Para 8.9

Daeth y cyfnod penodol hwn o yrfa Lloyd George i ben yn sydyn ar 4 Awst 1914. Wedi hynny, daeth tro ar fyd yn ei yrfa. Daeth yn Weinidog Arfau yn 1915, yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel yn 1916, yn Brif Weinidog o Ragfyr 1916 hyd at Hydref 1922. Bellach yng Nghymru fe’i hystyrid fel cyfaill y Ceidwadwyr, roedd nifer o’r adain chwith yn ei gasáu, roedd rhwyg yn ei Blaid Ryddfrydol ei hun ac roedd mewn trafferthion. Dramor, am y tro cyntaf yn 1919-22, ef oedd y pen heddychwr ac ef oedd pensaer yr Ewrop fodern a’r drefn newydd drwy’r byd. Ni fu ei berthynas â Chymru byth yr un fath wedi hyn. Roedd wedi ceisio apelio i ysbryd cenedlaetholgar y Cymry ar ran y ‘little five-foot-five nations’ yn ystod y rhyfel (8X [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) ond gweithiodd hyn yn ei erbyn yn ddiweddarach. O 1922 collodd ei rym am byth, fe’i gwrthodwyd gan etholwyr Cymru gyda’r Blaid Lafur bellach yn ennill tir. Arhosodd Lloyd George ei hun yn y senedd a bu’n llais dylanwadol ar faterion economaidd a thramor; ond erbyn ei farwolaeth ym Mawrth 1945 roedd hyd yn oed un o werinwyr mwyaf Cymru wedi ei wneud yn iarll. Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1880 a 1914 y mae ei brif ddylanwad i’w weld yn fwyaf amlwg ar hanes Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn yng Nghymru fel ym Mhrydain, roedd yn rebel, yn sefyll ar y tu allan. Ni fu erioed yn llawer o genedlaetholwr diwylliannol. Roedd ganddo beth diddordeb yn yr awydd cenedlaethol dros addysg. Roedd o blaid cyfaddawdu a chynghreirio yn ei ffordd ei hun. Teimlai atgasedd mawr tuag at ‘glorified grocers’ Rhyddfrydiaeth a ‘big seats’ y capeli. Yn ei fywyd preifat a chyhoeddus, yn sicr nid oedd yn biwritan (8Y). Eto i gyd gwnaeth fwy nag unrhyw ŵr arall i hybu achosion Cymreig mewn bywyd cyhoeddus. Ac eithrio datgysylltu’r eglwys yng Nghymru yn 1920, gwelliannau yn y tir, datblygiadau addysgol a diwygiadau cymdeithasol, llwyddodd mewn meysydd diwylliannol fel y brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Roedd y cyfan yn rhan o dreftadaeth Ryddfrydol cyn 1914; roedd cysylltiad, uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng pob un ohonynt ag ymgyrchoedd Lloyd George. Tan y diwedd, cadwodd syniad cryf o hunaniaeth genedlaethol, o arwahanrwydd nad oedd yn Saesnig. Mor ddiweddar â 1936, pan oedd ar wyliau yn Jamaica, ysgrifennodd yn flin at ei ferch Megan, a oedd erbyn hyn yn AS dros y Rhyddfrydwyr ym Môn, oherwydd bod y llywodraeth yn llawdrwm ar Gymru yn y ffordd yr oedd yn delio ag achos Saunders Lewis, y cenedlaetholwr o Gymru a gyneuodd y tân yn ysgol fomio’r Llu Awyr Brenhinol yn Llŷn (8Z). Tan y diwedd, roedd Lloyd George yn hyrwyddo ‘gallant littleWales’. Os na choronwyd ei waith â hunanlywodraeth i Gymru, nid arno ef oedd y bai. Y Cymry fel pobl oedd gwraidd yr achos. Gwnaeth fwy nag unrhyw un o’i gyfoedion i wneud Cymru’n wlad wleidyddol a chymdeithasol, ac yn aelod urddasol o’r byd ehangach.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Llyfryddiaeth