Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Friday, 2 June 2023, 3:54 AM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2023 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Friday, 2 June 2023, 3:54 AM

Uned 4 Crefydd a chred yng Nghymru’r Tuduriaid

Rhagair (Matthew Griffiths)

Daw traethawd Glanmor Williams, 'Crefydd a chred', o'r gyfrol Tudor Wales, a gyhoeddwyd fel rhan o gyfres ‘Welsh History and its Sources’ yn 1988. Roedd traethodau eraill yn y testun yn rhoi sylw i wleidyddiaeth, cymdeithas ac economi. Williams oedd y dewis amlwg i ysgrifennu am grefydd a chred boblogaidd. Pan ysgrifennodd y traethawd hwn roedd wedi sicrhau ei enw da ers tro byd fel myfyriwr blaenllaw'r eglwys yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid. Bu farw Williams yn 2006, gyda'r enw da wedi ei selio yn ei gyfrol Wales and the Reformation (1997). Roedd natur ac effaith y Diwygiad ar Gymru yn fater o ddadlau hanesyddol ar fyrder ar un adeg, dan anfantais y problemau a ddaw yn sgil ffynonellau, a oedd yn nodi tuedd safbwynt ei haneswyr - tuag at y Catholigion neu’r Protestaniaid. Fe wnaeth Williams, er dan ddylanwad y capel heb os, ddod â sobrwydd mawr calonogol i'r pwnc.

Yn wir, disgrifiodd yn ei hunangofiant yn 2002 sut y daeth, drwy ei waith cynnar ar yr Esgob Richard Davies, i gydnabod y duedd sy'n gynhenid yn y cyfrifon Anglicanaidd, anghydffurfiol a Chatholig o’r Diwygiad.

I was coming increasingly to conceive of it as a debate about the reform of religion between two sets of enthusiasts, who differed widely amongst themselves and who, in spite of the fierce controversies between them and their antagonists, had much in common.

Roedd yn anelu i fod yn wrthrychol er ei argyhoeddiad fel Bedyddiwr (roedd yn ddiacon yng Nghapel Gomer, Abertawe) a’i ddiddordeb cynnar yn y weinidogaeth. Wedi ei eni yn fab i löwr yn Nowlais, Merthyr Tudful, yn 1920, dechreuodd ddysgu yn Abertawe yn 1945, ac ef oedd yr Athro yno o 1957 nes iddo ymddeol yn 1982. Yn 1975 daeth yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.

Er mai ei brif ddiddordeb oedd y Diwygiad Protestannaidd a'i brif gymeriadau yng Nghymru, a bod hynny wedi para trwy gydol ei fywyd, mae ei waith cyhoeddedig yn gosod hyn mewn cyd-destun llawer ehangach, fel y daeth yn gymaint o hanesydd diwylliant a chred yng Nghymru'r Oesoedd Canol ag yr oedd yn gyfranogwr ym maes gorlawn astudiaethau am y Diwygiad Protestannaidd.

Roedd Wales and the Reformation yn un o dri llyfr mawr ei yrfa. Cafodd ei ragflaenu gan y gyfrol enfawr The Welsh Church from Conquest to Reformation (1962), a chan Recovery Reorientation and Reformation: Wales 1415-1642 (1987, ailgyhoeddwyd wedyn dan y teitl Renewal and Reformation: Wales, c 1415-1642). Gwaith nodedig arall yw Welsh Reformation Essays (1967). Mae cysylltiad agos rhwng hyn a’i waith ar ddyneiddiaeth y Dadeni yng Nghymru a'r cyd-destun Celtaidd ehangach, gyda pheth ohono wedi’i gyhoeddi yn y Gymraeg. Trefnodd gynhadledd bwysig o astudiaethau Celtaidd yn Abertawe yn 1987 a gymerodd y Dadeni fel ei thema. Cyhoeddwyd y trafodion yn Glanmor Williams ac R.O. Jones (goln.) The Celts and the Renaissance: Tradition and Innovation (1990).

Trwy ei ymchwil a’i gyhoeddiadau a thrwy waith cenhadol ehangach, yr oedd yn un o haneswyr cenhedlaeth fawr a honnodd, ynghyd â'u myfyrwyr a’u protégés (yn achos Williams, Rees Davies oedd un o'r rhai mwyaf nodedig), bod hanes y Cymry yn unigryw ac yn bwysig, ac a roddodd iddo, hyd yn oed am gyfnod byr, le yn haul academaidd y colegau prifysgol yng Nghymru. Ar farwolaeth Williams, disgrifiodd Meic Stephens (2005) ef yn gywir fel hanesydd digyffelyb Cymru, y mwyaf toreithiog ac awdurdodol, ac arweinydd adfywiad yn hanes Cymru.

