Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Tuesday, 7 May 2024, 11:19 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Tuesday, 7 May 2024, 11:19 PM

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr ysgol

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol. Mae'n seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ymchwilio i ymarferion a dadansoddi sefyllfaoedd go iawn yn gallu arwain at newid a gwelliant. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o faterion a chysyniadau allweddol arweinyddiaeth addysgol ac, ymhlith pethau eraill, bydd yn trafod yr hyn y gellid ei ystyried yn arferion da mewn arweinyddiaeth addysgol a sut y gellid deall a datblygu'r gallu i wella. Caiff pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso datblygiad dysgu proffesiynol fel rhan o'r broses hon ei ddadansoddi a'i lywio gan ddefnyddio model damcaniaethol y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ysgol.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ystyried rhai materion allweddol sy'n gallu codi mewn ysgolion. Bydd sawl gweithgaredd lle bydd gofyn i chi fyfyrio ar senarios gwahanol ac ysgrifennu rhai arsylwadau personol mewn blog y byddwch yn gallu ei gopïo a'i ludo i'ch cyfrifiadur eich hun. Mae cwblhau'r blog yn rhan hanfodol o'r cwrs hwn er mwyn dangos eich bod yn cymryd rhan weithredol ynddo – ond gan fod sefyllfaoedd yn amrywio o ysgol i ysgol, bydd atebion yn amrywio, a bydd eich arsylwadau'n bersonol i chi.

Mae'n bosibl y bydd rhai o'r gweithgareddau yn gofyn i chi ddewis o nifer o atebion posibl, ond thema sylfaenol y cwrs hwn yw eich bod yn cymryd eich amser ac yn ateb mewn modd myfyriol a gonest, gan ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dysgu personol eich hun.

Drwy ddilyn y cwrs hwn, y gobaith yw y byddwch yn magu hyder yn eich rôl fel llywodraethwr ac yn gallu ymgymryd â rôl fwy gwybodus yn eich ysgol.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • meithrin dealltwriaeth well o'r rôl y mae arweinyddiaeth yn ei chwarae yn natblygiad ysgol ac wrth wella deilliannau disgyblion
  • trafod a dadansoddi rhai o'r ffactorau sy'n gallu dylanwadu ar arweinyddiaeth lwyddiannus a chyfrannu ati
  • myfyrio ar y dulliau arwain a ddefnyddir mewn sefydliadau addysgol sy'n gyfarwydd i chi
  • gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio tystiolaeth i gefnogi barn
  • gwerthfawrogi pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso datblygiad dysgu proffesiynol.

1 Beth yw arweinyddiaeth addysgol?

Mae arweinyddiaeth yn fater cymhleth: mae llu o gyhoeddiadau wedi'u hysgrifennu ar y pwnc. Dylid nodi o'r cychwyn cyntaf nad oes un ffordd gywir o arwain ac nad oes unrhyw atebion cyflym na rysáit hawdd ar gyfer datrys heriau arweinyddiaeth addysgol.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno rhai o'r adnoddau a'r syniadau academaidd a fydd yn eich helpu i ddatblygu safbwynt critigol o ran dulliau arwain yn eich cyd-destun eich hun. Mae pob un ohonom wedi profi arweinyddiaeth eraill yn ein bywydau proffesiynol a phersonol, a bydd gan bob un ohonom farn o ran pa weithredoedd, ymddygiadau a strategaethau arwain a all fod eu hangen mewn sefyllfa benodol.

Fodd bynnag, gall ystyr termau fel ‘arweinyddiaeth’, ‘arwain’, ‘gweinyddu’ neu ‘rheoli’ beri dryswch mewn sefydliadau. Dros amser, mae enwau rolau wedi datblygu er mwyn adlewyrchu faint o arweinyddiaeth sy'n ddisgwyliedig. Mae ysgolion yn defnyddio termau fel:

  • ‘rheolwyr canol’
  • ‘arweinwyr pwnc’
  • ‘arweinwyr dysgu’
  • ‘uwch dimau rheoli’
  • ‘uwch dimau arwain’.

