Para 1.2
Yn ei ddadansoddiad o'r dadeni diwylliannol hwn, mae’r hanesydd Prys Morgan wedi dangos bod yr hyn a ddechreuodd yn negawdau canol y ganrif fel ymgais ysgolheigaidd a threfnus i adfer traddodiad y gorffennol, yn gynyddol wedi magu arlliw o ffantasi, a hyd yn oed elfennau o ffugio mewn rhai achosion, a arweiniodd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg at ddyfeisio traddodiad yn fwriadol. Mae'r duedd hon at y dychmygus a’r creadigol i’w gweld yn amlwg ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig mewn cymhariaeth rhwng gweithiau printiedig y Parchedig Evan Evans, 'Ieuan Fardd', ac Edward Williams, 'Iolo Morganwg'. Yn 1758 ysgrifennodd Lewis Morris, yr hynaf o bedwar brawd y Morisiaid o Fôn, yn llawn cyffro at ei gyfaill Edward Richard o Ystrad Meurig i roi gwybod iddo fod ei noddid, Evan Evans, newydd ailddarganfod darn o farddoniaeth Aneirin o’r chweched ganrif mewn hen lawysgrifau (1B [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). I Lewis Morris, roedd hwn yn ddarganfyddiad mor fawr ym myd llenyddol Cymru ag yr oedd darganfod America gan Columbus, gan ei fod yn profi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod gan Gymru ei thraddodiad hanesyddol unigryw ei hun, y gellid ei olrhain yn ôl drwy genedlaethau. Yn 1764 cyhoeddodd Evans ffrwyth ei ymchwil yn Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, a oedd yn arolwg ysgolheigaidd o farddoniaeth Gymraeg o'r chweched ganrif i'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn 1773, parhaodd sgweier llenyddol y Blaenau, Rice Jones, â’r broses hon o adfer drwy gyhoeddi ei gyfrol Gorchestion Beirdd Cymru, a oedd yn cynnwys detholiad o weithiau barddonol Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen.
Mytholeg a thraddodiad (R. Paul Evans)