Atodiad 5

Rebuilding the Welsh Economy: How Can Wales Win?

Yr Athro Karel Williams

www.youtube.com/ watch?v=IFb8Tbh9aUk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Wrth annerch cynulleidfa yn yr Ysgol Cynllunio Dinesig ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Athro Karel Williams yn trafod y broblem bod economi Cymru yn tangyflawni mewn dadansoddiad pellgyrhaeddol sy’n cynnig rhai dewisiadau amgen radical i’r ffyrdd presennol o reoli’r economi ac yn ystyried a yw datganoli yn darparu unrhyw atebion posibl. Gan ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd gan y Ganolfan Ymchwil i Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol (CRESC) ym Mhrifysgol Manceinion, y mae’n Gyfarwyddwr arni, dengys Williams fod economi Cymru wedi dirywio’n barhaus ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y toriadau ariannol a gyflwynwyd gan lywodraeth y DU sydd wedi’u targedu’n benodol tuag at swyddi yn y sector cyhoeddus a budd-daliadau lles, y mae’r ddau ohonynt, yn ôl cyfran, yn cyfrannu’n fwy at incymau yng Nghymru nag yn y rhan fwyaf o ardaloedd eraill y DU.

Nid Cymru yw’r unig un sy’n wynebu’r anawsterau hyn, sy’n effeithio ar ranbarthau ôl-ddiwydiannol tebyg eraill, o fewn y DU a ledled Ewrop. Ar ôl colli’r rhan fwyaf o’r sector diwydiannol a gweithgynhyrchu, mae economïau’r rhanbarthau hyn wedi mynd yn ôl, i bob pwrpas, at yr hyn y mae Williams yn eu galw yn weithgareddau ‘sylfaenol’ sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r boblogaeth: trafnidiaeth, manwerthu, cyfleustodau, fel nwy a dŵr. Caiff y rhain eu diystyru’n aml am eu bod yn weithgareddau dyddiol cyffredin, ond maent yn cyfrannu at gyfran fawr o swyddi cyfoes. Mae sector gwasanaeth sylweddol wedi bodoli yng Nghymru ers llawer o flynyddoedd. Mae’r sector hwn hefyd yn cynnwys rhai o’r cyflogwyr cyfoes mwyaf, mewn meysydd fel iechyd, addysg a gofal cymdeithasol - gweithgareddau sydd i gyd yn rhan o gylch gorchwyl Cynulliad datganoledig Cymru.

I wledydd fel Cymru, mae Williams yn dadlau mai yn y sector hwn mae’r prif ysgogwyr o ran rheolaeth economaidd erbyn hyn; ond nid yw gwladwriaeth ganolog y DU yn dangos fawr ddim diddordeb mewn defnyddio ei rheolaeth bosibl dros y meysydd hyn ac yn fwy na hynny, nid yw’n ymddangos fel pe bai’n gymwys i wneud hynny. Mae Williams yn feirniadol iawn o gyfyngiadau’r atebion polisi presennol. Yn hytrach, mae’n awgrymu y dylid dychwelyd at fesurau lleol a rhanbarthol a all adeiladu ar yr hyn sydd ar ôl o hyd, cyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran ansawdd bywyd lleol, a dechrau crynhoi cronfeydd ariannol lleol sylweddol. Mae hyn yn peri her gudd i Lywodraeth Cymru: a all ‘feddwl y tu allan i’r bocs’ a mynd ati i ddatblygu rhwydweithiau lleol (hynny yw, Cymreig) newydd o gysylltiadau economaidd sy’n atal symiau mawr o wariant Cymru rhag gadael y wlad? A all weithredu i hyrwyddo mentrau cymdeithasol dielw newydd er mwyn darparu nwyddau sylfaenol ar gyfer pobl Cymru? A yw hyd yn oed yn barod i hyrwyddo mathau newydd o fentrau gwladwriaethol? (Yn 2013, penderfynodd Llywodraeth Cymru fuddsoddi £52 miliwn i brynu Maes Awyr Caerdydd, er mwyn ceisio atal y lleihad yn ei ddefnydd a chynyddu ei rôl yn yr economi. Mae’n debyg bod nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr wedi cynyddu 9% ers hynny).

Mae Karel Williams yn cloi ei ddarlith gyda rhai sylwadau deifiol am gyfyngiadau gwleidyddol dosbarth canol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a gaiff ei gynrychioli’n gryf ymhlith aelodau’r Cynulliad, sydd, yn y gorffennol, wedi perfformio’n well wrth wario elw ffyniant yn ystod cyfnodau llewyrchus nag y mae wrth geisio dod o hyd i ffyrdd o adael cyfnodau o galedi economaidd estynedig.

Back