Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr ysgol

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol. Mae'n seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ymchwilio i ymarferion a dadansoddi sefyllfaoedd go iawn yn gallu arwain at newid a gwelliant. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o faterion a chysyniadau allweddol arweinyddiaeth addysgol ac, ymhlith pethau eraill, bydd yn trafod yr hyn y gellid ei ystyried yn arferion da mewn arweinyddiaeth addysgol a sut y gellid deall a datblygu'r gallu i wella. Caiff pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso datblygiad dysgu proffesiynol fel rhan o'r broses hon ei ddadansoddi a'i lywio gan ddefnyddio model damcaniaethol y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ysgol.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ystyried rhai materion allweddol sy'n gallu codi mewn ysgolion. Bydd sawl gweithgaredd lle bydd gofyn i chi fyfyrio ar senarios gwahanol ac ysgrifennu rhai arsylwadau personol mewn blog y byddwch yn gallu ei gopïo a'i ludo i'ch cyfrifiadur eich hun. Mae cwblhau'r blog yn rhan hanfodol o'r cwrs hwn er mwyn dangos eich bod yn cymryd rhan weithredol ynddo – ond gan fod sefyllfaoedd yn amrywio o ysgol i ysgol, bydd atebion yn amrywio, a bydd eich arsylwadau'n bersonol i chi.

Mae'n bosibl y bydd rhai o'r gweithgareddau yn gofyn i chi ddewis o nifer o atebion posibl, ond thema sylfaenol y cwrs hwn yw eich bod yn cymryd eich amser ac yn ateb mewn modd myfyriol a gonest, gan ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dysgu personol eich hun.

Drwy ddilyn y cwrs hwn, y gobaith yw y byddwch yn magu hyder yn eich rôl fel llywodraethwr ac yn gallu ymgymryd â rôl fwy gwybodus yn eich ysgol.