Mae'r traethawd sydd wedi’i gynnwys yma yn adlewyrchu meddwl aeddfed Williams ar y materion a oedd yn hoelio’r rhan fwyaf o’i sylw fel hanesydd. Mae’r dull yn gytbwys ac yn amhleidiol, ac mae’r amlinelliad o’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru yn un sy'n anodd ei feirniadu. Fodd bynnag, rydym yn cael ychydig o flas ar wreiddioldeb Williams. Ar ôl dewis pwnc lle mae dogfennaeth yn brin, yn sicr o'i chymharu â’r hyn sydd ar gael ar gyfer Lloegr, gwnaeth yn fawr o’r rhan fwyaf o'r ffynonellau llenyddol oedd ar gael yn y Canol Oesoedd diweddarach ac ar ôl hynny. Yn The Welsh Church from Conquest to Reformation defnyddiodd y cerddi crefyddol mawl helaeth a gynhyrchwyd gan feirdd Cymru i archwilio meddylfryd eu noddwyr bonheddig, gan wneud y mwyaf o'r deunydd hwn wrth olrhain agweddau at gred cyn ac ar ôl y rhwyg â Rhufain. Y mae hefyd yn drawiadol yn y modd y mae’n defnyddio ffabrig ffisegol eglwysi plwyfi cyn y Diwygiad i asesu natur a dyfnder duwioldeb y lleygwyr. Gyda'i gilydd, mae hyn yn ychwanegu sylwedd at yr awgrym bod eglwys Cymru a'i chlerigwyr o bosibl yn dlawd, ond bod eu duwioldeb ymhell o fod yn wannaidd. Roedd y dull hwn yn rhan o ddiddordeb ehangach mewn iaith, cred a hunaniaeth yng Nghymru, sy’n un o gryfderau ei ysgrifennu ar hanes eglwysig a’r hanes ehangach a drafodwyd yn Recovery, Reorientation and Reformation.

Ychydig o fanylion y mae'r traethawd yn ei roi am y prosiect dyneiddiol yng Nghymru i ddod â'r bobl at Brotestaniaeth drwy fersiynau Cymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi, er ei fod yn dod i ben gyda datganiad clir mai llwyddiant yr ymgyrch hon oedd yn gyfrifol am oroesiad Cymraeg fel iaith llenyddiaeth a litwrgi ac ar gyfer cynnal ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol drwy’r canrifoedd dilynol. Roedd yr ymdeimlad o genhadaeth lenyddol a rannwyd gan gylch bach o ysgolheigion a gwŷr eglwysig Protestannaidd yn gorfod ymdopi gyda safbwynt y llywodraeth y dylai Saesneg fod yn iaith addoli gyffredin, a chanfyddiad ymysg dyneiddwyr bod yr ieithoedd Celtaidd yn ieithoedd barbaraidd (gweler erthygl Felicity Heal ‘Mediating the word: language and dialects in the British and Irish reformations’, 2005). Mynegi’r thema hon yw un o agweddau mwyaf llwyddiannus Wales and the Reformation.

Crefydd a chred (Glanmor Williams)

Para 4.1

Roedd bywyd yn ddigon caled ac ansicr i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Gan ennill bywoliaeth drwy lafur diarbed mewn ffermio bugeiliol tlawd, roeddent yn sicr ar drugaredd yr hinsawdd, pridd amharod yr ucheldir, ac achosion niferus ac aml o glefydau a allai eu cystuddio hwy a'u da byw. Ond roedd eu crefydd yn eu dysgu eu bod yn gallu sicrhau amddiffyniad yn erbyn y cythreuliaid a’r ysbrydion drwg yr oeddent yn credu oedd o’u cwmpas a gwneud eu heddwch â Duw drwy ei Eglwys a'i gweinidogion yn unig, neu fel arall byddai eu bywyd yn y byd a ddaw yn anfeidrol waeth ac yn fwy poenus nag yn y byd hwn. Byddai pechaduriaid a gondemniwyd yn canfod y byddai eu bodolaeth ar ôl y Farn Derfynol yn dragwyddoldeb o artaith annisgrifiadwy yn Uffern. Nid yw’n syndod, felly, mai eu prif bryder oedd ceisio dod o hyd i rywfaint o ddiogelwch iddynt eu hunain yn erbyn arswyd y byd a ddaw drwy gyfrwng cymwynasgarwch offeiriaid a seintiau, pererindodau a chreirfâu, penyd a phardwn. (4A)

