Uned 2 Diwylliant poblogaidd yng Nghymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd (1945–1995)
Rhagair (Gareth Elwyn Jones)
Mae 'Diwylliant poblogaidd' gan Peter Stead yn draethawd a gomisiynwyd ar gyfer y gyfrol yng nghyfres 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau' a oedd yn ystyried agweddau ar hanes Cymru yn y cyfnod rhwng 1945 a chanol y 1990au. Pe bai'r llyfr wedi ei gynllunio dau ddegawd yn gynharach, mae'n annhebygol y byddai thema diwylliant poblogaidd wedi cael ei chynnwys. Yn wahanol i hanes gwleidyddol neu economaidd, ni fyddai wedi cael ei hystyried yn ddigon arwyddocaol. Byddai diwylliant poblogaidd, yn enwedig agweddau fel chwaraeon a cherddoriaeth boblogaidd, wedi cael eu cynnwys mewn triniaeth ehangach o gymdeithas Cymru, pe bydden nhw wedi cael eu crybwyll o gwbl mewn gwirionedd. Roedd hanes o'r fath, lle’r oedd i’w gael, yn tueddu i fod yn faes i haneswyr a newyddiadurwyr amatur a ysgrifennai, er enghraifft, hanes clybiau criced unigol neu deithiau rygbi, fel cofnod ardderchog y gohebydd chwaraeon J.B.G. Thomas o daith tîm rygbi Llewod Prydain i Dde Affrica, The Lions on Trek (1956).
Bu newid yn y sefyllfa yn sgil cyhoeddi Fields of Praise gan Dai Smith a Gareth Williams (1980), hanes swyddogol Undeb Rygbi Cymru. Rhoddodd dau o haneswyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru hanes y gêm yn ei gyd-destun cymdeithasol ac economaidd i gynhyrchu gwaith arloesol ar hanes cymdeithasol. Ers hynny, mae diwylliant poblogaidd Cymru, ei chwaraeon, ei cherddoriaeth, ei ffilmiau, ei llenyddiaeth a'i chyfryngau, wedi denu sylw haneswyr academaidd fel na fyddai unrhyw un yn awr yn gwadu bod y pwnc hwn yn ganolog i hanes cymdeithasol Cymru. Mae haneswyr mewn prifysgolion ledled Cymru erbyn hyn yn arbenigo ar hanes chwaraeon a cherddoriaeth gymunedol yn ei gyd-destun cymdeithasol.
Mae Peter Stead wedi chwarae rhan bwysig o ran codi proffil agweddau ar ddiwylliant poblogaidd fel pynciau sy’n deilwng o astudiaeth gan haneswyr o bwys. Mae'n hanesydd academaidd, a oedd yn gweithio yn adran hanes Prifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach a ddaeth yn athro allanol ym Mhrifysgol Morgannwg. Y mae yn y sefyllfa ffodus o allu cyfuno ei ddiddordebau proffesiynol fel hanesydd gyda’i ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, ffilm a theatr. Mae'n cyfrannu’n rheolaidd ar y pynciau hyn ar y radio a’r teledu.
Y mae wedi ysgrifennu neu olygu llyfrau ar y cyd ar bwnc ffilmiau, gan gynnwys Richard Burton: So Much, So Little (1995), a cherddoriaeth, gan gynnwys Hymns and Arias: Great Welsh Voices (Herbert and Stead, 2001). Gan adlewyrchu ei ddiddordeb brwd ei hunan mewn chwaraeon, mae ei gyhoeddiadau wedi ymdrin â rygbi, pêl-droed a bocswyr enwog o Gymru. Ond ei ddull, yn ogystal â'r pwnc, sy'n arwyddocaol. Nid yw'n rhoi arolygon yn unig o ffilmiau o Gymru neu yrfaoedd enwogion chwaraeon Cymru i ni. Yn Acting Wales: Stars of Stage and Screen (2002), er enghraifft, mae Stead yn ymdrin â chymdeithaseg actio Cymru, gan werthuso’r ffordd y mae agweddau a nodweddion unigryw gymreig mawrion fel Stanley Baker, Anthony Hopkins a Siân Phillips wedi cael eu hadlewyrchu yn eu gwaith. Mae dull o'r fath wedi cyfoethogi hanesyddiaeth diwylliant poblogaidd yn fawr iawn.
Serch hynny, waeth pa mor enwog yw Stead yn ei faes, nid ef sy’n cael y gair olaf ar hanes diwylliannol y cyfnod. Byddai haneswyr eraill bron yn sicr yn rhoi pwyslais ar bethau gwahanol ac yn cyfeirio at ddiddordebau gwahanol. Er enghraifft, er bod Stead yn crwydro’n eang yn ei draethawd dros sawl agwedd ar ddiwylliant poblogaidd, efallai y gellid dadlau nad yw'n delio â rhai themâu, neu ei fod yn rhoi gormod o bwyslais ar rai agweddau ar ddiwylliant poblogaidd yn lle rhai eraill. Mae'n werth cadw mewn cof hefyd nad yw'n siarad Cymraeg, a’i fod wedi byw yn ne Cymru ar hyd ei oes. Gan hynny, efallai na fydd ei draethawd yn tynnu sylw digonol at y ddeuoliaeth y gellid dadlau sy'n bodoli rhwng diddordebau diwylliannol mewn ardaloedd Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru ac ardaloedd trefol, er enghraifft.
Un o nodweddion unigryw'r traethawd hwn - a gellir ei weld naill ai fel cryfder neu fel gwendid - yw bod Stead wedi byw trwy gydol y cyfnod y mae'n ysgrifennu amdano, ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o rai o'r digwyddiadau y mae’n sôn amdanynt. Fel pob ffynhonnell, mae ei atgofion yn amhrisiadwy gan eu bod yn cynnig golwg unigryw - nid yn gymaint ar y ffeithiau, ond ar y profiad, yr awyrgylch a’r ymdeimlad o gyffro yn rhai o'r digwyddiadau y mae ef yn eu disgrifio. Ar yr un pryd, gall cof fod yn ffaeledig, a dylid gosod atgofion Stead ochr yn ochr â rhai ei gyfoeswyr.