Mytholeg a thraddodiad (R. Paul Evans)
Para 1.1
Un o nodweddion amlycaf Cymru’r ddeunawfed ganrif oedd cyfres o newidiadau a drawsnewidiodd holl ffabrig bywyd a chymdeithas draddodiadol Cymru. Fe wnaeth cyflymder cynyddol y newid a ddeilliodd o chwyldroadau amaethyddol a diwydiannol, a diwygiadau crefyddol ac addysgol y cyfnod, annog deffroad diwylliannol, neu ddadeni. Fe wnaeth dadfeiliad graddol ffordd hynafol ac arferol o fyw drwy gydol y ganrif ysgogi ysgolheigion Cymru i fentro am un tro olaf i adfer ac adfywio cymaint â phosibl o'u hanes hynafol, eu hiaith, eu llenyddiaeth a’u diwylliant cyn i’r cyfan ddiflannu am byth. Gwelir yr ymdeimlad hwn o frys i gael cofnod parhaol o ddiwylliant a oedd ar fin diflannu yn rhagair golygyddol Dr William Owen Pughe i gyfrol gyntaf The Cambrian Register 1796 (1A [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Er bod Cymru yn meddu ar drysor helaeth o draddodiad llenyddol a llafar, roedd Pughe o’r farn mai’r mymryn lleiaf oedd wedi'i gofnodi ar gyfer y dyfodol, a’r gwaith hwn o adfer chwedlau hynafol oedd y dasg fwyaf enbyd yr oedd ysgolheigion Cymru yn ei hwynebu erbyn hynny.
Rhagair (Gareth Elwyn Jones)