Para 4.2

Roedd aflonyddwch dwys, serch hynny, yn aros ymhlith rhai eneidiau anfodlon. O 1517 ymlaen, mynegodd athrylith crefyddol chwyldroadol, Martin Luther, nid yn unig amheuon a barodd i lawer gwestiynu’r drefn ond a gyflwynodd hefyd ateb hyderus iddynt yn seiliedig ar ei brofiad ei hun. Cyhoeddodd mai ffydd y crediniwr ei hun yng Nghrist yn unig oedd yn dod ag iachawdwriaeth, ac nad oedd angen unrhyw gyfryngwr rhwng ef a Duw, ac mai’r Beibl oedd y ffynhonnell unigryw o wirionedd crefyddol. Roedd ef a Diwygwyr eraill wedi lansio Diwygiad Protestannaidd ar Ewrop yr oedd llawer ar fin ei gofleidio. Fe wnaeth y wasg argraffu gario’r syniadau hyn, oedd mor chwyldroadol yng ngolwg yr awdurdod ac addysg grefyddol sefydledig, ymhell, yn gyflym ac yn helaeth. Cafodd rhai rheolwyr seciwlar hefyd eu temtio i'w derbyn er mwyn dod â'r Eglwys a'i heiddo yn fwy cadarn dan eu rheolaeth (4B). Ni chafodd Harri VIII, brenin Cymru a Lloegr, ei berswadio felly ar y dechrau. Ond o 1527 ymlaen roedd yn dymuno cael ei briodas â Catherine o Aragon wedi ei dirymu, yn rhannol am resymau gwleidyddol ac yn rhannol am resymau personol. Dim ond gan y Pab oedd yr awdurdod i wneud hyn, a gwrthododd ei gais. Felly, ceisiodd Harri a'i weinidogion ei orfodi i newid ei feddwl. Fe wnaeth y senedd basio nifer o Ddeddfau, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, gan arwain at drosglwyddo awdurdod y Pab i'r Brenin, a gwneud Harri yn Bennaeth Goruchaf yr Eglwys yn Lloegr (4C). Nid oedd hwn yn Ddiwygiad Protestannaidd, ond hwn oedd y cam cyntaf pendant tuag ato. Cyn belled ag yr oedd Cymru yn y cwestiwn, yn wahanol i rannau o dde a dwyrain Lloegr, nid oedd fawr o gydymdeimlad – neu ddim o gwbl – ag athrawiaeth Brotestannaidd. Y ffaith ganolog am y Diwygiad yng Nghymru oedd nad gwaith y bobl a’i creodd. Cafodd ei osod arnynt oddi uchod ac o'r tu allan drwy awdurdod y Brenin a'r Senedd. Mynnai’r llywodraeth y dylai lleygwyr mewn awdurdod a'r holl offeiriaid dyngu llw o deyrngarwch i Harri fel y Pen Goruchaf. Yng Nghymru, bron yn ddieithriad, fe wnaethant hynny (4D). Roedd rhai yn anesmwyth wrth weld gweithredoedd y Brenin, ac roedd llawer o gydymdeimlad tuag at y Frenhines Catherine (4E). Ond dim ond dau offeiriad, y naill na’r llall o Gymru, y gwyddys eu bod wedi gwrthod y llw, er bod o leiaf bedwar clerigwr o Gymru, a oedd yn byw yn Lloegr, wedi cael eu dienyddio am ei wrthod.