Yr hyn a dderbynnir yn gyffredinol yw bod:

  • llawer o weithwyr proffesiynol yn arwain
  • sawl aelod o sefydliad yn gallu cyflawni tasgau arweinyddiaeth, gydag awdurdod swydd a hebddo.

Mae llawer o rolau yn gyfuniad o ‘arwain’ a ‘rheoli’, a bydd y pwyslais yn amrywio o berson i berson ac o sefydliad i sefydliad. Mae arwain wedi cael ei ddisgrifio fel gweithio gyda phobl er mwyn newid ymddygiadau, agweddau a gwerthoedd, tra bo rheolwyr yn fwy tebygol o gynnal perfformiad pobl a systemau. Fodd bynnag, o safbwynt academaidd, mae arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol yn parhau i fod yn gysyniadau dadleuol!

Gweithgaredd 1: Arwain a Rheoli

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Ystyriwch y strwythurau ‘arwain a rheoli’ mewn sefydliad sy'n gyfarwydd i chi. Pwy sy'n ymddangos fel petai'n gyfrifol am arwain fel rhan o'i rôl a pha dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi'r farn hon?

Meddyliwch am rai enghreifftiau o newid yn eich ysgol sydd o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i arferion arwain da a'u rhestru. Eto, pa dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi eich barn?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

2 Cyd-destun Arweinyddiaeth yng Nghymru

Mewn gwirionedd, prin yw'r sefydliadau sydd â strwythurau cwbl glir, a gellir defnyddio dulliau arwain gwahanol mewn rhannau gwahanol o'r un sefydliad. Gall pŵer ymddangos mewn strwythur hierarchaidd ddiffiniedig a gall hyn adlewyrchu ffurfiau ar wybodaeth arbenigol ganfyddedig. Fodd bynnag, gall y rheini nad ydynt mewn rolau arwain dynodedig ddylanwadu ar eraill drwy berswâd a meithrin cydberthnasau rhyngbersonol - gall hyn gynnwys cynnig camau i fireinio cynlluniau arwain neu opsiynau amgen yn eu lle. Pan fyddwch chi'n myfyrio ar arweinyddiaeth, mae felly'n bwysig ystyried y nodweddion sefydliadol ynghyd â'r cydberthnasau rhwng y bobl.

Mae Estyn yn arolygu ysgolion yng Nghymru ac yn rhoi adborth ar arweinyddiaeth a rheolaeth fel rhan o'r fframwaith adrodd presennol. Er bod adroddiadau Estyn yn darparu crynodeb o arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ac yn rhoi gradd ar yr elfennau hyn, bydd hyd y cylch arolygu yn golygu bod y ‘wybodaeth’ hon yn hen yn aml.

Ceir newidiadau di-baid mewn ysgolion. Efallai fod adroddiad diweddaraf Estyn yn bwynt cyfeirio pwysig, ond mae'n bosibl bod adroddiadau gwerthuso allanol eraill ar gael i ysgolion gan awdurdod lleol (ALl) neu Consortia Rhanbarthol. Gall yr adroddiadau eraill hyn gynnig adborth diweddarach ar berfformiad sy'n trafod ac yn dadansoddi agweddau penodol ar arweinyddiaeth, a myfyrio arnynt.

Gweithgaredd 2: Adroddiadau gan Gymedrolwyr Allanol

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Dylech ystyried y pwyntiau canlynol:

  1. Pa adroddiadau gwerthuso allanol sydd ar gael i chi fel llywodraethwr ysgol, a pha mor gyfarwydd ydych chi â'r rhain?
  2. Pa mor ddiweddar yw'r dogfennau hyn a beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi am ganfyddiadau allanol o brosesau arweinyddiaeth eich ysgol?
  3. Ydych chi'n credu eu bod yn adlewyrchiad cywir o arweinyddiaeth bresennol eich ysgol, neu ydych chi'n meddwl bod gwahaniaethau sylweddol? Pa dystiolaeth sy'n cefnogi eich barn?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

3 Arweinyddiaeth a gwella ysgolion

Mae adroddiad helaeth Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd (2016) yn cynnwys cydnabyddiaeth bwysig bod gan bob ysgol le i wella ac mai arweinyddiaeth yw'r ffactor pwysicaf sy'n dylanwadu ar gyflymder, ansawdd a chynaliadwyedd gwelliant yr ysgol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen arddulliau arwain gwahanol ar ysgolion sydd ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn aml, a bod arweinwyr – ar bob cam o daith ddatblygiadol ysgol – yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu sgiliau proffesiynol eu staff a'u cefnogi.

