Para 2.8

Yr hyn a oedd wedi gwarantu a chynnal diwylliant traddodiadol yng Nghymru yn bennaf oedd deinameg cymuned a'r duedd i ragoriaeth a llwyddiant gronni yn y gymuned honno (2E [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).Yn sicr, nid oedd unigolion dan orfodaeth i wneud dewisiadau pendant, ond yr hyn sy’n taro’r hanesydd yw'r ffordd roedd gweithgareddau cerddorol a gweithgareddau Cymraeg uchaf eu parch yn gysylltiedig ag Anghydffurfiaeth gynhenid. Yn y cyfamser, roedd y rhan fwyaf o adloniant seciwlar yn cael ei drefnu gan entrepreneuriaid, ac yn adlewyrchu chwaeth a gwerthoedd Lloegr, a rhai Americanaidd hyd yn oed yn fwy. Am sawl degawd, roedd dwy asiantaeth wahanol iawn wedi trefnu gweithgareddau gwirioneddol boblogaidd a boddhaol, ond roedd strwythur trefniadaeth a rhannu cyfrifoldeb wedi cyfyngu ar yr amrywiaeth o ddewisiadau ac wedi ffurfio ffiniau artiffisial. Roedd yr asiantaethau hynny’n newid, ond nid mor gyflym â’r gymdeithas ei hun. Yng Nghymru yn y 1950au roedd egni newydd wedi datblygu, yn y lle cyntaf i herio a cythruddo’r consensws diwylliannol presennol, ac yna, yn y degawdau dilynol, er mwyn creu gollyngiad newydd lle’r oedd hen wahaniaethau yn pylu wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg.