- Cynnwys strwythuredig
Mae
parchu hunaniaeth pob person yn un o werthoedd canolog gwaith
cymdeithasol ond, fel y mae'r term yn awgrymu, mae gwaith cymdeithasol
yn golygu mwy na safbwyntiau unigol: mae hefyd yn digwydd o fewn
cyd-destun cymdeithasol. Mae cymdeithas, demograffi, daearyddiaeth,
deddfwriaeth genedlaethol, polisi cenedlaethol ac iaith oll yn chwarae
rhan bwysig, ym mywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac ymarfer
gweithwyr cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bwysigrwydd
cydnabod bod ymarfer gwaith cymdeithasol yn digwydd mewn cyd-destun. Yn
benodol, byddwch yn dysgu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwaith
cymdeithasol yng Nghymru - yn y cyd-destun Cymreig.