Cymerir y sail dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn o arolygiadau o ysgolion cynradd ledled Cymru rhwng 2010 a 2015. Mae hefyd yn cynnwys model pedwar cam ar gyfer gwella ysgolion cynradd sy'n cynnig elfennau gwella generig y gellir eu trosglwyddo i addysg uwchradd.

Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn nodi nodweddion cyffredin gwella ar bob cam:

Dyma lle mae arweinwyr yn:

  • diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella
  • sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol
  • sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth
  • sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau
  • darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn
  • cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)
  • sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion
  • sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith
  • sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol
  • darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni.

Nawr dylech fynd ati i ddefnyddio'r nodweddion arweinyddiaeth hyn wrth i chi roi cynnig ar Weithgaredd 3.

Gweithgaredd 3: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Edrychwch yn ofalus ar bob un o nodweddion arweinyddiaeth cyffredin Estyn.

  1. Nawr ewch i'r ddwy bleidlais ar wefan y cwrs i nodi'r nodweddion mwyaf a lleiaf cyffredin yn eich ysgol, yn eich barn chi.

    Ar ôl pleidleisio, byddwch yn gallu gweld yr hyn a ddewisodd dysgwyr eraill. Ewch i'r fforwm i drafod eich dewisiadau.

  2. Nawr ystyriwch a fyddai'n bosibl ymdrin â'r nodweddion mewn ffordd ddefnyddiol a'u gwella yn eich sefydliad. Os felly, pa ddulliau arwain y byddai angen eu defnyddio er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd orau posibl?

    Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

(Os ydych chi am ddarllen mwy o Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae ar gael ar wefan Estyn.)

Fe'ch gwahoddir i ystyried sut mae'r nodweddion hyn yn gweithio yn erbyn enghraifft o fywyd go iawn. cymerwch gip ar astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland, ewch i'ch blog ar wefan y cwrs a chrëwch dabl â dwy golofn, yn debyg i'r un isod, a cheisiwch ddod o hyd i enghraifft o bob nodwedd o astudiaeth achos Parkland. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn o dan y tabl enghreifftiol.

Gweithgaredd 4: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn ac astudiaeth achos Parkland

Timing: Caniatewch tua 60 munud

Ewch i flog Gweithgaredd 4 ar wefan y cwrs a chreu tabl â dwy golofn, yn debyg i'r un isod:

Nodwedd Enghraifft o'r astudiaeth
Diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella
Sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol
Sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth
Sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau
Darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn
Cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)
Sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion
Sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith
Sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol
Darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni

Er mwyn creu tabl, ar ôl i chi glicio ar ‘Blog newydd’, cliciwch ar y botwm chwith uchaf ar y blwch neges i ddechrau:

Yna cliciwch ar y botwm ‘Table’:. Pan ofynnir i chi, crëwch dabl gydag 11 o resi a 2 golofn. (Nid oes angen i chi ychwanegu pennawd.)

(Os ydych chi am ddarllen mwy o Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae ar gael ar wefan Estyn.)

Ar ôl ystyried astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland yn wrthrychol, fe'ch cynghorir i gynnal gweithgaredd myfyriol tebyg ar gyfer eich ysgol eich hun. Gallech greu tabl arall yn eich blog er mwyn gwneud hyn. Dylai hwn fod yn ymarfer cymharu diddorol.

4 Mathau o arweinyddiaeth

Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn cynnwys tystiolaeth a gymerwyd o nifer o ysgolion cynradd. Mae bob amser yn bwysig ystyried tystiolaeth yn wrthrychol wrth fyfyrio ar arweinyddiaeth. Mae sawl astudiaeth achos fanwl wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ac mae'r rhain yn adlewyrchu lefelau gwahanol o lwyddiant y gellir, yn eu tro, eu cysylltu ag agweddau ar arweinyddiaeth.

