Para 8.8
Mae’n anochel bod ei waith dros faterion Cymreig yn fwy anghyson. Un o’r pethau a wnaeth oedd ceisio tawelu Anghydffurfwyr Cymreig a gwynodd wrth y prif weinidog, Syr Henry Campbell-Bannerman yn 1907, am nad oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i hyrwyddo datgysylltu yng Nghymru (8S [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Aeth yr argyfwng hwn heibio, ond mewn gwirionedd ni ymddangosodd y mesur datgysylltu ar raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ar ffurf benodol tan Ebrill 1912. Y brif thema yng ngyrfa Lloyd George, o ran Cymru a Phrydain yn gyffredinol, oedd diwygio cymdeithasol. Fel y gwelwyd (8E) cafodd y mater hwn ei godi mewn rhai areithiau cynnar, ond dim ond yn fras. Wrth siarad â Chyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn Hydref 1906 (8T), parhaodd i bwysleisio’r hen gwestiynau - datgysylltu, diwygio’r tir a dirwasgiad i weithwyr Cymru. Ond pan aeth i’r Trysorlys yn Ebrill 1908, fel ei gyfaill, Winston Churchill, newidiodd ei olwg ar bethau. Pan siaradodd â’r Rhyddfrydwyr Cymreig eto yn Abertawe yn Hydref 1908 (8U), roedd ei bwyslais bellach ar fesurau cymdeithasol a fyddai’n fanteisiol ynddynt eu hunain ac a fyddai’n ymateb i’r her a wynebai’r Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur. Hyd at 1914 lles cymdeithasol a oedd wedi ysbrydoli ei waith gan mwyaf - Pensiynau’r Henoed yn 1908, Cyllideb y Bobl yn 1909; pasio’r yswiriant Iechyd Gwladol a pheth yswiriant diweithdra yn 1911; trafodaethau cyson â’r undebau masnach rhag cynnal streiciau ac i hybu cyfiawnder cymdeithasol. Roedd hen Ryddfrydwyr fel Rendel (8V) yn dal i edmygu ei agwedd ddemocrataidd a chydradd. Roedd ei wrthwynebiad i freintiau a’r sefydliad ar ba bynnag ffurf yn parhau i amlygu ei hun. Pan aeth i weld y Brenin George V ym Malmoral yn 1911, roedd yn gas ganddo’r awyrgylch-‘it reeks withToryism’ (8W). Yn Awst 1914, roedd ei frwdfrydedd radicalaidd yn dal yn gryf yn ogystal â’r gefnogaeth barhaus iddo ymysg y rhan fwyaf o ddosbarthiadau a grwpiau yn ei famwlad.
