Mae llywodraethwyr ysgol yn chwarae rôl hanfodol yn system addysg Cymru fel rhan o dîm ehangach sy’n gweithio tuag at yr un nod: sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael addysg ardderchog.
Cyfeillion beirniadol a phartneriaid ysgol yw llywodraethwyr ysgol, i bob diben. Mae eu gwaith eang yn cynnwys meysydd fel strategaeth, polisi, cyllidebu, cyflawniad, diogelu, llesiant a staffio. Er y gall pob corff llywodraethu amrywio, mae gan bob un ohonynt gyfres o gyfrifoldebau a nodau penodol. Drwy gydol y cwrs hwn, mae ‘llywodraethwr ysgol’ wedi’i gwtogi i ‘llywodraethwr’.
Mae pwerau a dyletswyddau'r corff llywodraethu yn cynnwys (Llywodraeth Cymru, 2013):
Mae yna nifer o agweddau ar rôl llywodraethwr, ac mae gan bob llywodraethwr ystod eang o sgiliau, profiad a gwybodaeth i'w cynnig i'r rôl. Mae gwaith eich corff llywodraethu yn defnyddio'r ystod eang honno o sgiliau a phrofiad. Mae ysgolion ac addysg plant yng Nghymru yn elwa'n fawr ar waith llywodraethwyr, sydd, i bob diben, yn wirfoddolwyr medrus di-dâl.
Mae llywodraethwyr yn cydweithio â'i gilydd, gyda staff yr ysgol, rhieni a gofalwyr, disgyblion, y gymuned leol, yr awdurdod lleol, y consortia rhanbarthol â'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu addysg yng Nghymru. Felly, mae gwaith tîm yn rhan hollbwysig o'r gwaith o ddatblygu a chynnal corff llywodraethu llwyddiannus. Mae'r cwrs hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau chi eich hun o weithio mewn tîm, ystyried enghreifftiau o waith tîm mewn ysgolion, a myfyrio ar arweinyddiaeth a pherthnasedd gwaith tîm i'ch profiad chi eich hun fel llywodraethwr.
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
Mae'r adran hon o'r cwrs yn archwilio'r term 'gwaith tîm' ac mae'n gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau chi eich hun o weithio mewn tîm.
Mae cryn dipyn wedi'i ysgrifennu am dimau a grwpiau: y gwahaniaeth rhyngddynt a pha mor effeithiol y maent yn gweithio. At ddiben y cwrs hwn, defnyddiwn y diffiniad sy'n disgrifio tîm fel grŵp sy'n uno'r aelodau tuag at gyflawni amcanion cyffredin (Bennet, 1994).
Mae gwaith tîm yn digwydd mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol ac mewn rhannau gwahanol o'n bywyd. Efallai ein bod yn gweithio mewn tîm bob dydd, neu fel digwyddiad untro. Mae enghreifftiau o waith tîm yn amrywio o gynllunio gwyliau gyda theulu neu ffrindiau, cynllunio digwyddiad gyda chydweithwyr yn y gwaith, ymateb i argyfwng, cydweithio i bennu cyllideb neu gymryd rhan mewn cyfarfod, i gyflawni newid mewn polisi llywodraeth leol neu genedlaethol.
Nododd Mark Gardner o Gymdeithas Genedlaethol y Llywodraethwyr fod creu corff llywodraethu llwyddiannus, fel unrhyw dîm arall, yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd ac amrywiaeth o ran sgiliau a phrofiad. Hefyd, mae angen i'r llywodraethwyr gydweithio fel rhan o dîm (Young-Powell, 2016).
Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys unigolion sy'n defnyddio eu gwybodaeth, profiad a chymhellion eu hunain. Daw llywodraethwyr o sefydliadau gwahanol a gallant fod wedi'u hethol neu eu hapwyntio i'r corff llywodraethu. O fewn y corff llywodraethu mae yna hefyd gyfres o is-dimau, a grëir at ddibenion penodol; gallai'r rhain fod yn bwyllgorau statudol, neu rai sy'n diwallu anghenion penodol ysgol unigol. Gall pwyllgorau cyrff llywodraethu gwmpasu meysydd fel materion personél a chyllid, cyflawniad, derbyniadau, llesiant a lles, safle, y cwricwlwm, neu strategaeth.
Mae Gweithgaredd 1 yn gofyn i chi feddwl am y priodoleddau a'r gweithredoedd a ddisgwylir gan lywodraethwyr ysgol, a'r hyn a all fod yn gyffredin rhyngddynt.
Edrychwch ar y rhestr isod. Pa briodoleddau a gweithredoedd a fyddai'n ddisgwyliedig gennych fel llywodraethwr? A allwch nodi thema gyffredin o ran y priodoleddau a'r gweithredoedd rydych wedi'u dewis?
Mae'r datganiadau wedi'u haddasu o'r Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru (Gwasanaethau Governors Cymru, 2019) ac maent yn rhan o Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwasanaethau Governors Cymru.
Mae pob datganiad yn berthnasol i rôl llywodraethwr ac yn dangos bod gwaith tîm yn rhan bwysig o'ch gwaith fel llywodraethwr. Rydych yn cyfrannu drwy weithio gyda llywodraethwyr eraill, staff, rhieni a gofalwyr, a disgyblion i wneud y canlynol:
Bydd pob corff llywodraethu yn cyflawni ei rôl yn y ffordd sydd fwyaf addas i anghenion yr ysgol unigol a'i disgyblion. Fodd bynnag, mae yna rai nodweddion cyffredin rhwng cyrff llywodraethu, er enghraifft:
Caiff llawer o'ch gwaith fel llywodraethwr ei gyflawni mewn timau ac wrth weithio gydag eraill. Er bod rhai o'r datganiadau uchod yn ymwneud â chi fel unigolyn, mae angen i chi gydweithio ag eraill er mwyn eu cyflawni.
Cyn symud ymlaen i'r adran nesaf, sy'n ystyried rolau tîm, treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono.
Treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono ac ystyriwch y cwestiynau canlynol:
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae gan bob corff llywodraethu strwythur sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned ysgol y mae'n ei chynrychioli. Fodd bynnag, mae yna rai gofynion statudol y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu eu bodloni mewn perthynas â phwyllgorau a pholisïau, gan gynnwys:
Bydd gan bob corff llywodraethu ddogfen gyfeirio sy'n pennu ei bwerau a'i ddyletswyddau, ei safle yn y strwythur adrodd, nifer gofynnol y llywodraethwyr. Rhaid adolygu hyn y flynyddol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant sefydlu a llywodraethiant ysgolion.
Gall y cyhoedd weld pob blog ar y cwrs hwn. Gallwch benderfynu p’un a ydych am i ddysgwyr eraill roi sylw ar eich blogiau.
Ar ôl i chi fyfyrio ar eich corff llywodraethu eich hun a'ch gwaith fel llywodraethwr, mae'r adran nesaf yn ystyried rolau timau.
Mae'r adran hon yn rhoi rhywfaint o gefndir am rolau timau. Wrth i chi weithio drwyddi, meddyliwch am y gwaith rydych yn ei wneud mewn timau a'r gwaith rydych wedi ei wneud gydag eraill, boed hynny fel rhan o gorff llywodraethu neu fel arall.
