Mae'r
cwrs am ddim hwn yn edrych ar y Gymru gyfoes mewn ffordd fywiog a
hygyrch drwy ganolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol. Mae'n cyflwyno
agweddau allweddol ar economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant
Cymru, gan ddarparu cyfoeth o dystiolaeth ddiweddar sydd wedi'i threfnu
ar sail cysyniadau a damcaniaethau craidd ym maes y gwyddorau
cymdeithasol, er mwyn eich helpu i wneud synnwyr o wlad sy'n newid.