O safbwynt academaidd, mae ffyrdd penodol o feddwl am arweinyddiaeth sy'n cynnwys:

  • lleoliadol
  • dosbarthiadol
  • trafodaethol
  • trawsnewidiol.

Ar y cyfan, mae hwn yn faes dadleuol: mae gan y swm helaeth o lenyddiaeth sydd ar gael gyfeiriadau at nifer o fathau o arweinyddiaeth, damcaniaethau, arddulliau a modelau arwain sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn gwrth-ddweud ei gilydd. Mae hyn am fod arweinyddiaeth yn ymgorffori ystod sylweddol o weithredoedd a gweithgareddau, y mae gwerthoedd a chredoau penodol yn sail i bob un ohonynt.

Gallai pawb sy'n gweithio mewn cyd-destun addysgol gael eu cynnwys mewn rhyw fath o weithgarwch arwain – ni waeth pa mor fach – sy'n ymwneud â dylanwadu ar wybodaeth, barn, ymddygiad ac arferion pobl eraill. Mae damcaniaethau am arweinyddiaeth yn parhau i ymddangos, ac mae'n anodd iawn cytuno ar arddull a ffefrir o hyd! Un enghraifft ddadleuol o hyn yw ‘arweinyddiaeth a rennir’ (neu ‘arweinyddiaeth wasgaredig’), sy'n cydnabod y gall unrhyw un mewn sefydliad gyflwyno a datblygu syniadau da. Gellir ystyried hyn fel rhywbeth cadarnhaol, oherwydd gall helpu i feithrin gallu ac mae'n caniatáu ar gyfer datblygu cyfalaf deallusol a phroffesiynol; ond mae angen ystyried ffyrdd o rannu a datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer hyn.

Mae gan arweinyddiaeth statws lleoliadol o hyd ac mae arweinwyr yn dewis ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol ac mewn amgylchiadau gwahanol. Mae arweinyddiaeth drafodaethol a thrawsnewidiol yn ddau fodel sefydledig y cyfeirir atynt mewn llenyddiaeth academaidd:

  • Mewn arweinyddiaeth drafodaethol, mae dylanwad ar ymddygiad gyda ‘gwobr’ neu ‘ddisgyblaeth’, gan ddibynnu ar lefel y perfformiad gan ddilynwyr. Mae gan y dull arwain hwn ddau brif ffactor: gwobr amodol yn cael ei chydbwyso drwy reoli disgwyliadau. Mae gwobr amodol yn ei gwneud yn ofynnol bod is-weithwyr yn cyrraedd lefelau perfformiad penodol; mae rheoli disgwyliadau yn caniatáu ymyriad os nad ydynt yn cyrraedd y safonau. Mae hwn yn amrywiad ar y dull arwain ‘moronen a ffon’. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus wrth ddychmygu defnyddio dull gweithredu trafodaethol ar gyfer rheoli athrawon proffesiynol, gan fod llawer ohonynt yn teimlo ymrwymiad dwfn i weithio gyda disgyblion
  • Efallai y bydd arweinyddiaeth drawsnewidiol yn teimlo fel model mwy priodol yn reddfol. Mewn llawer o ffyrdd, mae'n debyg iawn i arweinyddiaeth ddemocrataidd: mae'r ddau yn ymwneud â pharchu urddas unigolion a'u traddodiadau diwylliannol – hwyluso'n rhagweithiol, holi'n agored a beirniadu'n weithredol. Mae arweinwyr trawsnewidiol yn ysbrydoli ac yn ysgogi eu dilynwyr, gan ddangos pwysigrwydd gwella a chyflawni a meithrin dyhead y dilynwyr i wneud hynny. Maent yn optimistaidd yn aml ac yn gyffrous am gyflawni nodau, ac maent yn gallu cynhyrchu cred a rennir a gweledigaeth strategol. Maent yn mentora eu dilynwyr ac yn rhoi sylw i anghenion unigolion.

