Sut i astudio’r cwrs hwn
Yn gyntaf, rhai pethau ymarferol:
- Nid yw’r unedau yn dilyn trefn gronolegol. Gwneir hyn i atgyfnerthu'r syniad mai cyfres o astudiaethau sydd dan sylw yn hytrach na hanes cronolegol o Gymru.
Ym mhob traethawd, mae'r paragraffau wedi eu rhifo gan ddefnyddio'r rhif uned ac yna atalnod llawn a rhif y paragraff – felly'r paragraff cyntaf yn Uned 1 yw 1.1, yr ail yw 1.2, ac yn y blaen. Gwneir hyn i gynnig modd i ddefnyddwyr (fel athrawon) adnabod rhannau penodol o'r testun yn hawdd.
I alluogi croesgyfeirio rhwydd rhwng y traethodau a'r ffynonellau sy'n berthnasol iddyn nhw, mae’r ffynonellau wedi eu rhifo gan ddefnyddio rhif yr uned a llythrennau'r wyddor – felly’r ffynhonnell gyntaf yn Uned 2 yw 2A, 2B yw’r ail, ac yn y blaen. Mae pob cyfeiriad ffynhonnell yn cael ei ddangos fel cyswllt hyperdestun wedi’i fewnosod mewn lle priodol yn y traethawd. Cliciwch ar y ddolen i fynd at y ffynhonnell
Mae’r llyfryddiaeth ar gyfer cwrs hwn yn eang, yn ymgorffori llyfryddiaethau o lyfrau gwreiddiol 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau', gyda chyfeiriadau a darllen pellach gan awduron y rhagymadroddion, yn ogystal â rhai darnau allweddol ychwanegol o fyd ysgolheigaidd hanes Cymru sydd wedi cael eu cyhoeddi ers i’r gyfres wreiddiol gael ei chwblhau. Bydd yn eich galluogi i ddilyn y cyfeiriadau o'r unedau a phori’n ehangach ymhlith ysgrifau haneswyr Cymru.
Mae'r prosiect Welsh history and its sources wedi cael ei ymestyn ymhellach drwy greu gwefan Welsh history and its sources [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n cael ei chynnal gan uned OpenLearn y Brifysgol Agored ac sydd ar gael yn llawn i bawb (nid dim ond myfyrwyr y Brifysgol Agored). Mae'n darparu rhagor o draethodau o lyfrau 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau’, llinell amser fanwl iawn o hanes Cymru a geirfa helaeth lle byddwch yn dod o hyd i esboniadau byr o lawer o'r termau, a disgrifiadau o lawer o'r bobl a’r digwyddiadau y ceir cyfeiriad atyn nhw yn y cwrs hwn. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau eraill a dolenni, a allai fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb – ar unrhyw lefel – yn hanes Cymru.
Sut mae’r cwrs hwn yn cael ei drefnu