Para 4.3

Fe wnaeth Harri a'i brif gynghorydd, Thomas Cromwell, fwrw ymlaen i fanteisio ar botensial ariannol yr oruchafiaeth drwy ddiddymu’r mynachlogydd a throsglwyddo eu hasedau i'r Goron. Rhwng 1536 a 1540 roedd pob un o’r deugain a saith o fynachlogydd a brodordai yng Nghymru wedi cael eu hatal. Fe wnaethant ddiflannu heb gofnod o unrhyw brotest neu wrthwynebiad; nid oherwydd eu bod yn ffeuau i anfoesoldeb, ond oherwydd eu bod yn ymddangos fel pe baent wedi mynd y tu hwnt i’w pwrpas. Roedd nifer y mynachod yn rhy fach i'w galluogi i gynnal cyfres lawn o addoliadau a gweddïau, gyda chyfartaledd o ddim ond saith neu wyth mewn tai mwy o faint fel Castell-nedd neu Gonwy, a thua thri mewn rhai llai fel Trefynwy neu Feddgelert (4F). Er bod rhai mynachlogydd wedi cynnal mesur o ddysgu, lletygarwch ac elusen i’r tlodion, nid oeddent erbyn hynny’n gwneud cyfraniadau sylweddol yn hyn o beth fel yr oeddent wedi ei wneud ar un adeg. Nid oeddent chwaith yn arloeswyr gweithgar mewn menter economaidd fel yr oeddent yn flaenorol; roeddent erbyn hynny’n fodlon trosglwyddo’r gwaith o reoli eu hystadau a llawer o bethau eraill i leygwyr. Pan gafodd y mynachlogydd eu diddymu, cafodd rhai mynachod bensiwn, daeth eraill yn offeiriaid plwyf a dychwelodd rhai i fywyd lleyg. Cafodd adeiladau mynachaidd eu hysbeilio am eu cerrig, eu gwaith metel a’u pren, gan fynd yn adfail, er bod rhai eglwysi mynachaidd, fel y rhai yng Nghas-gwent a Hwlffordd, wedi cael caniatâd i aros fel eglwysi plwyf, tra bod adeiladau eraill wedi dod yn dai ar gyfer y bonedd, fel yn achos Ewenni neu Fargam. Er ei fod yn nodwedd amlwg yn hanes crefydd, digwyddodd y diddymu yn rhyfedd o ddigynnwrf. Roedd y mynachlogydd wedi mynd mor seciwlar a hen ffasiwn fel yr oedd modd cael eu gwared heb fawr o ofn ynghylch beth fyddai’r canlyniadau. Roedd y bonedd blaenllaw yn hynod awyddus i elwa ar eu diflaniad, gan gaffael eu heiddo yn hwyr neu'n hwyrach.

Para 4.4

Rhywbeth a oedd yn achosi mwy o bryder i'r awdurdodau na diddymu'r mynachlogydd oedd yr ymateb posibl i ddiddymu creirfâu a chanolfannau pererindod yn gysylltiedig â mynachlogydd a'r eglwysi cadeiriol ym 1538. Pan oedd canolfan boblogaidd iawn cwlt y Forwyn Fair ym Mhen-rhys yn y Rhondda ar fin cael ei chau, rhoddwyd cyfarwyddiadau y dylid gwneud hynny yn y nos mor gyfrinachol â phosibl rhag peri terfysg neu aflonyddwch. Yn Nhyddewi, fe wnaeth Esgob William Barlow, y Protestant mwyaf brwd a anfonwyd i Gymru yn ystod teyrnasiad Harri VIII, wynebu gwrthwynebiad ystyfnig i’w ymosodiadau ar greirfa Dewi Sant a'i gynigion i symud ei gadeirlan i Gaerfyrddin (4G). Ond ni wnaeth y mesurau hyn yn erbyn creirfâu gyffroi unrhyw wrthryfel agored, hyd yn oed. Efallai bod y bardd, Lewys Morgannwg, wedi mynegi teimladau nifer pan ganmolodd y Brenin am ddelio â'r Pab mor gadarn â’i elynion eraill (4H). Roedd ei ddeiliaid yn cymeradwyo rheolaeth gref a chadarnhaol Harri. Sut bynnag, ychydig o wahaniaeth wnaeth ei newidiadau i ddefodau crefyddol o ddydd i ddydd. Roedd yr eglwysi yn edrych yr un fath ag o'r blaen; prin oedd eu gwasanaethau wedi cael eu newid; a Lladin oedd iaith yr addoli o hyd. Gellid dweud fod y Brenin wedi cynnal Pabyddiaeth heb y Pab; ac os dienyddiodd y Cymro Edward Powell am gynnal awdurdod y Pab, llosgodd Thomas Capper o Gaerdydd hefyd am heresi Brotestannaidd (4L). Yn ystod ei deyrnasiad, roedd yr holl bwyslais ar gydlyniad gwleidyddol, nid arloesi athrawiaethol.