Ymchwil Belbin (1981) yw'r darn o waith y dyfynnir ohono fwyaf yng nghyd-destun gwaith tîm. Er bod y gwaith hwn wedi'i ddatblygu a'i fireinio dros y blynyddoedd, mae'n dal i fod yn sail i ymchwil a gwaith ysgrifenedig ar waith tîm. Mae Belbin yn nodi naw clwstwr o ymddygiadau, neu rolau, mewn tîm. Mae'n awgrymu bod unigolion yn fwy effeithiol os cânt chwarae'r rolau y mae eu sgiliau'n fwyaf addas iddynt neu y maent yn fwyaf awyddus i'w chwarae, ond gallant fabwysiadu rolau eraill ar wahân i'r rhai a ffefrir ganddynt os oes angen.
Mae yna agweddau cadarnhaol a negyddol ar y naw rôl. Cliciwch ar bob un ohonynt i gael rhagor o fanylion:
Nid yw gweithio mewn tîm bob amser yn hawdd, ond mae iddo nifer o fuddiannau. Mae'n darparu strwythur ac yn ffordd o ddod â phobl sydd â chymysgedd o sgiliau a gwybodaeth ynghyd. Mae hefyd yn annog y broses o gyfnewid syniadau, creadigrwydd, cymhelliant a gwaith craffu, a gall helpu i wella ansawdd, cyflawniad a phrofiad yn yr ysgol. Dylech nawr roi cynnig ar Weithgaredd 3.
Ar ôl dysgu am yr amrywiaeth o rolau timau sy'n bodoli, treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar eich cyfraniad at eich corff llywodraethu a thimau eraill rydych yn rhan ohonynt. Pa un o'r naw rôl uchod y byddai'n well gennych ei mabwysiadu? A ydych yn ymgymryd â rolau gwahanol yn dibynnu ar y tîm rydych yn gweithio ynddo?
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Nid oes yr un ateb cywir i'r gweithgaredd hwn: ei ddiben yw eich helpu i grynhoi eich meddyliau am eich cyfraniadau at dimau, ac yn benodol y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono. Efallai bod nifer o'r rolau a amlinellwyd gan Belbin yn berthnasol i chi, neu efallai bod un rôl yn benodol yn sefyll allan. Gall meddwl am brofiadau a chyfraniadau blaenorol lywio eich ymddygiad nawr ac yn y dyfodol. Drwy ddeall eich dewisiadau eich hun, gallwch ddatblygu eich cyfraniadau at waith y corff llywodraethu, ei bwyllgorau a gwaith gyda staff, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach. Mae'r gallu i gydweithio ag eraill mewn tîm fel bod y pethau cywir yn cael eu cyflawni yn sgil bwysig.
Fel llywodraethwr, byddwch yn mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau ac, o bosibl, yn cymryd rhan mewn gweithgorau bach. Efallai y byddwch hefyd yn ymweld â'r ysgol er mwyn cael tystiolaeth uniongyrchol o ansawdd yr addysgu a'r dysgu, neu ymddygiad y disgyblion. Efallai y byddwch yn cyflwyno gwybodaeth i rieni a gofalwyr, neu'n cymryd rhan mewn arolygiad o'r ysgol ac yna'n llunio cynllun gweithredu mewn ymateb i'r adroddiad arolygu. Caiff pob un o'r tasgau hyn eu cwblhau drwy gydweithio ag eraill.
Yn y rhan hon o'r cwrs rydych wedi dysgu eich bod, drwy ymgymryd â'ch gwaith gwirfoddol fel llywodraethwr, yn ffurfio rhan o dîm o lywodraethwyr. Mae tîm y corff llywodraethu yn fwy effeithiol pan fydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau, profiadau a doniau ei lywodraethwyr unigol ac yn manteisio ar bob un o'u cryfderau fel tîm. Drwy ddeall eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun fel aelod o dîm, gallwch wneud cyfraniad mwy effeithiol.
Fodd bynnag, pan fydd unigolion yn dod ynghyd i weithio fel tîm, mae angen rhyw faith o arweinyddiaeth. Mae angen hwyluso a goruchwylio tîm, ac weithiau mae angen ffordd o reoli safbwyntiau croes. Mae rôl Cadeirydd y Llywodraethwyr yn fuddiol yn hyn o beth. Trafodir arweinyddiaeth ymhellach yn Adran 4.
Mae Adran 2 yn ystyried enghraifft bwysig o waith tîm mewn ysgolion yn fanylach: y cysyniad o weithio mewn 'partneriaeth' â rhieni a gofalwyr. Mae deall pam a sut y mae ysgolion yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr yn eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd fel llywodraethwr ac yn eich galluogi i fyfyrio ar y nifer o fathau gwahanol o dimau sy'n bodoli yng nghymuned eich ysgol.
Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rôl bwysig yn addysg eu plentyn. Mae ysgolion yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr mewn perthynas â llesiant, datblygiad ac addysg pob plentyn sy'n mynychu eu hysgol. Datblygwyd yr ymadrodd 'partneriaeth â rhieni a gofalwyr' er mwyn adlewyrchu'r gydberthynas agos honno a'r cyfraniad y mae pob un ohonynt yn ei wneud at ddatblygiad ac addysg plentyn. Mae'r bartneriaeth o bwysigrwydd arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Ond beth yw partneriaeth? Mae'r term yn cael ei ddefnyddio bob dydd. Ar ei ffurf symlaf, mae partneriaeth yn golygu dau neu fwy o bobl (neu sefydliadau) yn cydweithio tuag at nod cyffredin. Gall y nodau hyn fod yn rhai hirdymor neu fyrdymor. Mewn gwirionedd, tîm yw partneriaeth, fel y'i diffinnir yn Adran 1.
Ym myd addysg, mae'r syniad o bartneriaeth rhwng rhieni neu ofalwyr ac ymarferwyr (a ddefnyddir yma i gyfeirio at y rheini a gyflogir fel staff addysgu yn yr ysgol) wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd. Ar ddiwedd y 1970au, adolygodd adroddiad Warnock y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru a Lloegr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys pennod ddylanwadol sy'n dwyn y teitl ‘Parents as partners’ (CEEHCYP, 1978).
Mae cryn dipyn o dystiolaeth wedi'i chasglu o arsylwadau ac astudiaethau academaidd o ran gwerth partneriaeth o'r fath. Fodd bynnag, nid yw'n syniad syml: gall heriau godi pan fydd ymarferwyr a rhieni neu ofalwyr yn ceisio cydweithio'n agos er budd llesiant, datblygiad a dysgu plentyn. Yn benodol, gall rhai rhieni a gofalwyr fod yn betrusgar ynglŷn â dod yn bartneriaid; mae'n bosibl bod rhai eraill wedi cael profiadau cadarnhaol a negyddol o'r amgylchedd ysgol.
Mae dulliau agored a chynhwysol o weithio mewn partneriaeth wedi arwain at gydnabyddiaeth eang o bwysigrwydd rhieni a gofalwyr fel partneriaid - yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynharaf plant, pan fo cysylltiad agos rhwng gofal ac addysg. Mae deddfwriaeth addysgol hefyd wedi hwyluso cyfraniad rhieni a gofalwyr drwy roi mwy o lais iddynt fel 'defnyddwyr' gwasanaeth cyhoeddus.
Mae gweithio ar lefel gyfartal â rhieni a gofalwyr yn bwysig, felly hefyd y mae'r ddealltwriaeth nad yw'r ymarferwr na'r rhiant/gofalwr yn 'gwybod orau'. Mae gan bob un ohonynt safbwyntiau penodol ar blentyn sy'n ategu ei gilydd. Mae gweithio fel tîm i gefnogi datblygiad a chyfleoedd addysgol plentyn yn sicrhau bod y plentyn hwnnw'n cael y cyfle gorau posibl i wireddu ei botensial.