Os yw'n ymddangos bod arweinwyr trafodaethol yn arwain â'u pen, yna mae arweinwyr trawsnewidiol yn arwain â'u calon. Gellid disgrifio arweinyddiaeth drafodaethol fel 'effeithlon', ond byddai arweinyddiaeth drawsnewidiol yn cael ei galw'n 'effeithiol'. Ond, mae angen bod yn ofalus: dyfeisiau artiffisial yw'r ddau ddull arwain hyn. Mewn gwirionedd, ystrydebau yw pob model arweinyddiaeth, ac mae llawer o'r hyn a ystyrir yn arweinyddiaeth mewn ysgolion yn gyfuniad o arddulliau. Mae'n debygol y bydd arweinyddiaeth yn gyfaddawd yn aml, gyda ffactorau allanol yn ymddangos fel petaent yn dylanwadu ar amserlenni ac atebolrwydd.

Mae creu diwylliant mewn ysgol lle gellir cynllunio ar gyfer newid yn llwyddiannus a'i roi ar waith yn her i arweinwyr. Bydd gan bob ysgol a senario ei chyfres ei hun o ffactorau a newidynnau y bydd angen eu hystyried yn ofalus.

Gweithgaredd 5: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Nawr darllenwch yr erthygl ‘Creative leadership: a challenge of our times’ gan Louise Stoll a Julie Temperley (2009).

Mae'n defnyddio canfyddiadau o waith ymchwil i'r angen i arweinwyr fod yn greadigol er mwyn datblygu gweithlu hyblyg sy'n gallu addasu i heriau'r unfed ganrif ar hugain.

Wrth i chi ddarllen yr erthygl hon, mae'n debyg y byddwch yn darllen sylwadau y byddwch yn cytuno â nhw a rhai y byddwch yn anghytuno â nhw. Mae gan y sylwadau yn yr erthygl ddilysrwydd a ddylai'ch helpu i fyfyrio ar eich canfyddiadau eich hun o'r ysgol a'r staff.

Fe'ch anogir i gadw cofnod o unrhyw ffactorau o'r erthygl rydych yn teimlo y gellid eu hatgynhyrchu neu eu diwygio er mwyn galluogi eich ysgol i ddatblygu dull gweithredu mwy hyderus a chreadigol ar gyfer eich amgylchiadau a'ch blaenoriaethau.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Gweithgaredd 6: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol – profi eich gwybodaeth (rhan 1)

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Ar ôl darllen ‘Creative leadership: a challenge of our times’, rhowch gynnig ar y cwestiynau canlynol.

a. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


b. 

Ysgogi ymdeimlad o frys - creu ‘argyfwng’ os oes angen


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Ildio rheolaeth yn hunanymwybodol


The correct answer is b.

a. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


b. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


c. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


d. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answer is d.

a. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


b. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


c. 

Ysgogi ymdeimlad o frys - creu ‘argyfwng’ os oes angen


d. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


The correct answer is d.

a. 

Hyrwyddo meddwl a dylunio creadigol unigol a chydweithredol


b. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


c. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


d. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


The correct answer is a.

Gweithgaredd 7: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol – profi eich gwybodaeth (rhan 2)

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Nawr dylech ystyried sut mae'r amodau hyn yn gweithio wrth ystyried enghraifft o fywyd go iawn.

Darllenwch a dadansoddwch astudiaeth achos Ysgol Gynradd Deighton ac atebwch y cwestiynau canlynol, sy'n ymwneud ag enghreifftiau go iawn o'r astudiaeth achos. Ar gyfer pob cwestiwn, bydd angen i chi ddewis dau amod a fyddai'n helpu i hwyluso pob datblygiad yn yr ysgol.

a. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


b. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


e. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answers are c and e.

a. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


b. 

Ysgogi ymdeimlad o frys – creu ‘argyfwng’ os oes angen


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Ildio rheolaeth yn hunanymwybodol


e. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answers are d and e.

a. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


b. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


c. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


d. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


e. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


The correct answers are b and d.

a. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


b. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


c. 

Ysgogi ymdeimlad o frys – creu ‘argyfwng’ os oes angen


d. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


e. 

Hyrwyddo meddwl a dylunio creadigol unigol a chydweithredol


The correct answers are a and e.

