- Cynnwys strwythuredig
Y
'pos mwyaf a phwysicaf' rydym yn ei wynebu fel pobl yw ni ein hunain
(Boring, 1950, tud. 56). Mae pobl yn bos - yn bos cymhleth, cynnil ac
amlhaenog, a daw'n fwy cymhleth fyth wrth i ni esblygu dros amser a
newid o fewn cyd-destunau gwahanol.
Wrth ateb y cwestiwn 'Beth sy'n ein gwneud ni yn pwy ydym ni?', mae
seicolegwyr yn cyflwyno amrywiaeth o esboniadau pam bod pobl yn teimlo,
yn meddwl ac yn ymddwyn fel ag y maent. Pan fydd yn ymddangos bod
seicolegwyr yn deall un rhan o 'pwy ydym ni', daw tystiolaeth newydd i
ddangos ochr wahanol i'r amlwg! Nid yw'n hawdd nodi'r holl ddylanwadau.