Sut mae’r cwrs hwn yn cael ei drefnu

Bydd meddwl am hwn fel cwrs am sut mae haneswyr, o Gymru a thu hwnt, yn cofnodi hanes yn dod yn gliriach os byddwch yn deall rhywbeth am strwythur y deunydd a sut y caiff ei drefnu.

Mae'n cynnwys wyth uned (heb gynnwys y cyflwyniad a'r llyfryddiaeth). Mae pob un o'r unedau hyn yn cynnwys rhagair, traethawd a chasgliad o ffynonellau. Cafodd y rhagair ei ysgrifennu gan aelod o dîm Small country, big history, mae'r traethawd wedi cael ei ysgrifennu gan hanesydd arall o Gymru, a'r ffynonellau yw’r rhai y mae'r hanesydd yn cyfeirio atyn nhw yn y traethawd.

Mae'r haneswyr a ysgrifennodd y traethodau i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd. Fodd bynnag, y nodwedd wirioneddol nodedig yma yw bod y traethodau wedi eu cyflwyno gyda'r ffynonellau (neu o leiaf, darnau o'r ffynonellau allweddol) a ddarparodd y dystiolaeth a ddefnyddiodd yr awduron hyn fel sail i’w dehongliadau a’u casgliadau. Mae'r pwyslais yn cael ei roi’n gadarn ar adnabod, dehongli a chydnabod ffynonellau yn briodol fel sail dull yr hanesydd.

Mae'r deunydd a ddarperir yn y cwrs hwn yn dod o brosiect llawer mwy o'r enw Welsh History and its Sources. Rydym wedi dewis wyth set o ddeunyddiau, pob un yn cynnwys uned yn y cwrs hwn.

Mae Uned 1, 'Mytholeg a thraddodiad yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg', yn ymdrin â chyfnod ac agwedd ar hanes Cymru lle dechreuodd rhai syniadau allweddol am hunaniaeth a hanes Cymru wreiddio, ac wrth wneud hynny mae’n codi rhai materion sylfaenol am sut y defnyddir ac y dehonglir ffynonellau. Mae Gareth Elwyn Jones yn cyflwyno traethawd gan R. Paul Evans ar 'Mytholeg a thraddodiad', lle mae Evans yn trafod gwaith ysgolheigion o Gymru o'r ddeunawfed ganrif a geisiodd gofnodi, cadw a hyrwyddo hunaniaeth Gymreig a hanes Cymru. Fe wnaethon nhw hyn drwy astudio’r Gymraeg a llenyddiaeth, casglu hen lawysgrifau Cymru, ffurfio cymdeithasau a llunio cyhoeddiadau ar gyfer ysgolheigion a selogion o’r un anian - ac weithiau hefyd drwy ddyfeisio rhai 'traddodiadau hynafol' sydd wedi dod yn rhan o’r syniad o Gymreictod a gaiff ei dderbyn yn eang.

Yn Uned 2, 'diwylliant poblogaidd yng Nghymru ar ôl y rhyfel (1945-1995)', mae Gareth Elwyn Jones yn cyflwyno traethawd Peter Stead ar 'ddiwylliant poblogaidd'. Mae Stead yn edrych ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd at y cyfnod pan gyhoeddwyd y traethawd yn wreiddiol, gan drafod pynciau fel chwaraeon, cerddoriaeth boblogaidd, yr eisteddfod, ffilmiau ac effaith y mudiad iaith. Daw i'r casgliad drwy ofyn – yn rhagweledol, yng ngoleuni’r refferendwm ar ddatganoli a ddilynodd yn 1997 - a allai diwylliant poblogaidd bywiog Cymru yn y 1990au gynnig sail ar gyfer diwylliant gwleidyddol mwy hyderus ac annibynnol.

Mae Uned 3, 'Protest boblogaidd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: terfysgoedd Beca', yn canolbwyntio ar wrthryfel penodol a ddigwyddodd yng nghymunedau amaethyddol gorllewin Cymru yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Chris Williams wedi ysgrifennu rhagair i draethawd David Howell, 'Terfysgoedd Beca', lle mae Howell yn archwilio tarddiad a chymhelliant y terfysgoedd, ynghyd â’u cymeriad diwylliannol penodol iawn.