5 Arwain datblygiad dysgu proffesiynol

Un o'r rolau allweddol ar gyfer arweinwyr yw cefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill. Ynghyd â bod yn un o nodweddion cyffredin gwella yn adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae gan ddatblygiad dysgu proffesiynol effeithiol nifer o ganlyniadau cadarnhaol posibl ar gyfer yr unigolyn a'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ganlyniadau gwell i ddysgwyr, sy'n flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ysgol.

Mae'n bwysig bod gweithgarwch dysgu proffesiynol yn gyson â nodau'r sefydliad. Gellir ei ddiffinio a gall godi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • datblygiad proffesiynol parhaus
  • hyfforddiant mewn swydd
  • mentora
  • cymunedau dysgu proffesiynol
  • hyfforddi.

Mae'n bwysig deall y gellir defnyddio pob un o'r dulliau gweithredu hyn; ond mae yr un mor bwysig ystyried ansawdd y profiad a sut i werthuso effaith y gweithgarwch.

Dylid ystyried hyn wrth gynllunio'r gweithgarwch, er mwyn sicrhau bod adnoddau ariannol a gaiff eu buddsoddi mewn dysgu proffesiynol yn gost effeithiol ac yn strategol. Yn hanesyddol, roedd gan sawl math o gyrsiau proffesiynol ffordd uniongyrchol o'u gwerthuso, yn aml ar ffurf taflen i'w thicio gydag ychydig o sylwadau. Ar y cyfan, roedd hyn yn eithaf arwynebol a chyfeiriodd rhai academyddion at hyn fel ‘taflen hapus’. Dim ond gwybodaeth argraffiadol ac anecdotaidd fyddech chi'n ei chael o'r taflenni hyn, heb unrhyw ystyriaeth o effaith dros amser.

Erbyn hyn ceir dulliau gweithredu manylach ar gyfer gwerthuso dysgu proffesiynol: mae'r rhain yn cynnwys model Thomas R. Guskey sy'n ystyried y gellir cyflawni effaith datblygiad dysgu proffesiynol ar bum lefel bosibl:

  • ymateb cydweithwyr
  • dysgu cydweithwyr
  • cymorth a newid sefydliadol
  • defnydd cyfranogwyr o wybodaeth a sgiliau newydd
  • deilliannau dysgu disgyblion.

Yn ôl Guskey, prif nod datblygiad proffesiynol yw gwella deilliannau i ddisgyblion. Mae'n awgrymu mai'r dull gweithredu synhwyrol yw dechrau ble yr hoffech fod a gweithio drwy'r lefelau, gan gadw deilliant posibl y disgybl mewn cof bob amser. Felly wrth werthuso datblygiad dysgu proffesiynol, ‘deilliannau dysgu'r disgyblion’ yw'r ystyriaeth gyntaf a'r bwysicaf, ac ‘ymateb y cyfranogwyr’ - y ‘daflen hapus’ - sydd leiaf pwysig.

Mewn geiriau eraill: caiff y datblygiad proffesiynol ei lywio gan anghenion y disgyblion.

Gweithgaredd 8: ‘A yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?’

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Darllenwch erthygl Guskey, ‘Does it make a difference?’, sy'n esbonio'r dull gweithredu hwn yn fanylach.

Myfyriwch ar ddatblygiad dysgu proffesiynol rydych chi wedi'i brofi'n bersonol neu rydych chi'n ymwybodol ohono. Pa fath o werthusiad a gafwyd, ac a fyddai cynnwys dull gweithredu pum cam Guskey wedi gallu gwella ansawdd y profiad? Os felly, ym mha ffordd?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

6 Adolygu eich dysgu

Y gweithgaredd olaf yw cyfle i chi ailymweld â'ch dysgu a myfyrio ar rai o'r prif themâu o'r cwrs hwn ar arweinyddiaeth. Efallai y bydd angen i chi ailedrych ar rywfaint o'ch gwaith darllen cynharach er mwyn atgyfnerthu rhai o'r cysyniadau arweinyddiaeth sydd wedi'u cyflwyno.