Para 4.5

Ni ellid dweud yr un peth am deyrnasiad ei fab. Cafodd y llanc o frenin, Edward VI (1547-1553), ei wthio gan ei gynghorwyr ymhell ac yn gyflym ar hyd y ffordd at wladwriaeth Brotestannaidd. Roedd tri phrif duedd yn y newid. Yn gyntaf, cafwyd rhagor o gyrchoedd ar eiddo'r eglwys, fel siantrïau a cholegau, a waddolwyd i gynnig gweddïau dros y meirw, a chipiwyd offer ac addurniadau eglwysi dan faner diwygio. Yn ail, cafodd llawer o nodweddion arferion crefyddol canoloesol a oedd yn annwyl gan y bobl eu diddymu; dinistriwyd delweddau, lluniau a chroglofftydd; cafwyd gwared ar ddiwrnodau saint a seremonïau traddodiadol; a disodlwyd allorau gan fyrddau. Yn drydydd, ac yn fwyaf arwyddocaol, cafodd y Llyfr Gweddi Gyffredin Protestannaidd Cyntaf (a’r Ail) Saesneg eu hiaith eu cyflwyno yn 1549 a 1552 ar draul y llyfrau gwasanaeth Catholig, Lladin eu hiaith. Parodd hyn anhawster mawr yng Nghymru, lle nad oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn deall Saesneg. Cafodd yr holl newidiadau hyn dderbyniad gwael iawn yng Nghymru. Roeddent wedi cael eu cyflwyno yn llawer rhy sydyn i boblogaeth a oedd i raddau helaeth yn amharod ar eu cyfer, ac a oedd yn eu gweld yn estron ac annealladwy. Mae rhywfaint o farddoniaeth y cyfnod yn dangos pa mor chwerw oedd y gwrthwynebiad (4J).

Ffigur 4.1 Mynachdai Cymru

Para 4.6

Mewn rhai rhannau o'r deyrnas, arweiniodd newidiadau o'r fath at wrthryfel difrifol. Roedd rhai sylwedyddion ar y pryd wedi rhagweld trafferthion yng Nghymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Pam, felly? Efallai bod yr ateb i’w gael mewn cyfuniad o ffactorau crefyddol a seciwlar. Roedd y grymoedd hynny a oedd wedi ynysu’r Cymry yn erbyn heresi a beirniadaeth Brotestannaidd hefyd yn tueddu i’w cadw rhag y mwyaf pwerus o’r tueddiadau diwygio uniongred. Mae absenoldeb beirniadaeth neu ddadlau ynddo'i hun yn arwydd clir o gyflwr simsan crefydd. Digwyddodd gan fod y rhan fwyaf o'r Cymry, yn lleygwyr ac offeiriad fel ei gilydd, yn tueddu i fod wedi eu cyfarwyddo’n wael a’u bod yn arwynebol yn eu cred grefyddol.

Para 4.7

Ar yr un pryd roedd cymhellion neilltuol o bwerus yn annog dosbarth tra-arglwyddiaethol y tirfeddianwyr bonedd i ddilyn yr arweiniad a roddwyd gan frenhiniaeth gref. Gallai'r Goron gynnig posibiliadau gwleidyddol ac economaidd cadarn o ran cynnydd a fyddai, o’i asio ag uchelgeisiau teuluol y bonedd, yn debygol o weithio yn erbyn yr Eglwys. Byddai wedi bod yn rhyfeddol pe bai'r bonedd wedi troi eu cefnau ar deyrngarwch i'r Tuduriaid a oedd mor werth chweil o safbwynt materol ac mor foddhaol iddynt yn seicolegol. Ac eto, mae dynion weithiau yn barod i aberthu hunan-les a thyngu eu cefnogaeth i ffyddlondeb uwch. Efallai y byddent wedi gwneud hynny ar ran yr Eglwys pe bai’r clerigwyr wedi rhoi arweiniad clir i'r cyfeiriad hwnnw. Mae’n ymddangos nad oedd y clerigwyr yn gallu gwneud hynny o gwbl. Roedd yr esgobion a’r uwch glerigwyr yn weision sifil yn bennaf, a benodwyd o ganlyniad i ddylanwad y Brenin ac amharodrwydd i anufuddhau iddo; roedd y clerigwyr is fel arfer yn dlawd, heb eu haddysgu’n dda ac yn aml yn anymwybodol o'r materion dan sylw; ac roedd bywyd y mynachod yn swrth ac yn ddifflach. Y canlyniad oedd bod y clerigwyr wedi cwympo’n ddistadl dan bwysau di-ildio’r wladwriaeth. Nid oes amheuaeth fod gan lawer o ddynion amheuon dwys am yr hyn yr oedd y llywodraeth yn ei wneud, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Edward VI, pan oedd ofnau difrifol am wrthryfel yng Nghymru (4K). Gymaint oedd diymadferthedd crefydd a chred, fodd bynnag, fel nad oedd yn ymddangos fod yr amheuon hyn wedi treiddio’n ddwfn iawn. Cadwodd y rhan fwyaf o ddynion yn dawel at eu hen ffyrdd, yn allanol yn derbyn gorchmynion y llywodraeth, ond yn fewnol yn cadw’n dawel, ac yn gobeithio na fyddai'r newidiadau yn parhau.