Meddyliwch am bob un o’r geiriau canlynol a nodwch y rhai y byddech yn eu cysylltu ag ymarferydd a phartneriaeth rhiant/gofalwr. Yna, yn y blog, cofnodwch y geiriau a nodwyd gennych. Ar gyfer pob gair a nodwyd rhowch esboniad byr ar gyfer eich dewis.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae pob un o'r geiriau yn berthnasol mewn rhyw ffordd. Nid yw'r bartneriaeth yn parhau yr un fath ac mae'n newid wrth i blentyn ddatblygu a symud ymlaen yn ei addysg. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae'r bartneriaeth yn ymwneud â dealltwriaeth a rennir a thrafodaeth; yn ddiweddarach, mae'n aml yn datblygu'n gyfres fwy penodol o rolau a chyfrifoldebau.
Mae rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr yn ystyried partneriaeth mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'r ffordd y mae partneriaeth yn gweithio yn amrywio'n sylweddol: efallai na fydd yr hyn a ystyrir yn briodol mewn un maes yn addas mewn maes arall, ac mae'n bosibl y bydd arferion arloesol mewn un lleoliad yn rhai cyffredin yn rhywle arall.
Gan mai ymarferwyr sydd fel arfer yn ysgogi'r bartneriaeth, maent yn aml yn arwain y gwaith o ddiffinio ei natur a phenderfynu faint o ran y bydd rhieni a gofalwyr yn ei chwarae yn y parth addysgol proffesiynol. Mae ymarferwyr yn aml yn tybio eu bod yn gwybod beth sydd er budd gorau rhieni a gofalwyr (Bastiani a Wolfendale, 1996; Edwards, 2002), a all arwain at bartneriaeth unochrog.
Mae'r ddeddfwriaeth a'r amgylchedd addysgol y mae ysgolion yn gweithredu oddi mewn iddynt yn aml yn newid. Mae newid yn berthnasol am ei fod yn aml yn ymwneud ag ymarferwyr a rhieni/gofalwyr. Mae newid hefyd yn effeithio ar y bartneriaeth a chymuned ehangach yr ysgol. Dros y degawdau diwethaf, mae newidiadau wedi cynnwys y gofyniad i bob ymarferydd ymgynghori â rhieni a gofalwyr. Ceir bellach gynrychiolaeth gan rieni/gofalwyr ar lefel awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol. Cymerir camau i gasglu barn rhieni a gofalwyr yn ystod arolygiadau o ysgolion. At hynny, caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i fynegi eu barn.
Mae'r agenda 'Addysg Well i Blant yng Nghymru' wedi arwain at adolygiadau mawr ac arferol gan y llywodraeth a gynlluniwyd i hyrwyddo a sicrhau profiadau a chyflawniad addysgol gwell. Yn 2019 yn unig, cafwyd ymgyngoriadau ar Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol, canllawiau ar gyfer Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a chanllawiau ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae angen i bawb sy'n ymwneud â datblygiad ac addysg plentyn fod yn ymwybodol o'r datblygiadau a'r newidiadau arfaethedig. Nid yw hyn bob amser yn dasg hawdd, ond mae'n un y gall ymarferwyr a llywodraethwyr gyfrannu ati, gan rannu'r datblygiadau a'r effeithiau hyn fel rhan o'u gwaith a'u partneriaeth â rhieni a gofalwyr. Gall cymuned ysgol wybodus a brwdfrydig gefnogi a gwella'r broses newid honno.
Mae yna nifer o resymau pam y dylai rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr a chymuned yr ysgol gydweithio â'i gilydd.
Mae ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol yn aml yn pwysleisio'r manteision y mae gwaith tîm effeithiol rhwng ymarferwyr, rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn eu cynnig i ddysgu plant. Gall cydweithio rhwng rhieni ac ymarferwyr fod yn bwysig i hunaniaeth, hunan-barch a llesiant seicolegol plentyn. Mae cydberthynas agos rhwng rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr wrth ddarparu cymorth i blant yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau o newid a phontio. Mae hyn ynddo'i hun yn rheswm cymhellol dros bartneriaeth agos.
Dylai'r oedolion allweddol ym mywyd plentyn allu uniaethu ag ef a'i annog mewn ffyrdd tebyg. Er mwyn deall i ba raddau y gall rhieni a gofalwyr fod yn rhan o addysg eu plant, byddwch nawr yn ystyried i ba raddau y maent yn gwneud y canlynol:
Mae pob rhiant a gofalwr yn addysgwr anffurfiol gweithredol, p'un a yw'n cydweithio ag addysgwyr proffesiynol ac ymarferwyr y plentyn ai peidio. Mae rhieni a gofalwyr yn cefnogi dysgu plentyn ym mhob agwedd ar ei fywyd, ac mae plant yn dysgu drwy gymryd rhan mewn bywyd teuluol a chymunedol. Gall hyn gynnwys:
Fel llywodraethwr, efallai y byddwch yn dod ar draws sefyllfa lle mae rhiant am fynd â hyn gam ymhellach drwy ddod yn 'addysgwr yn y cartref' ffurfiol. Mae'n bosibl y bydd rhieni'n gwneud hyn am eu bod yn teimlo bod eu plentyn yn anhapus mewn lleoliad ffurfiol. Maent yn credu y gall eu plentyn ffynnu drwy gael ei addysgu gartref. Lleiafrif o rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref o hyd.
Mae llawer o rieni a gofalwyr yn ymgymryd â rôl addysgu drwy siarad, chwarae, darllen a chanu gyda'u plant. I lawer o rieni a gofalwyr, dim ond rhan o'r profiad addysgol y maent yn ceisio ei gynnig i'w plant yw eu cydberthynas ag ymarferwyr ac asiantaethau eraill sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog rôl rhiant a gofalwr 'gefndir' ar bob cam o addysg plentyn. Mae syniadau a gwybodaeth wedi'u datblygu a'u cyhoeddi'n eang: er enghraifft, roedd gan ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' ffrwd Twitter a thudalen Facebook er mwyn annog rhieni a gofalwyr i gyfrannu at addysg eu plentyn.
Mae mentrau a arweinir gan y Llywodraeth yn bwysig o ran helpu rhieni a gofalwyr i deimlo y gallant fod yn rhan o ddysgu ffurfiol eu plentyn. Mae'r adnoddau hefyd yn darparu gwybodaeth, syniadau ac anogaeth er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i fod yn llai dibynnol ar leoliadau blynyddol cynnar ac ysgolion.
Dylech nawr roi cynnig ar Weithgaredd 5, sy'n cynnig cyfle i archwilio a myfyrio ar y rôl y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae fel 'addysgwyr'.
Treuliwch ychydig funudau yn darllen erthygl gan Owen Hathway (bydd angen i chi sgrolio i lawr ar ôl clicio ar y ddolen), ac yna myfyriwch ar ei pherthnasedd i chi fel llywodraethwr. Efallai y byddwch yn dewis gwneud nodyn o'r pwyntiau allweddol.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae'r gweithgaredd hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar y rôl y mae rhiant/gofalwr yn ei chwarae yn addysg ei blentyn. Mae Owen Hathway yn swyddog polisi ac mae'r erthygl yn cynrychioli ei farn. Caiff ei gyflogi gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.