Gweithgaredd 9: Amser i fyfyrio

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Amlinellodd adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd (2016) ddeg nodwedd gyffredin a ddangoswyd gan arweinwyr. Ystyriwch y rhain yn eu tro a, gan ddefnyddio'ch dealltwriaeth o arweinyddiaeth drafodaethol a thrawsnewidiol, nodwch a oes gan un o'r arddulliau arweinyddiaeth ystrydebol hyn fwy o botensial i ymdrin â phob nodwedd, neu a ydych chi'n meddwl bod angen elfennau o'r ddau arddull. Dylech hefyd ailedrych ar erthygl Stoll a Temperley ‘Creative leadership: a challenge of our times’ (2009) a nodi pa rai o'r ‘amodau ar gyfer hyrwyddo a meithrin creadigrwydd cydweithwyr’ allai ychwanegu at debygolrwydd llwyddiant.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Nid oes yr un ateb ‘cywir’ i'r gweithgaredd hwn. Y prif nod yw eich helpu i ddatblygu eich gwerthfawrogiad bod arweinyddiaeth yn gymhleth ac yn agored i'w dehongli bob amser. Mae ysgolion yn datblygu, felly hefyd yr unigolion sydd ynddynt; felly mae angen i arweinyddiaeth ddatblygu hefyd. Fel yr oedd Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn cynnwys pedwar categori gwahanol er mwyn dangos sefyllfaoedd amrywiol ysgolion – dechrau'r daith, gwneud cynnydd, adeiladu momentwm a chynnal safonau uchel – bydd gwahaniaethau wrth ddadansoddi a myfyrio ar bob un o'r nodweddion gwahanol ym mhob ysgol hefyd.

Yng ngeiriau Stoll a Temperley (2009), mae angen i arweinydd neu dîm arwain llwyddiannus wneud y canlynol: ‘explore and develop their capacity to create the conditions, culture and structures in which learning-focused innovation and creativity best thrive.’ Mae hyn yn cynnwys datblygiad dysgu proffesiynol perthnasol a chynllun gwella gyda meini prawf llwyddiant y gellir eu gwerthuso gyda thystiolaeth wrthrychol. Nid yw bod yn llywodraethwr ysgol yn hawdd, ond gobeithio nawr eich bod yn teimlo'n fwy hyderus i ymgymryd â rôl fwy gwybodus a gweithredol yn nhaith ddatblygiadol eich ysgol.

Cyfeirnodau

Estyn (2016) Arweinyddiaeth a Gwella Ysgolion Cynradd, Medi, Caerdydd: Estyn. Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/ sites/ www.estyn.gov.wales/ files/ documents/ Leadership%20and%20primary%20school%20improvement%20cy%20%20-%20new%20links.pdf (cyrchwyd 18 Medi 2019).

Guskey, T. (2002) ‘Does it make a difference?’, Educational Leadership, cyf. 59, rhif 6, tt. 45–7. Ar gael yn: https://www.open.ac.uk/ libraryservices/ resource/ article:100927&f=27809&f=27809 (cyrchwyd 18 Medi 2019).

Stoll, L. a Temperley, J. (2009) ‘Creative leadership: a challenge of our times’, School Leadership & Management, cyf. 29, rhif 1, tt. 65–78. Ar gael yn: https://core.ac.uk/ reader/ 111046579 (cyrchwyd 18 Medi 2019).

Diolchiadau

Ysgrifennwyd y cwrs am ddim hwn gan Dave Tyler.

Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence.

Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn:

Delweddau

Llun ar y clawr: DGLimages/iStock/Getty Images Plus.

Adnoddau

Adran 3: Astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland, Estyn (2016) Arweinyddiaeth a Gwella Ysgolion Cynradd, https://www.estyn.llyw.cymru/, a atgynhyrchwyd o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored (http://www.nationalarchives.gov.uk/ doc/ open-government-licence-cymraeg/ version/ 3/); Adran 4: Astudiaeth achos Ysgol Gynradd Deighton, Estyn (2016) Arweinyddiaeth a Gwella Ysgolion Cynradd, https://www.estyn.llyw.cymru/, a atgynhyrchwyd o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored (http://www.nationalarchives.gov.uk/ doc/ open-government-licence-cymraeg/ version/ 3/).

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.