Para 4.8

Nid yw'n syndod, felly, nad oedd y rhan fwyaf o'r Cymry yn poeni’n ormodol am ddychwelyd i'r gorlan Rufeinig gyfarwydd yn ystod teyrnasiad Catholig Mari I (1553-1558). Mae rhai o'r beirdd yn awgrymu bod y bobl yn falch o weld yr offeren yn cael ei hadfer a'r allorau yn cael eu sefydlu o'r newydd (4L). Mae’n wir fod cynnwrf ymhlith yr offeiriadaeth - collodd nifer ohonynt eu bywoliaeth am briodi ac ychydig am heresi. Ond dim ond tri merthyr yn sgil heresi a gafwyd ledled Cymru (4M), sy'n rhoi syniad o ba mor fychan oedd y gefnogaeth i Brotestaniaeth, er na ddylid gor-bwysleisio hyn, gan mai dim ond un merthyr a gafwyd yn holl siroedd Lloegr i'r gorllewin o Gaersallog. Ni ddylid meddwl chwaith mai troi’r cloc yn ôl i 1529 a ddigwyddodd. Roedd gormod wedi digwydd yn y cyfamser, a mynnodd yr uchelwyr gadw'r enillion roeddent wedi eu gwneud yn sgil eiddo’r eglwys. Nid oedd priodas Mari â Philip o Sbaen a'i rhyfel yn erbyn Ffrainc yn gamau poblogaidd; ac ychwanegodd cynaeafau gwael ac epidemig ffliw dinistriol at amhoblogrwydd ei chyfundrefn. Hyd yn oed ymhlith y Cymry roedd llond llaw o bobl frwd dros Brotestaniaeth; graddedigion ifanc o Rydychen yn bennaf a gafodd dröedigaeth yn y brifysgol, neu ffigurau amlwg mewn trefi fel Caerfyrddin. Fe wnaeth y rhan fwyaf ohonynt benderfynu’n ddoeth i gadw’n dawel yn ystod teyrnasiad Mari, fel y gwnaeth William Salesbury, tra bod tua hanner dwsin, gan gynnwys Richard Davies, a ddeuai’n esgob yn ddiweddarach, wedi ffoi i ddinasoedd Protestannaidd ar y Cyfandir. Ymhlith Pabyddion pybyr a gefnogai Mari, roedd rhai o'r goreuon, fel Thomas Goldwell, esgob Llanelwy, a Morus Clynnog a Gruffudd Robert, yn awyddus i adfywio'r Eglwys Rufeinig drwy gyflwyno delfrydau diwygiadau Catholig i Gymru (4N). Wrth wneud hynny, fe wnaethant osod y sylfeini ar gyfer gwrthwynebiad Catholig i Elisabeth I yn dilyn hynny. Pe bai teyrnasiad Mari wedi para deg neu bymtheg mlynedd arall, efallai y byddent wedi gwneud Cymru yn wlad ddefosiynol Gatholig.