Mae'r awdur yn nodi bod angen cynnwys rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu gwireddu ei botensial llawn. Mae hyn yn adlewyrchu'r syniad bod angen addysg 'ffurfiol' ac 'anffurfiol' er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gwireddu ei botensial. Mae gan ysgolion, rhieni, gofalwyr a'r gymuned oll rôl i'w chwarae. Cyflawnir y dasg drwy waith tîm a phartneriaeth. Bydd y timau a'r partneriaethau hynny yn amrywio o ran maint a hyd, ond mae gan bob corff llywodraethu rôl i'w chwarae ynddynt.
Drwy weithio fel cynorthwywyr gwirfoddol, gall rhieni a gofalwyr ddarparu cymorth amhrisiadwy i blant, yn enwedig mewn lleoliad addysg gynnar – er enghraifft drwy ddarparu cymorth dysgu i blant. Mae Gweithgaredd 6 yn cynnig cyfle i ystyried pam y mae'n fuddiol gweithio gyda rhieni/gofalwyr.
Edrychwch ar y naw datganiad isod; mae pob un ohonynt yn rhoi rheswm pam y dylai ymarferwyr weithio gyda rhieni a gofalwyr. Ystyriwch bob datganiad a’r drefn y maent wedi’u cyflwyno. Ym mlog y cwrs, cofnodwch, gan roi rhesymau, p’un a ydych yn cytuno â phob datganiad a’r drefn y byddech yn gosod y datganiadau.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae'r datganiadau'n dangos buddiannau niferus cydweithio. Maent hefyd yn rhoi cipolwg ar anghenion (tybiedig) rhieni a gofalwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r datganiadau'n ymwneud â'r buddiannau y mae partneriaeth yn eu cynnig i rieni a gofalwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio am y buddiannau posibl i ymarferwyr hefyd. Gallant feithrin dealltwriaeth well drwy wrando ar rieni a gofalwyr ac ystyried eu dealltwriaeth bersonol o blant – er enghraifft y datganiad 'Gwybodaeth am blant'. Gall ymarferwyr hefyd gael eu cefnogi gan rieni a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd ymarferol, fel y mae'r datganiad 'Pâr ychwanegol o ddwylo' yn ei awgrymu.
Mae'n bosibl eich bod wedi rhoi blaenoriaeth i fuddiannau i rieni/gofalwyr, ymarferwyr, plant, neu gyfuniad o'r rhain. Mae'n bwysig cydnabod bod cydweithio'n agos â rhieni a gofalwyr yn ganolog i ddatblygiad, llesiant a chyflawniad plentyn.
Mae partneriaeth yn ymwneud â rhieni a gofalwyr yn ymateb i syniadau ymarferwyr. Un ffordd amlwg o gynyddu ewyllys, dealltwriaeth ac ymdeimlad o bartneriaeth rhwng ymarferwyr, rhieni a gofalwyr yw drwy ddarparu cyrsiau a gweithdai. Gall y rhain fod ar sawl ffurf, ond yn y bôn, maent yn ymwneud â darparu lleoliad i rieni a gofalwyr er mwyn gwneud y canlynol:
Mae'n bwysig meithrin ymdeimlad ehangach o gwmpas y bartneriaeth a'r ffyrdd ymarferol niferus y gellir ei fynegi. Mae gwaith partneriaeth yn dueddol o gael ei lywio gan weithwyr proffesiynol – llunwyr polisïau, arbenigwyr ym maes y blynyddoedd cynnar, damcaniaethwyr addysgol ac ymarferwyr – ond prin iawn y caiff ei lywio gan rieni neu ofalwyr eu hunain. Felly mae'n bwysig meithrin cysyniad o bartneriaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a allai fod yn briodol ym marn gweithwyr proffesiynol; gweledigaeth sy'n rhoi lle i rieni, gofalwyr, llywodraethwyr a phlant fynegi syniadau creadigol ac annisgwyl.
Mae gan ymarferwyr deimladau cryf am y mathau o bartneriaeth sy'n cefnogi eu gwaith orau mewn ysgol benodol, ac mae'r ffordd y mae lleoliadau addysgol yn dehongli'r syniad o 'bartneriaeth' yn amrywio'n sylweddol. Wrth benderfynu pa fath o bartneriaeth a fyddai'n gweithio mewn lleoliad, mae angen ystyried yr hyn sy'n ymarferol yn ôl natur y rhieni a'r gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol, ond hefyd yr hyn sy'n briodol i anghenion y plant. Mae'n rhaid i'r plant fod wrth wraidd unrhyw 'bartneriaeth'.
Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o'r amrywiaeth o ffyrdd y gall rhieni ymgysylltu ag ymarferwyr ac ysgol. Mae'r tabl yn seiliedig ar waith Pugh a De’Ath (1989).
Nid yw'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o ddysgu eu plant | Mae yna rai anghyfranogwyr 'gweithredol' sy'n penderfynu nad ydynt am fod yn rhan o ddysgu eu plant. Mae'n bosibl eu bod yn fodlon ar y ddarpariaeth, neu'n brysur iawn yn y gwaith, neu'n awyddus i dreulio amser i ffwrdd o'u plant. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni sydd wedi datgysylltu (detached)'. Mae yna hefyd anghyfranogwyr 'goddefol' a fyddai'n hoffi bod yn rhan o ddysgu eu plant ond nad oes ganddynt yr hyder i wneud hynny, neu sy'n anfodlon o bosibl ar y math o bartneriaeth a gynigir. Yn ôl Vincent (1996), maent yn 'rhieni annibynnol'. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cefnogi'r lleoliad 'o'r tu allan' | Dim ond pan fyddant yn cael eu gwahodd i wneud hynny y mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan, er enghraifft drwy fynd i ddigwyddiadau neu ddarparu arian ar gyfer adnoddau dysgu. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan mewn lleoliad 'oddi mewn' fel cynorthwywyr | Mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn helpu mewn ffyrdd fel darparu cymorth ar deithiau, cefnogi dysgu'r plant yn y lleoliad neu gynnal llyfrgell teganau. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn cymryd rhan yn y lleoliad 'oddi mewn' fel dysgwyr | Mae'r rhieni a'r gofalwyr hyn yn mynychu gweithdai a sesiynau addysg i rieni. Mae'r a'r gofalwyr hyn yn cymryd rhan mewn fforymau rhieni, fel y rheini mewn lleoliadau preifat neu gorfforaethol lle nad oes unrhyw fwrdd ymddiriedolwyr, neu bwyllgorau rhieni/gofalwyr, lle y gallant drafod a rhyngweithio â rheolwyr y lleoliad. |
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn rhan o gydberthynas waith â'r ymarferwyr | Nodweddir cyfraniad y rhieni a'r gofalwyr hyn gan ymdeimlad a rennir o ddiben a pharch at y naill a'r llall. Er enghraifft, mae'r rhieni:
|
Mae'r rhieni a'r gofalwyr yn gwneud penderfyniadau ac yn eu rhoi ar waith | Yn y bôn, mae'r rhieni hyn yn gyfrifol ac yn atebol am ddarpariaeth y lleoliad ac mae ganddynt yr un cyfrifoldeb a rheolaeth â llywodraethwyr yn yr ysgol – er mai ychydig iawn ohonynt a fyddai'n ymgymryd â rheolaeth weithredol yn fwy nag y mae llywodraethwyr ysgol yn rheoli ysgol o ddydd i ddydd. |
Mae Adran 3 yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yma ac yn ystyried materion sy'n effeithio ar y broses o feithrin cydberthnasau gwaith rhwng rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr mewn lleoliad addysgol. Yn ei dro, gall y materion hyn effeithio ar waith corff llywodraethu a'i lywio.
