Para 1.8

Gwelwyd adfywiad yn ystod y ddeunawfed ganrif yn y diddordeb mewn llên farddol a derwyddol hynafol, ac fe wnaeth hyn helpu i greu awyrgylch lle’r oedd Gorsedd Iolo yn ymddangos yn eithaf credadwy a derbyniol. Yn dilyn esgyniad y Tuduriaid yn 1485 collodd Cymru ei thraddodiad hanesyddol unigryw ei hunan, a gafodd ei hamsugno i hanes llinachol Prydain. Nid tan 1707 y darparodd yr ieithegwr Edward Llwyd weledigaeth newydd ac eithaf annibynnol i’r Cymry ar eu gorffennol, pan brofodd fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i Gernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg, ac y gellid olrhain y cyfan ohonynt yn ôl i hynafiad cyffredin a alwodd yn 'Gelteg'. Fe wnaeth y syniadau a gyflwynwyd gan Llwyd a chan yr abad o Lydaw, Paul-Yves Pezron, weithredu fel catalydd i ysgogi diddordeb yn y traddodiad Celtaidd, yn enwedig i weithgareddau’r Derwyddon, yr offeiriaid crefyddol Celtaidd. Cafodd cyfraniad Llwyd a Pezron ei gydnabod gan y Parchedig Henry Rowlands o Lanidan (1I [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ), a gafodd ei alw'n 'Stukeley Cymru' am ei waith arloesol yn adfer delwedd urdd y derwyddon. Yn 1723 cyhoeddodd Rowlands ei Mona Antiqua Restaurata, lle ceisiodd ddangos mai Ynys Môn oedd canolbwynt yr urdd dderwyddol (1J). Seiliodd ei ragdybiaethau ar ddehongliadau crai o enwau lleoedd fel Tre'r Dryw, a gyfieithodd heb argyhoeddi fel ‘Tref y Derwyddon', ac ar weddillion archeolegol henebion cerrig megalithig yr oedd yn credu eu bod yn olion allorau a themlau derwyddon. Gwnaeth lawer i boblogeiddio delwedd yr offeiriad derwyddol hynafol, ac fe wnaeth ei waith helpu i brysuro cyfnod o 'ffoli ar dderwyddon' tua diwedd y ddeunawfed ganrif.