Atodiad 3

Darlith y Prif Weinidog i’r LSE ar Ddyfodol yr Undeb

http://www.walesonline.co.uk/ news/ wales-news/ full-first-ministers-lecture-lse-2016677 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Wrth annerch myfyrwyr yn Ysgol Economeg Llundain yn 2012, fel rhan o gyfres o ddarlithoedd ar Ddyfodol yr Undeb, crynhodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sefyllfa datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Erbyn hyn, meddai, mae’n amlwg mai datganoli yw ewyllys bendant pobl Cymru, fel y cadarnhawyd gan y bleidlais yn refferendwm 2011 dros bwerau deddfu.

Fodd bynnag, mae llawer o elfennau i’w tacluso o hyd. Er enghraifft, dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru allu arfer rhai pwerau benthyca, er mwyn ariannu prosiectau cyfalaf mawr. Mae trysorlys y DU wedi bod yn gyndyn iawn i adael i hyn ddigwydd, ac mae’n rheoli Llywodraeth Cymru’n gadarnach nag awdurdodau lleol ar lefelau is. Dylai cyfrifoldeb am nifer o drethi, fel treth stamp ar dai, a’r ardoll agregau, gael ei drosglwyddo i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban. O safbwynt pwerau i amrywio treth incwm, nid yw hyn wedi cael ei grybwyll fel posibilrwydd i bobl Cymru ac, yn ei farn ef, mae’n debyg o fod yn ddiangen ac, o bosibl, yn anymarferol o gofio’r ffin dyllog rhwng Cymru a Lloegr. Dylai’r trethi eraill roi sylfaen ariannol ddigonol i’r llywodraeth ddatganoledig.

Fodd bynnag, roedd achos cryf iawn dros adolygu’r sefyllfa ariannu gyffredinol a chael gwared ar fformiwla Barnett a oedd yn rhoi mantais i’r Alban ar draul Cymru. Mewn sylw brathog, dywedodd y Prif Weinidog hefyd y byddai’n annerbyniol pe bai canlyniad terfynol datganoli yn gadael unrhyw ran o’r DU dan anfantais barhaol o ganlyniad i ffactor ddamweiniol fel presenoldeb neu absenoldeb olew yn y môr.

Cyn belled â bod y sefyllfa gyfansoddiadol yn y cwestiwn, roedd hi’n bryd cael ateb pendant. Y prif ofyniad oedd newid i sefyllfa lle gallai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar lywodraethu, heblaw am y pwerau hynny a gadwyd yn ôl yn benodol yn San Steffan. Byddai’r setliad cadw pwerau hwn yn golygu y byddai Cymru yn gydradd â’r Alban. Dylid cymryd camau hefyd i ymdrin â chynrychiolaeth Cymru o fewn cyrff fel Tŷ’r Arglwyddi (uwch siambr y senedd), y Goruchaf Lys, ac yn Ewrop. Hynny yw, dylai’r pwyslais newydd ar diriogaethedd strwythurau gwleidyddol yn Ynysoedd Prydain gael ei ymgorffori’n gadarn yn y Cyfansoddiad. Gellid cyflawni hyn drwy Gonfensiwn Cyfansoddiadol, a fyddai’n cael ei gynnull ar ôl canlyniadau refferendwm yr Alban ar annibyniaeth. Nid yw pobl Cymru wedi dangos unrhyw awydd am annibyniaeth. Fodd bynnag, neges y Prif Weinidog oedd eu bod wedi dangos yn glir eu bod am reoli eu materion eu hunain ac y dylid parchu’r dyhead hwn yn llawn. Mae wedi ailadrodd y neges hon mewn nifer o areithiau dilynol.

Back

Lawrlwythiadau yn perthyn i’r ddogfen yma

Gallwch lawrlwythio’r ffeiliau yma i’w defnyddio all-lein neu ar ddyfais symudol.

The materials below are provided for offline use for your convenience and are not tracked. If you wish to save your progress, please go through the online version.