Mae'n bosibl y bydd gan rieni, gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr safbwyntiau gwahanol am ystyr partneriaeth a'r ffordd y mae gwaith tîm yn cyfrannu at addysg, llesiant, diogelwch a datblygiad plentyn. Mae hyn yn codi materion pwysig i lywodraethwyr wrth weithio gydag ymarferwyr, rhieni a gofalwyr, ac i lywodraethwyr wrth geisio cynnwys rhieni a gofalwyr yn eu gwaith gyda phlant. Mae'r adran hon yn tynnu sylw at bedwar pwynt penodol a all helpu i lywio datblygiad partneriaethau â rhieni a gofalwyr, a gwaith y corff llywodraethu:
Caiff plant eu hystyried yn unigolion a dylid mabwysiadu'r un ymagwedd at eu rhieni a'u gofalwyr. Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o rieni a gofalwyr wedi ymddieithrio'n fwy na phlant, gellir gwneud datganiadau cyffredinol am rieni, er enghraifft 'Mae ein rhieni a'n gofalwyr yn gefnogol', 'Mae ein rhieni a'n gofalwyr yn gallu bod yn anodd', neu 'Nid yw ein rhieni a'n gofalwyr yn dda am godi arian'.
Lluniodd Carol Vincent (1996) ddosbarthiad pedair ffordd o safbwyntiau rhieni mewn perthynas ag ymarferwyr. Nododd bedwar 'math' sylfaenol o rieni a gofalwyr. Cliciwch ar bob un ohonynt i gael rhagor o fanylion:
Weithiau gall dosbarthiadau o'r fath gefnogi neu fireinio ein syniadau, ond gallant hefyd leihau neu dangynrychioli realiti. Un anhawster mawr i nifer o ymarferwyr yw'r cyswllt cyfyngedig sydd ganddynt â'r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr. Mae ymarferwyr yn treulio llawer o amser gyda phlant ond ychydig iawn o amser gyda rhieni a gofalwyr, oni bai bod y rhieni neu'r gofalwyr yn cymryd rhan yn y lleoliad fel gwirfoddolwyr neu weithwyr cyflogedig, neu os mai nhw yw'r ymarferwyr (er enghraifft mewn grŵp chwarae). Heb wybodaeth fanwl, mae'n hawdd gwneud tybiaethau, sy'n arwain at ystrydebau anghywir am rieni a gofalwyr. Mae llywodraethwyr, oni bai eu bod yn rhiant-lywodraethwr, yn treulio hyd yn oed llai o amser gyda rhieni a gofalwyr.
Mae amser yn brin i lawer o rieni a gofalwyr plant ifanc, a all egluro pam y mae llawer ohonynt yn ymddangos fel pe bai ganddynt lai o ddiddordeb nag a all fod yn wir. Mae'n hollbwysig peidio â labelu rhieni a gofalwyr yn 'wael' os byddant yn dewis peidio â gweithio mewn partneriaeth agos â'r lleoliad. Mae'n hawdd gwneud tybiaethau sy'n arwain at ystrydebau anghywir am rieni a gofalwyr, neu, yn yr un modd, gamsyniadau am ymarferwyr. Mae rhieni sydd 'wedi datgysylltu' ac 'annibynnol' Carol Vincent yn ein hatgoffa am y rhesymau pam y mae rhai rhieni a gofalwyr yn dewis peidio â bod yn rhan o ddysgu eu plant.
Mae partneriaeth rhwng rhieni ac ymarferwyr yn cynnwys pennu disgwyliadau'r bartneriaeth mewn modd sensitif, a gwrando ar safbwyntiau, ymatebion a dymuniadau'r rhieni a gofalwyr. Ond beth allai fod yn sail i ddiffyg awydd ymddangosiadol rhieni a gofalwyr i gydweithio ag ymarferwyr? Mae Gweithgaredd 7 yn gofyn i chi feddwl am hyn mewn rhagor o fanylder.
Ar sail yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn a'ch profiad fel llywodraethwyr, nodwch bum rheswm pam nad yw rhiant neu ofalwr o bosibl yn gallu ymgysylltu'n llawn ag ymarferwyr a chymuned yr ysgol.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae yna nifer o resymau pam nad yw rhiant neu ofalwr o bosibl yn ymgysylltu ag ymarferwyr neu gymuned yr ysgol. Bydd gan bob rhiant/gofalwr ei amgylchiadau a'i resymau unigol ei hun. Nid yw'r rhestr ganlynol yn hollgynhwysfawr; gall eich rhestr chi gynnwys pwyntiau ychwanegol, neu bwyntiau sy'n benodol i'ch ysgol:
|
|
Mae'n rhestr hir – ac ond yn darparu enghreifftiau yn unig o rai o'r rhesymau dros ddiffyg diddordeb neu fethiant i fynd i gyfarfodydd.
Mae adroddiadau gan nifer o gymdeithasau rhieni ac athrawon yn awgrymu y bu cynnydd mewn ymddygiad amharchus, ac weithiau ymosodol, gan rieni a gofalwyr. Gall hyn ddigwydd ar safle'r ysgol neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ôl Wallace (2002, t. 10), gall y sbardunau gynnwys:
Mae angen cryn sgil ac amser i ddelio â'r ymddygiad hwn, ac nid yw ymarferwyr bob amser wedi'u hyfforddi i ymdopi ag ef. Mewn lleoliadau lle mae'n rhaid delio'n aml â rhieni neu ofalwyr heriol, gellir lleihau'r anawsterau drwy wneud y canlynol:
Mae'n ddefnyddiol nodi disgwyliadau a chanllawiau clir i rieni a gofalwyr. Gall polisïau ar ymddygiad, y defnydd o'r cyfyngau cymdeithasol a gweithdrefnau cwyno ddarparu fframwaith clir a phwynt cyfeirio i rieni a gofalwyr, disgyblion ac ymarferwyr. Fel llywodraethwr, efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â pholisïau o'r fath, a fyddai'n cael eu llunio a'u hadolygu gan eich corff llywodraethu.
O ran yr enw gwael a roddir i rieni a gofalwyr weithiau, mae Margaret Morrisey o Gydffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn cyflwyno cymesuredd i'r ddadl drwy ddweud:
Mae'r mwyafrif helaeth o rieni – 95 y cant – yn gefnogol iawn. O ran y ganran honno o rieni nad ydynt yn gefnogol, efallai nad oes ganddynt ddiddordeb, neu eu bod yn rhy brysur neu o dan ormod o straen. Rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i'w helpu, yn hytrach na thaflu bai arnynt.
Mae angen gwybodaeth dda ar ymarferwyr a llywodraethwyr am y mathau niferus o strwythurau teuluol sy'n bodoli erbyn hyn. Mae'n bwysig peidio â thybio bod y rhan fwyaf o blant yn byw gyda mam a thad sy'n briod. Mae'r ddelwedd isod (a addaswyd o Tassoni, 2000, t. 272) yn crynhoi'r prif fathau o drefniadau teuluol sy'n darparu gofal i blant. Cliciwch ar bob un ohonynt am ragor o fanylion:
Dim ond enghreifftiau yw'r rhain o'r amrywiaeth o ffyrdd y gall plentyn fyw gyda'i riant/rieni. Mae llawer o blant hefyd yn byw gyda gofalwyr, fel neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu, neu gallant fod mewn rhyw fath o ofal. Gall y trefniadau hynny newid dros amser.
Mae'n bwysig osgoi gwneud tybiaethau am natur teuluoedd wrth weithio gyda rhieni a gofalwyr. Mae gwybodaeth ymarferwr am drefniadau teuluol plentyn yn dibynnu ar yr hyn y mae'r plant a'u rhieni neu ofalwyr yn awyddus i'w rannu.
