Atodiad 1

Cymru, y refferendwm a’r wladwriaeth aml-lefel [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Crynodeb o ddarlith gan Charlie Jeffery o Brifysgol Caeredin yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi 2011.

Mae Charlie Jeffery yn Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin ac ef yw Cydlynydd Ymchwil rhaglen y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar Ddyfodol y DU a’r Alban. Mae hefyd wedi bod yn gynghorydd arbenigol ar ddatganoli yn yr Alban. Yn y ddarlith hon, a roddodd yn fuan ar ôl i Gymru bleidleisio dros bwerau ychwanegol yn refferendwm datganoli 2011, mae’r Athro Jeffery yn myfyrio ar arwyddocâd gwleidydda mewn gwladwriaeth aml-lefel. Mae’n herio dwy brif dybiaeth y meddylfryd gwleidyddol modern - bod gwleidyddiaeth sy’n digwydd yn y canol, hynny yw gwleidyddiaeth ‘state-wide’, yn bwysicach na’r hyn sy’n digwydd ar lefel ranbarthol neu ddatganoledig a’i bod, mewn rhyw ffordd, yn well neu’n fwy datblygedig.

Yn lle hynny, mae’n dweud bod pwerau gwladwriaethau canolog yn gwanhau, wrth i amrywiaeth o actorion gwleidyddol newydd, gan gynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol, feddiannu rhai o’u swyddogaethau a bod sefydliadau rhanbarthol cryfach yn ymddangos. Gan ddefnyddio’r Almaen fel enghraifft, mae’n cyferbynnu’r ffordd y mae’n ymddangos i rywun yn y canol, sydd â phŵer ffederal, â’r ffordd y mae’n ymddangos o safbwynt llywodraeth ranbarthol gref fel llywodraeth Bafaria sydd â’i phlaid ranbarthol rymus ei hun. Mae’r cyntaf, yn naturiol, yn pwysleisio pwysigrwydd unffurfiaeth a rheoliadau cyffredin - dylai pob Almaenwr gael yr un hawliau. Mae’r ail yn ymateb i anghenion a dyheadau penodol y boblogaeth leol. Y canlyniad yw bod rhaglenni gwleidyddol, polisïau a’u canlyniadau yn amrywio fwyfwy rhwng rhanbarthau. Yn achos yr Almaen, mae modd arfer cryn dipyn o ymreolaeth ranbarthol o fewn fframwaith o gydberthnasau ffederal cadarn a phenodol.

Mewn cyferbyniad, mae’r Athro Jeffery yn dadlau mai cydberthnasau neu gydgysylltiadau sefydliadol anffurfiol a gwan sy’n nodweddu’r sefyllfa ym Mhrydain - rydym fel pe baem yn ymbalfalu tuag at ryw fath o ffederaliaeth, heb gadarnhau beth fydd yn ei dal at ei gilydd. Fel Linda Colley, mae’r Athro Jeffery wedi cael ei synnu gan yr agweddau plwyfol a ddangoswyd tuag at y broses, er enghraifft, diffyg diddordeb yr Albanwyr mewn datganoli yng Nghymru. Gan edrych i’r dyfodol, gallwn ddisgwyl gweld gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau gwleidyddol neilltuol a phwysau ar bob un ohonynt i ddangos mwy o hunanddibyniaeth. Mae’r Athro Jeffery yn rhybuddio na fydd fawr o groeso i apeliadau am ‘degwch’. Fodd bynnag, mae datblygiad syniadau fel ‘devo plus’ a ‘devo max’ yng nghyd-destun yr Alban yn ogystal â safbwynt yr SNP ar gadw rai o rwymau’r undeb - fel y bunt, a gwasanaethau a phartneriaethau amrywiol a rennir â’r DU - yn awgrymu bod meddyliau’n dechrau troi at roi patrwm cydweithredu ar waith ar ôl datganoli ac ar ôl annibyniaeth.

Back