- Cynnwys strwythuredig
Cyffredinol
© FreshPaint/Bigstock
Mae Cynllunio dyfodol gwell yn gwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried newid swydd, sydd eisiau gwybod sut i symud i fyny'r ysgol neu ddychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant, a rhai sy’n awyddus i anelu at bethau gwell.
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim ac mae croeso ichi ei astudio heb gofrestru. Fodd bynnag, mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ennill bathodyn digidol fel cydnabyddiaeth o'ch dysgu. I gasglu eich bathodyn, bydd angen ichi gofrestru. Os oes gennych gyfrif Prifysgol Agored eisoes, bydd angen ichi fewngofnodi cyn cofrestru. Fel arall, mae'n hawdd creu un. Wedi ichi fewngofnodi, dewch yn ôl i'r dudalen hon a chlicio ar y botwm 'Cofrestru' uchod.