Dros y degawdau diwethaf bu pwyslais cynyddol ar arweinyddiaeth ym maes addysg, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Bydd eich corff llywodraethu yn cysylltu ag uwch-dîm arwain yr ysgol mewn nifer o ffyrdd ac mae aelodau o'r uwch-dîm arwain yn aml yn rhan o'r corff llywodraethu.
Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am y canlynol:
Mae'r pwyslais cynyddol ar arweinyddiaeth yn seiliedig ar y syniad bod arweinyddiaeth effeithiol yn arwain at ganlyniadau gwell o ran gofal, dysgu a datblygiad plant. Mae Rost (1991) yn disgrifio arweinyddiaeth fel cydberthynas ddynamig rhwng grŵp o bobl, lle mae arweinwyr a chydweithwyr yn cydweithio i sicrhau newid.
O'r safbwynt hwn, gellir ystyried bod arweinyddiaeth yn broses ddylanwadu ddwyffordd ryngweithiol. Hynny yw, p'un a yw'r ymarferydd unigol wedi'i ddynodi'n 'gyfrifol' neu'n 'rheolwr' ai peidio, gall pob ymarferydd fyfyrio ar ei ymarfer ei hun, rhoi newid ar waith a dylanwadu ar ansawdd y ddarpariaeth. Mae’r syniad o arweinyddiaeth fel proses ryngweithiol yn galluogi pawb sy’n gweithio mewn ysgol – boed hynny fel ymarferwr neu mewn rolau eraill – i gydweithio mewn diwylliant o ddysgu a gwybodaeth a rennir er mwyn sicrhau bod y disgyblion ysgol yn cael addysg ardderchog. Mae gwaith llywodraethwyr yn rhan o'r dysgu a'r wybodaeth a rennir hynny.
Mae datblygu diwylliant tîm yn agwedd allweddol ar arweinyddiaeth. Bydd natur a strwythur y tîm yn amrywio yn ôl cyd-destun y gwaith i'w wneud, ond dylai aelodau'r tîm fod yn gweithio tuag at nodau cyffredin. Mae cyfathrebu a'r strategaethau a ddefnyddir gan arweinwyr ac aelodau timau yn allweddol i'r ffordd hon o weithio.
Myfyriwch ar eich profiad eich hun o arweinyddiaeth, p'un a yw hynny fel aelod o dîm neu fel arweinydd. Nodwch y tair sgil rydych yn disgwyl i arweinydd eu dangos.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae arweinwyr yn defnyddio eu profiadau, eu sgiliau a'u galluoedd eu hunain. Mae arweinwyr llwyddiannus yn meddu ar amrywiaeth o alluoedd. Bydd eich rhestr o alluoedd yn seiliedig ar eich profiad eich hun a gall gynnwys rhai o'r canlynol:
Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac mae'n bwysig cofio y gall unigolion ddangos tystiolaeth o arweinyddiaeth heb feddu ar rôl arwain ddynodedig.
Mae arweinyddiaeth ei hun yn broses dameidiog amrywiol, a roddir ar waith mewn cyd-destun o newid ochr yn ochr â thasgau rheoli o ddydd i ddydd. Mae arweinyddiaeth yn effeithiol os yw'n datblygu arweinyddiaeth aelodau'r tîm. Felly, rôl arweinydd yw annog eraill i arwain eu hunain. Nid gwneud pethau'n haws i'r arweinydd yw diben hyn, ond manteisio i'r eithaf ar ddoniau pawb. Mae arweinwyr yn chware rôl bwysig wrth alluogi ymarferwyr eraill i feithrin y galluoedd angenrheidiol i wella ansawdd y ddarpariaeth. Mae'n bosibl y dylai ymarferwyr geisio mabwysiadu'r rhinweddau arwain a nodwyd gan McCall a Lawlor (2000), sy'n awgrymu y dylai arweinyddiaeth fod yn seiliedig ar weledigaeth:
Rhaid i arweinwyr feddu ar ryw fath o syniad am y dyfodol, y gorwel pell a'r cynllun gweithredu llawn, ac mae angen iddynt feddu ar y gallu i gynnal eu momentwm personol a momentwm y tîm wrth geisio cyflawni'r nod dymunol. Rhaid iddynt hefyd ddangos rhinweddau dynol cyfoethog fel teyrngarwch i genhadaeth, chwilfrydedd, beiddgarwch, ymdeimlad o antur a sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i reoli'r rhai sy'n gweithio iddynt mewn modd teg a sensitif. Rhaid iddynt allu eu cymell eu hunain ac eraill, dangos ymrwymiad i'r achos, rhyddhau doniau ac egni eraill, meddu ar hunanhyder ond hefyd agwedd hyblyg a pharodrwydd i ddysgu technegau a sgiliau newydd.
Er mwyn sicrhau darpariaeth addysgol effeithiol mae angen i arweinwyr ac ymarferwyr fyfyrio'n barhaus ar brofiadau'r plant yn eu lleoliad ac, mewn partneriaeth â'u teuluoedd, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, ysgogi newid er gwell.
Mae arweinyddiaeth yn berthnasol i bawb, beth bynnag fo'u rôl yn eu lleoliad. Meddyliwch am rinweddau, sgiliau a galluoedd penodol arweinydd. Isod ceir fersiwn gryno o ddetholiad Reed (2009) o'r rhinweddau, y sgiliau a'r galluoedd personol a all nodweddu arweinydd effeithiol.
Rhinweddau arwain ymarferwyr y blynyddoedd cynnar (Reed, 2009):
Mae gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn dod yn fwyfwy cymhleth ac mae'r rolau'n gofyn am lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau gan ymarferwyr ac arweinwyr. Mae Jones a Pound (2008) yn defnyddio'r ymadrodd ‘arweinyddiaeth gynhwysol' gan gefnogi'r syniad bod darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn rhy heriol i gael ei chyflawni gan un person yn unig. Mae hyn yn awgrymu bod gan bob aelod o'r tîm cyfan, i raddau amrywiol, ran hollbwysig i'w chwarae. Yn hyn o beth, mae'n bosibl bod arweinydd dynodedig, ond nid oes diwylliant 'arweinydd a dilynwyr' yn y lleoliad – yn hytrach, mae yna ddiwylliant o dîm gyda phawb yn gweithio'n gyfforddus mewn hinsawdd o werthuso a myfyrio.
Un o nodweddion lleoliad blynyddoedd cynnar yw bod nifer o oedolion yn gweithio fel rhan o dîm. Efallai na fydd ymarferydd sy'n gweithio gartref, er enghraifft, yn ymddangos fel pe bai'n rhan o 'dîm' nac yn 'arweinydd' ond mae'n bosibl ei fod yn gweithio gydag ymarferwyr eraill sy'n gweithio gartref, canolfannau plant a gwasanaethau cymorth lleol. Mae angen sgiliau arwain ar ymarferwyr y blynyddoedd cynnar at nifer o ddibenion, gan gynnwys:
Er bod addysg mewn ysgolion yn gweithredu mewn cyd-destunau gwahanol, un peth sy'n gyffredin rhwng addysg ac ysgolion yw bod nifer o oedolion yn gweithio fel rhan o dîm. Mae natur gymhleth a heriol diogelu a hyrwyddo lles, llesiant, dysgu a datblygiad plant yn golygu na all ymarferwyr weithio'n annibynnol ar gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Gellir ystyried mai gwaith tîm yw conglfaen diogelu, llesiant, datblygiad ac addysg. Fodd bynnag, mae datblygu, arwain a gweithio mewn tîm yn broses gymhleth barhaus yn hytrach na digwyddiad syml. Mae'r ymrwymiad i gydweithio mewn cyd-destun amlasiantaethol yn deillio o'r gred na ellir dosbarthu anghenion plant i gategorïau iechyd, cymdeithasol ac addysgol, ac y dylid eu hystyried mewn modd cyfannol.