Mae Uned 4 yn rhoi sylw i 'Grefydd a chred yng Nghymru'r Tuduriaid', ac yma mae Matthew Griffiths yn cyflwyno traethawd gan Glanmor Williams, lle mae Williams yn trafod effaith y newidiadau crefyddol mawr a ddaeth yn sgil y Diwygiad Protestannaidd a'r Gwrth-Ddiwygiad ar y lleiafrif dysgedig a'r mwyafrif anllythrennog yng Nghymru. Er mai yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd dinistrio arferion crefyddol, beddrodau, mynachlogydd ac yn wir bywydau yn enw crefydd, tua diwedd y cyfnod hwn hefyd oedd y cyfnod y gwnaeth pobl Cymru ddechrau cael mynediad am y tro cyntaf at y Beibl ac at addoli cyhoeddus nad oedd yn Lladin nac yn Saesneg, ond yn eu hiaith eu hunain.

Yn Uned 5, 'Mudo yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif’, mae Bill Jones yn cyflwyno traethawd John Williams ar 'Symud oddi ar y tir', lle mae Williams yn edrych ar symudiad y llafurlu yng Nghymru o gefn gwlad a’r byd amaeth at drefi a diwydiant. Mae Williams yn trafod effaith y symudiad hwn ar gymdeithas Cymru – rhywbeth sy’n arbennig o ddiddorol yw'r ddadl y mae’n tynnu sylw ati ynghylch ei gred fod 'symud oddi ar y tir' yn ffactor pwysig yng ngoroesiad y Gymraeg, yn hytrach na ffordd o’i thanseilio.

Uned 6 yw 'Bywydau Merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd'. Mae sylw’r uned hon ar draethawd lle mae Deirdre Beddoe yn edrych ar brofiad merched dosbarth gweithiol Cymru yn y 1920au a'r 1930au - y galwedigaethau cyfyngedig oedd ar gael iddyn nhw, eu bywydau fel gwragedd a mamau, a'r ymgyrchoedd cymdeithasol a gwleidyddol y gwnaethon nhw gymryd rhan ynddyn nhw. Mae Beddoe yn arbennig o amheus am y ddelwedd boblogaidd o’r 'Fam Gymreig', ac mae’n cwestiynu realiti'r awdurdod mamol y mae’n ei awgrymu.

Mae Uned 7, ' Edward I a goresgyniad Cymru yn yr Oesoedd Canol', yn unigryw yn y cwrs o ran dwyn ynghyd dau draethawd, 'Edward I a Chymru' gan Rees Davies, ac 'Y Goron a chymunedau: cydweithio a gwrthdaro' gan A.D. Carr. Drwy baru’r traethodau hyn, mae Matthew Griffiths, sydd wedi ysgrifennu'r rhagair, yn dangos safbwyntiau cyferbyniol ar y 'goncwest' Edwardaidd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol – tra bod Davies yn pwysleisio concwest a choloneiddio Cymru gan bŵer o dramor, mae Carr yn gweld llawer mwy o barhad yn y gymdeithas yng Nghymru, a pharodrwydd sylweddol i weithio ar y cyd â'r Saeson. Mae'r uned hon yn cynnig arddangosiad byw o sut mae dau hanesydd, sy’n gweithio yn yr un maes ac yn tynnu ar yr un corff sylfaenol o ffeithiau a ffynonellau, yn cyrraedd dehongliadau gwahanol iawn, ond yr un mor gadarn a dilys.

Yn Uned 8, 'David Lloyd George a thynged Cymru', mae Chris Williams yn cyflwyno traethawd lle mae Kenneth O. Morgan yn ystyried David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain Fawr rhwng 1916 a 1922, ac i ba raddau y llywiodd ei Gymreictod ei wleidyddiaeth a’i benderfyniadau. Mae'r traethawd yn edrych yn bennaf ar ymwneud Lloyd George â materion Cymreig hyd at 1914, ac erbyn hynny yr oedd yn ddi-os, fel y dywed Morgan, 'yn Gymro enwocaf y cyfnod'. Y mae hefyd yn ystyried y newid yn ei berthynas â Chymru a materion Cymreig wrth i’w yrfa yn ehangach yng ngwleidyddiaeth Prydain (ac yna’n rhyngwladol) fagu stêm.