Para 3.4
Daw yn amlwg hefyd bod Merched Beca yn pryderu am y rhenti uchel a dalwyd gan ffermwyr i'w landlordiaid, ac mae'n debygol na fyddai'r terfysgoedd wedi digwydd pe bai’r landlordiaid wedi eu gostwng. Erbyn canol Gorffennaf 1843 roedd protest ar ffurf llythyrau bygythiol yn lledaenu o dollau i renti. Rhybuddiwyd y landlordiaid i wneud gostyngiadau. Yn ogystal, yn ystod haf 1843 cynhaliwyd cyfarfodydd mawr yn mynnu y dylai rhenti gael eu gostwng gan o leiaf un rhan o dair (3C) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac yng nghanol Medi roedd Beca yn annog ffermwyr ym mhlwyf Penboyr a phlwyfi cyfagos i ddeisebu eu landlordiaid, ar y cyd yn arwyddocaol, i leihau eu rhenti. Er yr holl ddeisebu a bygythiadau o roi llefydd ar dân ac anafiadau personol i landlordiaid (3D), asiantau a beilïaid, ni chafwyd llwyddiannau mawr yn wyneb cystadleuaeth ffermwyr am ddaliadau a mympwy landlordiaid. O ddiwedd Awst ymlaen, roedd ffermwyr yn galw am reoleiddio rhenti drwy ryw fath o asesiad annibynnol, a thrwy hynny roedd yn gam cynamserol i’r grochlef tua diwedd y ganrif am lys tir yng Nghymru i sefydlu rhenti teg a sefydlogrwydd daliadaeth.