrn ar Chamberlain, er mawr syndod i aelodau Tŷ'r Cyffredin (8M). Cadwodd at ei safiad trwy weddill y rhyfel, a lusgodd ymlaen tan fis Mai 1902. Bu’n rhaid iddo fod yn wrol wrth wynebu tyrfaoedd treisgar yng Nglasgow ac yn Neuadd y Dref Birmingham, a hyd yn oed yn ei etholaeth ef ei hun ym Mangor a Chaernarfon. Cael a chael a fu hi arno i gadw ei sedd yn etholiad Hydref 1900. Ond yn raddol newidiodd barn y cyhoedd a dechreuodd y Blaid Ryddfrydol wrthwynebu’n gynyddol ddulliau a diben y rhyfel ymerodrol yn Ne Affrica. Un o’r canlyniadau pennaf oedd y statws cenedlaethol newydd i Lloyd George ei hun. Yn 1901 yn ôl Harold Spender, newyddiadurwr Rhyddfrydol a’i hedmygai (8N), roedd Lloyd George wedi datblygu o fod yn llefarydd ar y meinciau cefn dros radicaliaeth Gymreig i fod yn ŵr a edmygid ac a ofnid trwy’r wlad. Roedd yn ymddangos bod swydd y Prif Weinidog o fewn ei gyrraedd.