Para 4.9

Ar ôl i Elisabeth olynu Mari yn Nhachwedd 1558, un o'i gweithredoedd polisi cyntaf yng ngwanwyn 1559 oedd sefydlu Eglwys Anglicanaidd ofalus a chymedrol yn seiliedig ar Ail Lyfr Gweddi’r cyfnod Edwardaidd a gyhoeddwyd ym 1552. Fel y bu, sicrhaodd y setliad hwn lwyddiant y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei dderbyn yng Nghymru heb wrthwynebiad, ond heb unrhyw frwdfrydedd chwaith. Yn rhannol, digwyddodd hyn o barch i'r Eglwys 'a sefydlwyd yn ôl y gyfraith', yn rhannol gan fod pobl yn ansicr beth allai ddigwydd yn y dyfodol pe bai Elisabeth yn priodi neu’n marw, yn rhannol oherwydd y dryswch a achoswyd gan y newidiadau cyflym blaenorol, yn rhannol drwy bwyll, ac yn rhannol gan nad oedd eu hymrwymiad i grefydd mor ddwys fel ei fod yn ysgogi dynion i roi eu hunain mewn perygl. Drwy gydol teyrnasiad Elisabeth (1558-1603), parhaodd cryn dipyn o ddifaterwch, ansicrwydd a chyfaddawdu anesmwyth. Roedd teyrngarwch màs digon anadweithiol y boblogaeth yn destun brwydr gan ddau leiafrif - un yn Gatholig, y llall yn Brotestannaidd - y ddwy ochr yn groyw, ymroddedig a phenderfynol. Roedd ganddynt lawer yn gyffredin. Roedd y ddau yn ddiffuant o wladgarol ac yn drwm dan ddylanwad dysg y Dadeni. Roedd y naill a’r llall yn ymrwymedig i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ymdrech i godi lefel y gred a phuro addoliad ac ymddygiad. Roedd y Pabyddion eisiau gweld y grefydd Rufeinig yn adfywio ac yn cael ei glanhau o’i gormodedd. Roedd eu gwrthwynebwyr yn dymuno cyflwyno cred ac addoliad Diwygiedig yn seiliedig ar awdurdod yr Ysgrythurau. Ni allai’r naill na’r llall, fodd bynnag, anwybyddu ystyriaethau gwleidyddol, a oedd yn parhau i gael dylanwad pendant. Roedd arweinwyr y gwrthwynebiad Catholig yng Nghymru, yn glerigwyr fel Gruffudd Robert neu Owen Lewis, neu’n gynllwynwyr lleyg fel Hugh Owen neu Thomas Morgan, yn gweithio’n bennaf o ganolfannau Catholig yn Ewrop - Rhufain, Milan, Douai neu Paris. Roeddent hwy a'u cefnogwyr yng Nghymru yn dibynnu ar dri phrif offeryn wrth geisio sicrhau adnewidiad Catholig. Yn gyntaf, roedd dynion ifanc a hyfforddwyd yn offeiriaid yn y seminarïau fel y rhai yn Douai neu Rufain a smyglwyd yn ôl i'r wlad i weinidogaethu yn y dirgel. Cafodd tua chant eu recriwtio yng Nghymru, er mai dim ond lleiafrif bach ddaeth yn ôl yno i weinidogaethu. Yn ddewr ac yn gwbl ymroddedig, roeddent yn wynebu erledigaeth a hyd yn oed farwolaeth gyda dewrder mawr (4O). Yn ail, cyhoeddodd y Catholigion lyfrau, llawysgrifau a cherddi, yn Gymraeg a Saesneg, yn amlinellu eu ffydd a'u dosbarthu yn ddirgel ymhlith y ffyddloniaid (4P). Fe wnaethant hyd yn oed sefydlu tair gwasg fyrhoedlog yng Nghymru. Yn drydydd, fe wnaethant gymryd rhan mewn plotiau a chynllwynion a gynlluniwyd i lofruddio Elisabeth, codi gwrthryfeloedd a threfnu goresgyniad tramor. Er bod rhai Cymry ymhlyg mewn cynllwynio o'r fath, nid oeddent yn boblogaidd ac roeddent yn tueddu i ryddhau adlach wladgarol bwerus yng Nghymru (4Q). Erbyn diwedd teyrnasiad Elisabeth dim ond 808 o reciwsantiaid (gwrthwynebwyr Catholig agored) oedd o'i gymharu â 212,450 o eglwyswyr rheolaidd. Roedd y Gwrthddiwygiad wedi methu; roedd y dasg o oresgyn y llywodraeth Brotestannaidd a’r sefydliad yn rhy aruthrol.