The term ‘wider’ team includes professionals who may be less closely involved on a day-to-day basis but are needed to collaborate with, as and when appropriate to enhance a school’s provision and meet a child’s individual needs. This could include health visitors, speech and language therapists or educational psychologists.
Mae'r rhan fwyaf o arweinwyr a staff y blynyddoedd cynnar yn gwerthfawrogi bod gwaith tîm yn bwysig i amodau gwaith eu lleoliadau, ac yn deall y gall yr hyn y mae tîm yn ei olygu amrywio. [...] Yn dibynnu ar yr ystyr a roddir i'r cysyniad o dîm, gellir cynnwys rhieni yn y diffiniad ehangach. Beth bynnag fo'i ddiffiniad, hanfod tîm yw bod pob cyfranogwr yn cydweithio'n effeithiol i gyflawni nod cyffredin.
Un o'r agweddau allweddol ar waith tîm yw'r graddau y mae gan bawb sy'n rhan o'r tîm safbwyntiau, gwerthoedd a chredoau a rennir. Os gall aelodau'r tîm gyfleu'r agweddau hyn, maent yn fwy tebygol o ddatblygu dealltwriaeth a rennir a gweithio'n effeithiol fel tîm.
Derbynnir yn gyffredinol fod y syniad o 'nod cyffredin' yn greiddiol i'n dealltwriaeth o waith tîm. Ond beth yw 'nod cyffredin'? Mae Rodd yn awgrymu y gellir diffinio tîm fel a ganlyn:
Grŵp o bobl yn cydweithredu er mwyn gweithio tuag at fodloni set o nodau, amcanion neu ddibenion y cytunwyd arnynt, wrth hefyd ystyried anghenion a buddiannau personol unigolion.
Mae Rodd hefyd yn awgrymu bod y cysyniadau canlynol yn gysylltiedig â thimau:
Deellir yn gyffredin fod gwaith tîm yn ymwneud ag israddio buddiannau unigolion o blaid buddiannau'r grŵp. Mae hyn yn golygu bod angen i anghenion y tîm gael blaenoriaeth dros anghenion unigolion o fewn y tîm er mwyn creu ysbryd tîm. Mae gwaith tîm yn seiliedig ar nifer o werthoedd craidd.
Parch at unigolion | cydnabod urddas a natur unigryw pawb, ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyfleu'r parch hwnnw. |
Hybu llesiant | gweithio er lles pawb a cheisio helpu unigolion i ffynnu. |
Gwirionedd | meddu ar ymrwymiad i addysgu a chroesawu gonestrwydd; bod yn agored i'r hyn sydd gan eraill i'w ddweud; a herio unrhyw achosion o anwiredd. |
Democratiaeth | y gred y dylai pawb gael y cyfle i fanteisio ar hunanlywodraeth neu ymreolaeth; a cheisio cynnig cyfleoedd i bobl fwynhau ac arfer hawliau democrataidd. |
Tegwch a chydraddoldeb | meithrin cydberthnasau a nodweddir gan y canlynol:
|
Nid yw meddu ar werthoedd a chredoau craidd a'u trosi'n ymarfer bob amser mor syml ag y mae'n ymddangos. Gall gweithio fel tîm llwyddiannus fod yn anodd. Mae natur amrywiol lleoliad a'r amrywiaeth o unigolion dan sylw yn golygu nad oes un ffordd benodol o gyflawni gwaith tîm llwyddiannus. Gall cyfyngiadau penodol atal ymarfer y tîm rhag adlewyrchu gwerthoedd a safbwyntiau ei aelodau.
Mae datblygu diwylliant tîm mewn hinsawdd gyfforddus o ofyn cwestiynau, cadarnhau dealltwriaeth, myfyrio a gwerthuso yn hollbwysig er mwyn gwella profiadau addysgol, ac mae gan gyrff llywodraethu rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.
Os yw tîm craidd yn gweithio'n effeithiol tuag at nodau a rennir, bydd y tîm yn gallu uniaethu a rhyngweithio'n haws ag aelodau eraill o'r tîm ehangach neu allanol. Mae'r ymgyrch tuag at waith partneriaeth wedi'i disodli'n raddol gan y syniad mwy hyblyg o waith a gwasanaethau 'integredig' a gwmpesir gan y term 'gwaith amlasiantaethol'.
Mae yna sawl agwedd ar eich rôl fel llywodraethwr. Fodd bynnag, mae gwaith tîm yn sail i waith corff llywodraethu. Bydd pob corff llywodraethu yn manteisio ar brofiadau a sgiliau eu llywodraethwyr unigol mewn ffyrdd gwahanol. Fel y cyfryw, mae pob corff llywodraethu yn unigryw.
Mae Adran 5 yn cynnig cyfle i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn a'r ffordd y gallwch ei gymhwyso at eich gwaith fel llywodraethwr. Drwy eich astudiaethau rydych wedi archwilio rolau timau a gwaith tîm, wedi ystyried arweinyddiaeth ac wedi dysgu am waith 'partneriaeth', sef math o waith tîm a ddefnyddir mewn ysgolion sy'n dod â rhieni, gofalwyr, ymarferwyr ac eraill ynghyd i gefnogi addysg, llesiant a datblygiad plant.
Mae cyrff llywodraethu yn cynnal eu sesiynau datblygu eu hunain. Mae'n bosibl y bydd eich corff llywodraethu wedi cynnal archwiliad sgiliau er mwyn llywio trafodaethau am aelodaeth pwyllgorau a rolau llywodraethwyr arweiniol. Gall archwiliad sgiliau fod yn fan cychwyn da wrth ffurfio tîm effeithiol a galluogi llywodraethwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau presennol, a meithrin rhai newydd.
Treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar waith eich corff llywodraethu. Sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd y corff llywodraethu bob blwyddyn?
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Mae yna ofynion statudol y mae'n rhaid i gorff llywodraethu eu bodloni, gan gynnwys adroddiadau blynyddol a chwrdd â rhieni a gofalwyr (os gofynnir am hynny). Rhoddir canllawiau ar gynnwys adroddiadau o'r fath ond pa weithgareddau eraill rydych yn eu cynnal?
Mae llywodraethu cadarn yn hollbwysig wrth geisio gwella safonau ysgol ac mae nifer o adnoddau y gall corff llywodraethu eu defnyddio wrth gyflawni ei waith.
Mae gwaith tîm yn bwysig wrth lywodraethu. Gall datblygu'r tîm a darparu adnoddau cysondeb fel archwiliadau sgiliau rheolaidd a chwestiynu dulliau gweithredu helpu i roi ffocws i drafodaethau, prosesau cynllunio a gwaith datblygu. Mae Tabl 2 yn cynnwys enghreifftiau o gwestiynau y gallech fod am eu datblygu i'w defnyddio yng nghyfarfodydd eich corff llywodraethu eich hun er mwyn darparu ffocws i drafodaethau, consensws a dealltwriaeth a nodau a rennir. Fel yr ydych wedi'i ddysgu, mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at waith tîm llwyddiannus.
