Gwaith Tîm

Cyflwyniad

Mae llywodraethwyr ysgol yn chwarae rôl hanfodol yn system addysg Cymru fel rhan o dîm ehangach sy’n gweithio tuag at yr un nod: sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael addysg ardderchog.

Cyfeillion beirniadol a phartneriaid ysgol yw llywodraethwyr ysgol, i bob diben. Mae eu gwaith eang yn cynnwys meysydd fel strategaeth, polisi, cyllidebu, cyflawniad, diogelu, llesiant a staffio. Er y gall pob corff llywodraethu amrywio, mae gan bob un ohonynt gyfres o gyfrifoldebau a nodau penodol. Drwy gydol y cwrs hwn, mae ‘llywodraethwr ysgol’ wedi’i gwtogi i ‘llywodraethwr’.

Mae pwerau a dyletswyddau'r corff llywodraethu yn cynnwys (Llywodraeth Cymru, 2013):

  • darparu safbwynt strategol – gosod y fframwaith y mae'r pennaeth a'r staff yn ei ddilyn wrth redeg yr ysgol; pennu nodau ac amcanion; cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn; monitro a gwerthuso
  • bod yn gyfaill beirniadol – darparu cymorth a her i'r pennaeth a'r staff, gan geisio gwybodaeth ac eglurder
  • sicrhau atebolrwydd – egluro penderfyniadau a chamau gweithredu'r corff llywodraethu i unrhyw un sydd â diddordeb dilys

Mae yna nifer o agweddau ar rôl llywodraethwr, ac mae gan bob llywodraethwr ystod eang o sgiliau, profiad a gwybodaeth i'w cynnig i'r rôl. Mae gwaith eich corff llywodraethu yn defnyddio'r ystod eang honno o sgiliau a phrofiad. Mae ysgolion ac addysg plant yng Nghymru yn elwa'n fawr ar waith llywodraethwyr, sydd, i bob diben, yn wirfoddolwyr medrus di-dâl.

Mae llywodraethwyr yn cydweithio â'i gilydd, gyda staff yr ysgol, rhieni a gofalwyr, disgyblion, y gymuned leol, yr awdurdod lleol, y consortia rhanbarthol â'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu addysg yng Nghymru. Felly, mae gwaith tîm yn rhan hollbwysig o'r gwaith o ddatblygu a chynnal corff llywodraethu llwyddiannus. Mae'r cwrs hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau chi eich hun o weithio mewn tîm, ystyried enghreifftiau o waith tîm mewn ysgolion, a myfyrio ar arweinyddiaeth a pherthnasedd gwaith tîm i'ch profiad chi eich hun fel llywodraethwr.