Para 4.10

Er gwaetha’r buddiannau yr oedd Protestaniaid yn eu mwynhau fel cefnogwyr yr Eglwys a sefydlwyd gan y Frenhines, a bod ganddynt fonopoli bron â bod ar fynediad at y wasg a'r pulpud, sef y ddau brif gyfrwng ar gyfer dylanwadu ar farn y cyhoedd, bu anawsterau hefyd. Er bod tri ar ddeg o’r un ar bymtheg o esgobion Cymru yn oes Elisabeth yn Gymry, gan gynnwys dau neu dri o allu eithriadol, a’r rhan fwyaf ohonynt yn Brotestaniaid selog ac yn byw yn eu hesgobaethau, roedd llawer o'u clerigwyr yn ddynion difater eu sêl a’u hansawdd. Roedd y rhan fwyaf o blwyfi Cymru yn rhy anfuddiol i ddenu, gan fod eu deiliaid yn ddynion a oedd wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion gramadeg neu brifysgol, ac o’u rhengoedd hwy’n unig y gellid recriwtio pregethwyr trwyddedig (4R). Roedd bywoliaethau tlawd, ar ben hynny, wedi arwain at amlblwyfaeth (mwy nag un fywoliaeth ar y tro) ac absenoldeb. Dim ond yn araf y gallai'r Eglwys yng nghyfnod Elisabeth obeithio weld cefn ar y clerigwyr israddol yr oedd wedi eu hetifeddu a cheisio recriwtio gwell olynwyr iddynt. Erbyn diwedd y deyrnasiad, fodd bynnag, roedd wedi llwyddo i ryw raddau o ran codi’r safon yn gyffredinol. Roedd nifer yr offeiriaid oedd wedi cael addysg uwch wedi cynyddu'n sylweddol, ac ymhlith y clerigwyr uwch cafwyd dynion o fri ac ymrwymiad go iawn, fel Edmwnd Prys neu Edward James. Nid dim ond offeiriaid oedd yn destun cwynion esgobion a beirniaid eraill; daeth y lleygwyr hefyd dan eu llach. Cafwyd adroddiadau am anwybodaeth eang, ofergoeliaeth a goroesiad arferion Catholig ar bob lefel gymdeithasol (4Si, 4Sii, 4Siii). Roedd nifer o'r bonedd yn slac wrth weithredu eu dyletswydd i orfodi setliad crefyddol, ac roedd gan rai cydymdeimlad cynnes â Chatholigiaeth (4T). Bu eraill yn dilyn yn ddiymdroi'r arweiniad a roddwyd iddynt gan fwy nag un weinyddiaeth Duduraidd yn ysbeilio a manteisio ar eiddo a refeniw’r Eglwys. Er tegwch i'r lleygwyr, serch hynny, dylid cofio bod rhai o'r diwygwyr ac awduron mwyaf gweithgar a'u noddwyr wedi dod i’r amlwg o blith eu rhengoedd - dynion fel William Salesbury, Morus Kyffin a Humphrey Toy. Roedd hyn yn dystiolaeth huawdl i newid ym mhwyslais y Diwygiad Protestannaidd at fwy o rôl ym mywyd crefyddol i leygwyr dysgedig a duwiol. Ymhellach, erbyn 1603 roedd llawer o'r sgweieriaid wedi dod i weld yr Eglwys Wladol fel un o wrthgloddiau cadarnaf trefn a sefydlogrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, a dyna yn ôl pob tebyg oedd y ffactor tyngedfennol oedd yn gyfrifol am eu cefnogaeth.

Para 4.11

Angen mwyaf dybryd yr Eglwys yng nghyfnod Elisabeth, fodd bynnag, oedd fersiwn Gymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Cyflawni cyfieithiad o'r fath oedd ei buddugoliaeth bendant. Fe wnaeth Deddf Seneddol yn 1563 awdurdodi’r cyfieithiad a mynnu ei fod yn cael ei ddefnyddio ym mhob plwyf lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad fel arfer (4U). Ymddangosodd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Cymraeg, gwaith William Salesbury a Richard Davies yn bennaf, ym 1567, a Beibl cyflawn William Morgan ym 1588 (4V). I ganlyn hynny cyfieithwyd y catecism, y Llyfr Homilïau, a chlasuron crefyddol eraill i'r Gymraeg. Fe wnaeth cyhoeddi'r llenyddiaeth hon, er bod llai wedi ei wneud nag yr oedd y Diwygwyr wedi ei obeithio’n wreiddiol, sicrhau llwyddiant y Diwygiad yng Nghymru. Hebddo, byddai addysgu Protestannaidd wedi bod yn ffars ddiystyr yng nghanol poblogaeth uniaith Gymraeg. Nid oedd gwasanaethau Saesneg yn fwy dealladwy na'r rhai Lladin, yn yr hyn y cyfeiriodd George Owen ato fel 'cyfnod dallineb' (4W). Fe wnaeth gwneud y Gymraeg yn iaith addoli cyhoeddus roi statws gwell i’r iaith a sicrhau ei bod yn goroesi. Fe wnaeth y Beibl Cymraeg, gan gyfuno egni a phurdeb iaith glasurol y beirdd gyda hyblygrwydd ac amrediad estynedig, osod y sylfaen ar gyfer holl lenyddiaeth Gymraeg yn dilyn hynny. Cafodd ei hebrwng gan ailddehongliad hanesyddol dramatig a wrthododd yn bendant y syniad bod y Diwygiad yn heresi ffasiwn newydd ac yn gredo Saesneg estron. I’r gwrthwyneb, fe'i cyflwynwyd fel adfywiad o’r Eglwys Brydeinig gynharaf ac adfywiad Oes Aur cyndadau Prydeinig y Cymry (4X). Fel y cyfryw, profodd yn ffactor hynod o gryf wrth gadw ac ysgogi gwladgarwch Cymreig.

Uned 5 Mudo yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif