Para 8.6

Ond arhosodd ei ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru’n ganolog i’w yrfa, hyd yn oed ar ôl Rhyfel y Boer. Pan gyflwynodd Arthur Balfour, y Prif Weinidog, Ddeddf Addysg 1902, Lloyd George oedd arweinydd y Rhyddfrydwyr Cymreig a’i gwrthwynebai. Roedd ei ymateb cychwynnol i’r ddeddf ymhell o fod yn wrthwynebus; ond fel nifer o Ryddfrydwyr eraill roedd yn casáu’r ffaith ei bod yn gosod ysgolion elfennol yr Eglwys, yr unig ysgolion mewn nifer o ‘single school areas’ fel baich diangen ar drethdalwyr Anghydffurfiol yng Nghymru. Mewn cyfarfod o ASau Cymru ym mis Tachwedd 1902, fe’u perswadiodd i dderbyn diwygiad a fyddai’n golygu mai cynghorau sir Cymru a fyddai’n gweithredu’r Ddeddf yng Nghymru (8O [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Rhoddodd hyn lwyfan gref iddo ymosod yn erbyn y Ddeddf hon. Erbyn dechrau 1904, roedd pob un o gynghorau sir Cymru, pob un oedd â mwyafrif Rhyddfrydol, yn gytûn yn erbyn gweithredu’r Ddeddf Addysg, math o streic dorfol gan awdurdodau lleol Cymru. Am dair blynedd, rhwng 1902 a 1905, roedd wedi datblygu’n sefyllfa’n gwbl amhosibl rhwng Cymru a Whitehall. Ond fel bob amser, defnyddiodd Lloyd George y cyfle i fwrw ymlaen y tu hwnt i faterion sectoraidd cul i gyfeiriadau cenedlaethol ehangach. Fel y dywedodd wrth y newyddiadurwr, William Robertson Nicoll, golygydd y British Weekly (8P), roedd yn ceisio defnyddio’i sefyllfa o gryfder i geisio cymell arweinwyr yr Eglwys yng Nghymru i ddod i gyfaddawd ynglŷn ag ysgolion Eglwys. Un canlyniad posibl arall fyddai Bwrdd Addysg Cymru i hyrwyddo system addysg elfennol ac uwchradd unffurf trwy Gymru, fel ffordd o fraenaru’r tir ar gyfer datganoli yn y dyfodol. Yn y pendraw, methodd ei ymdrechion. Roedd achos y gwrthdaro rhwng y sectorau wedi ei wreiddio’n rhy ddwfn. Fe’i beirniadwyd gan ei Gyd-Ryddfrydwyr fel Arthur Humphreys-Owen, AS dros Sir Drefaldwyn gan gyfeirio at ei gefndir addysgol cyfyngedig ac at ddefnyddio ysgolion y wlad at ddiben gwleidyddol yn unig (8Q). Eto i gyd bu’r ‘gwrthryfel’ ym maes addysg yn gyfrwng i hybu enw Lloyd George at ddibenion gwleidyddol. Cyfeiriodd beirniaid eraill hefyd at fylchau yn ei ddealltwriaeth. Dywedodd papur newydd y Blaid Lafur Annibynnol, y LabourLeader, nad oedd ganddo’r un sêl dros gwestiynau diwydiannol neu gymdeithasol ag oedd ganddo dros faterion crefyddol neu wleidyddol (8R). Doedd gan Lloyd George, a oedd fwy neu lai wedi anwybyddu hyd yn oed streic chwe mis y glowyr yn Ne Cymru yn 1898 ‘had practically nothing to say for Labour’. Ond byddai’r themâu hyn yn ailgodi yn y dyfodol. Yn Ionawr 1906, a’u sefyllfa wedi ei chadarnhau gan y ‘gwrthryfel’ ym maes Addysg, cafodd Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol fuddugoliaeth ysgubol. Ni enillwyd unrhyw un o’r 34 sedd yng Nghymru gan y Ceidwadwyr. Roedd pob swydd, ac eithrio swydd Kier Hardie fel aelod iau dros Ferthyr, yn nwylo’r Rhyddfrydwyr.