Y sgiliau cywir A oes gennym y sgiliau cywir ar y bwrdd llywodraethu? |
|
Effeithiolrwydd A ydym mor effeithiol ac y gallem fod? |
|
Rôl y Cadeirydd A yw ein Cadeirydd yn dangos arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol? |
|
Strategaeth A oes gan yr ysgol weledigaeth glir a blaenoriaethau strategol? |
|
Ymgysylltu A ydym yn ymgysylltu'n gywir â chymuned ein hysgol, y sector ysgolion ehangach a thu hwnt? |
|
Atebolrwydd y weithrediaeth A ydym yn dwyn arweinwyr yr ysgol i gyfrif? |
|
Effaith A ydym yn cael effaith ar ddeilliannau'r disgyblion? |
|
Fel llywodraethwyr, rydych yn ymwneud â'r gwaith o ystyried ystod eang o ddogfennaeth a data, gan gynnwys perfformiad, cyflawniad a'r gyllideb. Mae'n bosibl y gofynnir i chi ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys materion sydd wedi codi, neu y byddwch yn rhan o waith cynllunio ar gyfer newid. Mae meithrin dealltwriaeth a rennir, pennu nodau cyffredin a manteisio ar arbenigedd a phrofiad llywodraethwyr yn ddefnyddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau a chynllunio ar gyfer newid. Mae Tabl 3 yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer dull cwestiynu sy'n manteisio ar waith tîm a gall helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir a datrysiadau ac amcanion cyffredin.
Nodi'r mater |
|
Dadansoddi |
|
Casgliadau |
Rhowch drosolwg o'r broblem a'i hachosion pwysig a nodwch nodweddion pwysig y broses ddadansoddi. |
Argymhellion |
Nodwch unrhyw dybiaethau a wnaed. |
Manteision, anfanteision a goblygiadau | Ystyriwch y rhain yn ofalus Nodwch sut y gellid mynd i'r afael ag anfanteision neu oblygiadau negyddol gan sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn rhai CAMPUS (penodol, mesuradwy, cyflawnadwy, realistig a chyfyngedig o ran amser) |
Dylech nawr roi cynnig ar y gweithgaredd olaf.
Meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gwnewch nodiadau am y canlynol.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Nid oes yr un ateb cywir i'r gweithgaredd hwn. Bydd eich ymatebion yn unigryw ac yn seiliedig ar eich profiadau a'ch dealltwriaeth eich hun. Mae parodrwydd i ddysgu, addasu a chyfrannu i gyd yn rhan o rôl llywodraethwr. Mae dysgu yn brofiad unigol, ac rydym yn gobeithio eich bod wedi meithrin dealltwriaeth well o waith tîm a'r rôl y mae'n ei chwarae yn eich gwaith fel llywodraethwr drwy astudio'r cwrs hwn. Dylech nawr allu nodi eich dewisiadau eich hun o ran rolau timau ac rydym yn gobeithio y bydd y ddealltwriaeth hon o fudd i'ch gwaith fel llywodraethwr.
Fel llywodraethwr, rydych yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at gymuned eich ysgol ac addysg disgyblion yng Nghymru. Fel llywodraethwr, rydych (Gwasanaethau Governors Cymru, 2019):
Fel llywodraethwyr, mae eich gwaith hefyd yn seiliedig ar ‘7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ (Y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, 1995).
Nawr mae'n amser cwblhau'r cwis bathodyn gorfodol, sy'n cynnwys naw cwestiwn.
Gallwch agor y cwis mewn ffenestr neu dabl newydd a dychwelyd at y cwrs ar ôl i chi ei gwblhau.
Cofiwch, mae'r cwrs yn cyfrif tuag at eich bathodyn. Os na fyddwch yn llwyddiannus y tro cyntaf, gallwch roi cynnig arall ar y cwis ymhen 24 awr.
Archwiliodd y cwrs hwn nifer o feysydd sy'n berthnasol i'ch gwaith fel llywodraethwr ysgol. Ar ôl cwblhau eich astudiaethau, dylech nawr feddu ar ddealltwriaeth well o'r rôl bwysig y mae gwaith tîm yn ei chwarae yng nghymuned yr ysgol a'r modd y gellir defnyddio 'partneriaethau' a gwaith tîm i gefnogi a datblygu addysg disgyblion a chynnig y cyfleoedd gorau iddynt.
Mae gwaith tîm hefyd yn seiliedig ar ymdeimlad o ddiben a nodau cyffredin. Yng nghyd-destun llywodraethwyr, mae hyn yn seiliedig ar ddyheadau a pholisi llywodraethu. Nododd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: 'Cenhadaeth Ein Cenedl yng Nghymru yw codi safonau, gwella cyrhaeddiad pob plentyn a sicrhau bod gennym system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi. (Llywodraeth Cymru, n.d. 2). Fel llywodraethwr, rydych yn chwarae rôl yn y genhadaeth honno ac mae gwaith eich corff llywodraethu yn seiliedig ar waith tîm.
Mae gan lywodraethwyr ysgolion gyfrifoldeb cyffredinol am gynnal yr ysgol ynghyd â chyfrifoldebau penodol am hyrwyddo safonau addysgu uchel a lles disgyblion. Mae hyn oll yn rhan o fframwaith cyfreithiol. Mae bod yn llywodraethwr yn waith gwerth chweil a heriol, ond er mwyn i lywodraethwyr gyflawni eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau'n effeithiol ac yn effeithlon, mae angen canllawiau a chymorth arnynt.
Dylech nawr:
Ysgrifennwyd y cwrs am ddim hwn gan Carol Howells.
Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence.
Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn:
Llun ar y clawr: SolStock/Getty Images; Ffigur 1: Bennett, T. (2017) Creating a Culture: How School Leaders Can Optimise Behaviour, ar gael yn https://www.gov.uk/ government/ publications/ behaviour-in-schools, atgynhyrchwyd o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored, www.nationalarchives.gov.uk/ doc/ open-government-licence; Ffigur 2: Llywodraeth Cymru, ar gael ar-lein yn https://llyw.cymru/ llywodraethiant-ysgolion, atgynhyrchwyd o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored (http://www.nationalarchives.gov.uk/ doc/ open-government-licence/ version/ 3/); Adran 2.2.1: arwydd ysgol, Tim Scrivener/Llun Stoc Alamy; Adran 2.2.2: athro a phlant mewn ystafell ddosbarth, Gregg Vignal/Llun Stoc Alamy; Ffigur 4: cymerwyd o http://www.plantyngnghymru.org.uk/; Ffigurau 5 a 6: Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, Llywodraeth Cymru; Adran 3.3, herio rhieni a gofalwyr: SDI Productions/Getty Images; Adran 3.4: strwythurau teuluol, addaswyd o Tassoni, P. (2000) Certificate Child Care and Education (Ail argraffiad), Rhydychen: Heinemann; Adran 4.1: pwysigrwydd arweinyddiaeth, Edgars Sermulis/Llun Stoc Alamy; Ffigur 12: Rawpixel Ltd/Llun Stoc Alamy; Adran 4.3: gwerthoedd a chredoau yng nghyd-destun gwaith tîm, Rawpixel Ltd/Llun Stoc Alamy.
Tabl 2, addaswyd o erthygl gan Gymdeithas Genedlaethol Llywodraethwyr (2015) ‘Key questions every governing board should ask itself’ (ail argraffiad), ar gael yn https://www.nga.org.uk/ getmedia/ 028dfea6-8313-4339-96ed-fa61e0769fe4/ Twenty-questions-second-edition-2015.pdf.
Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.